skip to main content
header_main

Manylion

Cartref > Trigolion > Swyddi > Swyddi ar lein > Manylion swydd

Swyddi ar lein

PENNAETH CYFATHREBU CORFFORAETHOL

Gweler Hysbyseb Swydd

Cyfeirnod personel:
24-28073
Teitl swydd:
PENNAETH CYFATHREBU CORFFORAETHOL
Adran:
Swyddi cyffredinol
Gwasanaeth:
Swyddi cyffredinol
Dyddiad cau:
07/03/2025 12:00
Cyflog:
Gweler Hysbyseb Swydd
Lleoliad(au):
Llanelwy

Manylion

Hysbyseb Swydd

PENNAETH CYFATHREBU CORFFORAETHOL
Pencadlys y Gwasanaeth, Llanelwy
Parhaol, 37 awr yr wythnos
Cyflog: £57,692 - £61,877 (gyda lwfans ar alwad o 8.5%)

Swyddi Gwag - Recriwtio - Amdanom Ni - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru


Mae cyfle arweinyddiaeth strategol wedi codi o fewn Gwasanaeth Tân
ac Achub Gogledd Cymru ar gyfer Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol
parhaol. Bydd y rôl hanfodol hon yn adrodd i'r Bwrdd Gweithredol ac
yn aelod gweithgar ac annatod o Dîm Arweinyddol y Gwasanaeth.
Lleolir y rôl yn y Pencadlys yn Llanelwy, gyda pheth hyblygrwydd ar
gyfer gweithio o bell.
Fel Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol, byddwch yn rhoi cyngor
strategol, moesegol a phragmatig, her a chefnogaeth i'r Prif Swyddog
Tân, y Bwrdd Gweithredol a'r Awdurdod Tân. Byddwch yn gyfrifol am
sicrhau bod cyfathrebu ac ymgysylltu wrth wraidd cyflwyno
gwasanaethau effeithiol a llwyddiant sefydliadol.
Gan arwain swyddogaeth Cyfathrebu Corfforaethol deinamig,
byddwch yn goruchwylio cysylltiadau â’r cyfryngau, cyfathrebu
mewnol, cysylltu â’r gymuned, materion allanol a bod yn allweddol
wrth gynnal ymrwymiad y Gwasanaeth i ddwyieithrwydd, gan sicrhau
bod y Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal mewn
cyfathrebu cyhoeddus a gweithrediadau mewnol. Byddwch yn bwrw
ymlaen â Strategaeth Gyfathrebu gynhwysfawr sy’n cael ei llywio gan
ddata, gan feithrin ymddiriedaeth, hygrededd ac ymgysylltu â
rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn weithiwr cyfathrebu proffesiynol
profiadol iawn, gyda'r gallu i arwain ar draws pob disgyblaeth, gan
gynnwys cyfathrebu mewn argyfwng, ymgysylltu digidol, rheoli brand a
newid diwylliant sefydliadol. Byddwch yn dangos arweinyddiaeth
drawsnewidiol, gan ymgorffori dulliau cyfathrebu arloesol a sicrhau bod
gan y Gwasanaeth lais cryf, dylanwadol a chyson ar draws pob
platfform.
Fel rhan o’r rôl hon, byddwch yn arwain ac yn cymryd rhan mewn rota
ar alwad 24/7 ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru i ddarparu
cefnogaeth yn y wasg a’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer
digwyddiadau mawr y tu allan i oriau arferol.
Rydym yn chwilio am arweinydd â gweledigaeth sy'n cyd-fynd â Chod
Moeseg Craidd Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân, gan ddod ag
ymrwymiad cryf i gynhwysiant, cydweithredu a gwasanaeth
cyhoeddus.
I gael manylion pellach ynglŷn â'r rôl, edrychwch ar y pecyn
gwybodaeth. I wneud cais, cwblhewch a chyflwynwch eich pecyn
ymgeisio drwy e-bost at: recruitment@northwalesfire.gov.wales
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw
12.00 hanner dydd, 07/03/2025
Cedwir at y dyddiad cau yn llym ac ni fydd unrhyw eithriadau

Chwilio am swydd