ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL DYFFRYN NANTLLE, PENYGROES
(cyfun 11 - 18; 420 o ddisgyblion)
Yn eisiau: 1af o Fedi, 2025.
ATHRO / ATHRAWES (DROS DRO)
Cytundeb dros dro am flwyddyn hyd at 31/8/2026 yn unig yw hwn.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod gan athrawon egnïol a brwdfrydig. Bydd y sawl a benodir yn cael ei gyflogi dan y Cynllun Pontio Cynradd-Uwchradd Llywodraeth Cymru. Gweler y manylion pellach (swydd ddisgrifiad) am fwy o fanylion am y cynllun. Mae’r pwnc i’w benderfynu ynghyd a’r oriau gwaith.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£32,433 - £49,944) yn ôl profiad a chymwyster (pro rata os yw’r swydd yn rhan amser).
Mae’r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â’r Pennaeth, Mrs Rhian Parry Jones drwy e-bostio Pennaeth@dyffrynnantlle.ysgoliongwynedd.cymru neu ffonio 01286 880345.
Nodwch os gwelwch yn dda NI DDYLID ymgeisio i'r ysgol yn uniongyrchol. Dylech ymgeisio drwy lenwi’r ffurflen gais sydd wedi’i atodi i’r hysbyseb hon gan nodi eich dymuniad o ran lleoliad. Anfonwch eich cais gorffenedig i Lywodraeth Cymru trwy AthrawonCC.WMTeachers@llyw.cymru erbyn y dyddiad cau, sef 23:59 dydd Sul, 2 Mawrth 2025.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o’r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.