Swyddi ar lein
Uwch Therapydd Galwedigaethol
£42,708 - £44,711 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-28171
- Teitl swydd:
- Uwch Therapydd Galwedigaethol
- Adran:
- Oedolion, Iechyd a Llesiant
- Gwasanaeth:
- Oedolion
- Dyddiad cau:
- 31/03/2025 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £42,708 - £44,711 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS3
- Lleoliad(au):
- Dolgellau
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Llinos Rowlands ar 01341424572
Cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-bost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH AR Y 31/03/2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gallu i weithio’n effeithiol fel aelod o dîm ac ar ben ei hun.
Yn berson dibynadwy a hyblyg sy’n awyddus i weithio mewn dulliau newydd a creadigol.
Brwdfrydig, hunan dibynnol a phendant.
Cefnogi arferion gwrth-wahaniaethol
Cyfathrebu’n effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth, asiantaethau eraill a darparwyr
Meddu ar siliau negodi cryf
Ymrwymedig i werthoedd, egwyddorion, nodau ac amcanion y gwasanaeth.
Person sy’n awyddus i ddysgu a datblygu
Gallu cyfathrebu yn effeithiol a chreu perthynas efo unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau oedolion.
Meddyliwr creadigol a chyfathrebwr effeithiol gyda’r gallu i ysbrydoli’r gweithlu
Diddordeb a Gwybodaeth am ddatblygiad proffesiynol ac awydd i ddysgu eraill
Gonestrwydd, pendantrwydd a hyblygrwyddDYMUNOL
-CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Cymhwyster Cymhwyso Therapi Galwedigaethol cydnabyddedig –
Gradd neu Diploma mewn Therapi Galwedigaethol
Cofrestru gyda Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)
Wedi cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru
Cymhwyster rheoli Team Manager Development Programme neu yn ymrwymo
i gwblhau o fewn cyfnod o 3 blyneddDYMUNOL
Aelod o Gymdeithas Brydeinig y Therapyddion Galwedigaethol
Cymhwyster rheoli neu yn ymrwymo i gwblhau o fewn cyfnod o 3 blyneddPROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o weithio mewn tîm
Profiad o weithio yn uniongyrchol efo oedolion/plant /pobl ifanc a theuluoedd
Profiad o asesu anghenion a llunio cynllun gofal
Profiad o weithio efo asiantaethau eraill yn effeithiol
Profiad o ddelio efo achosion diogelu
Profiad o waith gofal cymunedol gydag oedolion a’u gofalwyr.
Profiad o ddelio efo achosion cymhleth
Profiad o weithio i ddeddfwriaethau gwahanol
Profiad o fentora o fewn y rôl therpi galwedigaethol
Profiad o reoli risgiau ac arddangos barn broffesiynol gadarnDYMUNOL
Profiad o gyfrannu i gynlluniau /prosiectau
Profiad o goruchwylio staffSGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gallu i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i gyfeiriadau a blaenoriaethu yn
Addas.
Gallu i ymgymryd ag asesiadau cymdeithasol a chreu cynlluniau gofal. Gwybodaeth o ddeddfwriaeth berthnasol, sgiliau rheoli gofal,
dealltwriaeth o arferion gwaith cymdeithasol da.
Gallu i ddefnyddio system wybodaeth gyfrifiadurol mewn perthynas ag
anghenion Gwasanaeth
Gallu derbyn goruchwyliaeth ac arweiniad yn effeithiol er budd y Gwasanaeth a datblygiad personol
Sylfaen sgiliau amrywiol yn seiliedig ar brofiad o weithio efo unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau, plant a theuluoedd .
Sgiliau mentora gweithwyr ar amryw o feysydd gwahanol
Sgiliau cyflwyno a chadeirio
Sgiliau negodi daDYMUNOL
-
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cynorthwyo unigolion bregus i fyw eu bywydau yn y modd y maent eisiau ei fyw.
• Sicrhau fod pobl Gwynedd yn ganolog yn i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Asesu anghenion oedolion a’u gofalwyr yn unol a gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol eraill.
• Darparu gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chefnogaeth i ddinasyddion i’w galluogi i gwrdd ac amcanion personol
• yn y prif ddyletswyddau
• Cynorthwyo pobl i adnabod datrysiadau, atal dibyniaeth a hyrwyddo annibyniaeth
• Darparu gwybodaeth ynglyn a’r adnoddau cefnogol sydd ar gael yn y gymuned, gan y trydydd sector, y Cygor a’r Bwrdd Iechyd er mwyn galluogi dinasyddion I fyw mor annibynnol a phosib a gwella eu ansawdd bywyd I’r eithaf.
