NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
• Sgiliau cyfathrebu, ar lafar ac yn ysgrifenedig, o’r radd flaenaf
• Egni, brwdfrydedd, ymroddiad a dyfalbarhad
• Gallu defnyddio a dehongli gwybodaeth yn gywir
• Y gallu i weld anghenion o safbwynt y cwsmer. Y gallu i ennyn cydweithrediad ac ymddiriedaeth cydweithwyr
• Y gallu i weithio fel rhan o dîm a chefnogi ac annog cydweithwyr
• Yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol da
• Y gallu i addasu, a derbyn newidiadau
• Yn talu sylw i fanylder ac yn ymroddedig er mwyn sicrhau gwasanaeth o’r ansawdd gorau
• Yn bendant, cwrtais, diplomyddol, parchus a sympathetig
• Yn hyblyg
• Yn meddu ar record bresenoldeb a phrydlondeb da
• Y gallu i ddysgu o brofiadau Yn meddu ar sgiliau amlorchwyl, cadw amser, a blaenoriaethu
• Yn cyflwyno delwedd bositif i’r cwsmer
• Yn gallu datrys problemau
• Yn meddu ar synnwyr digrifwch
• Yn daclus bob amser
• Y gallu i gydweithio gyda budd-ddeiliaid mewnol ac allanol.
• Yn meddu ar sgiliau rhyngweithio gwych a’r gallu i ffurfio a chynnal perthnasau gweithio.
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
• Cefndir addysgol gadarn
DYMUNOL
• Addysg i safon Uwch
• Cymhwyster Goruchwylio neu Reoli priodol, neu o leiaf tair blynedd o brofiad.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
• Y profiad a’r hyder i oruchwylio a datblygu tîm o staff yn effeithiol, gan gynnwys ymdrin â materion staffio cymleth.
DYMUNOL
• Profiad o ddarparu gwasanaethau gofal cwsmer
• Profiad o sefydlu a datblygu gwasanaethau newydd
• Profiad o weithio yn y rheng flaen
• Profiad o fonitro a rheoli perfformiad
• Profiad o gasglu, trefnu a rheoli gwybodaeth
• Profiad o ymdrin ag ymholiadau cwsmeriaid
• Profiad o ymdrin â chwynion, gwrthdaro ac ymholiadau cymhleth a sensitif
• Gwybodaeth a phrofiad o weithio o fewn cyfundrefn amlswyddogaethol fawr.
• Profiad o fewnbynnu gwybodaeth i gyfrifiadur gan arwain a chefnogi staff eraill.
• Profiad o ddarparu gwasanaeth sydd yn rhoi’r cwsmer yn gyntaf
• Profiad o ddelio gyda materion staffio cymhleth
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
• Ymwybyddiaeth o’r cyfleon y mae technoleg yn ei gynnig i wella darpariaeth gwasanaeth
• Medru defnyddio cyfrifiadur
• Yn rhifog ac yn llythrennog
• Y gallu i awgrymu a chefnogi gwelliannau i wasanaethau
• Y gallu i ddysgu ffyrdd ewydd ac arloesol o weithio
DYMUNOL
• Sgiliau dadansoddi gwybodaeth er mwyn gwella perfformiad
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad – Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall – Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu – Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)