• Sicrhau fod anghenion unigolion yn cael eu cyfarch yn unol a threfniadau diogelu y Cyngor a’r cyfrifoldebau statudolCyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Cyllid – Darparu cyngor ac arweiniad ymarferol a phriodol i ddefnyddwyr gwasanaeth er hwyluso rheolaeth cyllid effeithiol yn y Gwasanaeth.
• Offer – Cyfrifoldeb am unrhyw offer arbenigol a ddefnyddir i gyflawni y swydd. Arddangos y defnydd gorau o adnoddau o ran darpariaeth addasiadau ac offer addas a darparu gwasanaeth yn unol a’r polisiau, gweithdrefnau a chanllawiau. Cyfrifoldeb dros allweddi i’r storfeydd ble cedwir offer.
Prif Ddyletswyddau.Dyletswyddau Cyffredinol
• Ymarfer o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a’r canllawiau perthnasol sy’n sail i ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru
• Gweithredu’r cod ymarfer proffesiynol fel gweithiwr proffesiynol cofrestredig
• Meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf a chynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun a chadw portffolio o dystiolaeth datblygiad proffesiynol parhaus. Cefnogi glas-therapyddion a therapyddion galwedigaethol gyda'u dysgu a'u datblygiad. Datblygu ymarfer trwy oruchwylio a myfyrio.
• Goruchwylio nifer cyfyngedig o aelodau tîm yn unol â'r disgwyliadau yn y polisi goruchwylio a'r polisïau adnoddau dynol. Nodi cryfderau a meysydd datblygiadol ar gyfer staff trwy oruchwylio a gwerthuso parhaus. Defnyddio sgiliau datblygu a rheoli yn effeithiol i ddatblygu perfformiad staff yn barhaus. Cynghori aelodau tîm mewn meysydd gwaith arbenigol o fewn y rôl oruchwylio.
• Rheoli eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano.
• Cydweithio o fewn timau, rhwydweithiau a systemau amlddisgyblaethol ac aml-sefydliadol. Cynghori cydweithwyr ar feysydd gwaith cymhleth. Cynrychioli'r awdurdod lleol mewn cyfarfodydd perthnasol.
• Arfer barn broffesiynol a gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth. Cefnogi cydweithwyr ar wahanol adegau yn eu gyrfa i ddatblygu hyder ynghylch barn broffesiynol trwy'r rôl oruchwylio.
• Rheoli materion moesegol, cyfyng-gyngor a gwrthdaro mewn sefyllfaoedd cymhleth. Cefnogi therapyddion galwedigaethol ar wahanol gamau o'u gyrfaoedd i reoli materion mwy cymhleth trwy'r rôl oruchwylio.
• Paratoi a chyflwyno adroddiadau a chofnodion proffesiynol gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyson, ac yn cael ei rhannu'n ddiogel ac yn briodol. Cefnogi cyd-weithwyr ar wahanol gamau o'u gyrfa i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu adroddiadau a chadw cofnodion trwy'r rôl oruchwylio.
• Cefnogi pobl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
• Eiriol gydag ac ar ran unigolion, teuluoedd, cynhalwyr, grwpiau a chymunedau.
• Cydweithio â phobl sydd angen gofal a chymorth a gweithwyr proffesiynol eraill mewn sefyllfaoedd cymhleth, a chefnogi cydweithwyr gyda chyngor ac arweiniad ar wahanol gamau yn eu gyrfa trwy'r rôl oruchwylio.
• Cynnal asesiadau ac ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder mewn ffordd sy'n hyrwyddo hunan benderfyniad, annibyniaeth a grymuso a chefnogi cydweithwyr gyda chyngor ac arweiniad ar wahanol gamau yn eu gyrfa. Cefnogi cydweithwyr ar wahanol adegau yn eu gyrfa o amgylch y maes gwaith hwn trwy'r rôl oruchwylio.
• Cynnal asesiad sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gan ddefnyddio sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’ i nodi beth sy’n bwysig i’r unigolyn, anghenion cymwys a datblygu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau sy’n hwyluso gofal a chymorth. Cynnig arweiniad a chefnogaeth i gydweithwyr llai profiadol yn y maes gwaith hwn o fewn y rôl oruchwylio.
• Paratoi, cynhyrchu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau gydag unigolion, teuluoedd, gofalwyr, grwpiau, cymunedau a chydweithwyr proffesiynol. Cefnogi cydweithwyr ar wahanol adegau yn eu gyrfa o amgylch y maes gwaith hwn o fewn rôl oruchwylio.
• Nodi, asesu ac ymchwilio i Oedolyn neu Blentyn sy’n wynebu risg yn unol â deddfwriaeth berthnasol a Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Cefnogi cydweithwyr ar wahanol adegau yn eu gyrfaoedd i ddatblygu eu sgiliau a gwneud penderfyniadau yn ymwneud â gweithio ym maes diogelu o fewn rôl oruchwylio.
• Asesu galluedd meddyliol unigolion yn unol â gofynion y Ddeddf Galluedd Meddyliol gan gefnogi cydweithwyr llai profiadol yn y maes gwaith hwn o fewn y rôl oruchwylio.
• Asesu anghenion a gofynion unigolion o ran mân addasiadau, addasiadau mawr ac addasiadau strwythurol cymhleth (gan gynnwys estyniadau). Ystyried yr angen am lety priodol. Sicrhau bod yr addasiad yn cael ei gwblhau i'r safon ddisgwyliedig sy'n cwrdd â'r angen a cefnogi cydweithwyr llai profiadol yn y maes gwaith hwn o fewn y rôl oruchwylio.
• Dangos lefel uchel o hyfedredd clinigol a chyfrannu at brosiectau datblygu gwasanaeth o fewn y tîm Therapi Galwedigaethol. Cefnogi cydweithwyr llai profiadol yn y maes gwaith hwn o fewn y rôl oruchwylio.
• Asesu, cynllunio, darparu ac arddangos y defnydd o dechnegau neu offer arbenigol i unigolion, gofalwyr a darparwyr gofal. Cynghori cydweithwyr llai profiadol yn y maes gwaith hwn o fewn y rôl oruchwylio.
• Cynnal a chofnodi asesiadau risg codi a chario cynhwysfawr yn unol â chanllawiau a deddfwriaeth.
• Datblygu, cynllunio ac adolygu cynlluniau codi a chario i reoli'r risg i unigolion a gofalwyr.
• Monitro rhestrau aros a dyrannu achosion mewn ymgynghoriad â'r arweinwyr TAC. Sgrinio cyfeiriadau , gwneud penderfyniadau am ddyraniad ac achosion blaenoriaeth.
• Bod yn fodel rôl a rhannu arfer da, cyngor a chefnogaeth i alluogi cydweithwyr tîm, cydweithwyr llai profiadol i ddatblygu eu gyrfaoedd. Bydd hyn yn cynnwys mentora goruchwyliaeth, cydweithio ar achosion a chefnogi proses sicrhau ansawdd y gwasanaeth trwy archwilio a samplu ffeiliau ac arferion a chynghori cydweithwyr ar feysydd gwaith arbenigol o fewn y rôl oruchwylio.
• Ysgogi, annog a grymuso staff trwy ddirprwyo gwaith yn effeithiol a chreu amgylchedd o barch a chydweithio. Rhoi cyfeiriad ac adborth i staff trwy rannu'r weledigaeth yn effeithiol.
• Rheoli defnydd effeithlon o adnoddau gan gynnwys sgiliau a gwybodaeth staff.
• Cyfrannu at ac arwain ar brosiectau yn lleol ac yn rhanbarthol.
• Cyfrannu at yr agenda cynllunio’r Gweithlu trwy gydlynu’r broses lleoli myfyrwyr blynyddol o fewn y tîm.Dyletswyddau Lleol
• Hybu annibyniaeth, galluogi a cefnogi unigolion fod yn datrys problemau eu hunain drwy sgyrsiau wedi eu seilio ar gryfderau.
• Bod yn rhan o’r IAA (rhoi gwybodaeth, cyngor a cymerud cyfeiriadau).
• Cwblhau asesiadau:
a. Beth Sy’n Bwysig (cwblhau “occupational analysis” ar weithgareddau pob dydd).
b. Symud a Thrin.
c. Capasiti a best interest.
d. Cadeiriau (arbennigol ac olwyn).
e. Gwlau.
f. Osgo.
g. Asesiadau arbenigol eraill.
• Darparu ymyrraethau (e.g. offer, addasiadau man a mawr).
• Defnyddio ei’n hunain fel adnoddau pan nad oes adnoddau eraill ar gael.
• Cyfeirio ymlaen i’r trydydd sector, proffesiynnau eraill (e.g. Ffisiotherapydd).
• Gweithio gyda “reps” er mwyn cynyddu gwybodaeth arbenigol a cael offer arbennigol i’r unigolion.
• Adolygu ymyrraethau.
• Dangos i unigolion/gofalwyr sut mae defnyddio’r offer.
• Hyfforddiant i ofalwyr/teulu sut mae defnyddio offer symud a thrin.
• Cwblhau llythyrau cefnogi ar gyfer TOT.
• Cymeryd myfyrwyr ymlaen.Dyletswyddau Eraill
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
• Oherwydd natur y gwaith, bydd angen cael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.• Gweithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol yn ôl yr angen.
• Bydd disgwyliad i ddeilydd y swydd fod yn rhan o unrhyw drefniadau gaiff eu sefydlu ar sail rota.Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.