Swyddi ar lein
Dirprwy Bennaeth Ysgol Glan y Môr
£68,090 - £75,111 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-28038
- Teitl swydd:
- Dirprwy Bennaeth Ysgol Glan y Môr
- Adran:
- Addysg
- Gwasanaeth:
- Ysgolion
- Dyddiad cau:
- 18/02/2025 12:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol
- Cyflog:
- £68,090 - £75,111 y flwyddyn
- Lleoliad(au):
- Ysgol Glan y Môr, Pwllheli
Manylion
Hysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION UWCHRADD
YSGOL GLAN Y MÔR, PWLLHELI
(Ysgol Gyfun 11 – 16 oed, 479 o ddisgyblion)
Yn eisiau: ar gyfer 28 Ebrill, 2025.
DIRPRWY BENNAETH
CYFLOG: L13 – L17 ar y Raddfa Arweinyddiaeth - (£68,090 - £75,111)
Yn dilyn dyrchafiad deilydd presennol y swydd i gyfrifoldeb uwch o fewn yr Awdurdod, mae Corff Llywodraethol Ysgol Glan y Môr yn awyddus i benodi Dirprwy Bennaeth.
Gwahoddir ceisiadau gan athrawon cymwys a brwdfrydig i ymuno ag Uwch Dîm Arwain yr ysgol ar amser cyffrous o ddatblygu byd addysg yng Nghymru. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod â’r rhinweddau, sgiliau a phrofiad sy’n angenrheidiol wrth arwain a rheoli ysgol trwy gyfnod o newid.
Bydd gan y swydd ystod o gyfrifoldebau sy'n adlewyrchu cryfderau a diddordebau'r ymgeisydd llwyddiannus. Mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu fel rhan o Uwch Dîm Arwain clos mewn awyrgylch gefnogol a chadarnhaol. Pennir union gyfrifoldebau’r swydd mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth yn ôl profiad yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd.
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol ynglŷn â’r swydd i gysylltu am sgwrs anffurfiol gyda’r Pennaeth, Guto Wyn ar y rhif ffôn isod neu: pennaeth@glanymor.ysgoliongwynedd.cymru
Gellir cyflwyno cais am y swydd ar-lein neu i’w cyflwyno i Mr Robin Llywelyn Roberts, Rheolwr Busnes yr ysgol drwy ffonio 01758 701244 neu e-bostio sg@glanymor.ysgoliongwynedd.cymru Os dymunir dychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DDYDD MAWRTH, 18 CHWEFROR, 2025.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o’r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Rhagwelir cynnal y cyfweliadau am y swydd yma ar ddydd Iau, 20 Chwefror, 2025
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Brwdfrydig ac ymroddgar.
Ymrwymedig i welliant parhaus.
Gallu ysbrydoli, ysgogi a gosod her i eraill.
Ymgorffori gweledigaeth yr ysgol.
Sgiliau rhyngbersonol o’r radd flaenaf.
Y gallu i weithio dan bwysau a chyfarfod â therfynau amser.
Y gallu i berthnasu yn dda gyda phlant a gwarchod eu hawliau unigol.
Gallu arddangos deallusrwydd emosiynol a sgiliau perthnasu deinamig.
Y gallu i gyfathrebu’n gyhoeddus yn effeithiol.DYMUNOL
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Gradd Anrhydedd.
Statws athro/athrawes wedi cymhwyso.
Tystiolaeth o ddatblygiadau proffesiynol parhaus perthnasol.DYMUNOL
Gradd Uwch neu gymhwyster cyfwerth.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o ddatblygu strategaethau ysgol gyfan mewn rhai o’r meysydd a nodir yn y swydd ddisgrifiad.
Profiad o sefydlu ac adeiladu partneriaethau gyda rhieni, y gymuned a gyda phartneriaid eraill.
DYMUNOL
Tystiolaeth o brofiad cyson a pherthnasol o arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol.
Tystiolaeth o gydweithio’n effeithiol gyda llywodraethwyr.SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau cyfoes mewn addysg yn lleol ac yn genedlaethol.
Meddu ar ddealltwriaeth eglur o egwyddorion dysgu o ansawdd, addysgu ac asesu.
Meddu ar ddealltwriaeth gadarn o brosesau gwella’r ysgol.
Meddu ar wybodaeth gadarn o strategaethau gweithredu sy’n sicrhau safonau uchel o ymddygiad a phresenoldeb.
Gallu paratoi strategaethau ar gyfer sicrhau cynhwysiad cymdeithasol, amrywiaeth a mynediad.
Meddu ar wybodaeth dda o rôl y corff llywodraethol ac yn gallu gweithredu strategaethau gwelliant parhaus ac atebolrwydd.
Meddu ar wybodaeth dda o’r cwricwlwm ehangach tu hwnt i’r ysgol a’r cyfleoedd ar gyfer disgyblion a chymuned yr ysgol.
Meddu ar y gallu i hyrwyddo'r defnydd o’r Gymraeg yn effeithiol yn yr ysgol a’r gymuned.DYMUNOL
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Y gallu i gyfathrebu’n gywir, effeithiol a hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod plant a phobl ardal Pwllheli yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cefnogi a dirprwyo’r Pennaeth i ddarparu arweinyddiaeth a rheolaeth broffesiynol ar gyfer yr ysgol.
• Cefnogi’r Pennaeth i sicrhau gwelliant parhaus a llwyddiant i’r ysgol yn sgil cyfleoedd dysgu ac addysgu o safon uchel i’r holl ddisgyblion a safonau cyrhaeddiad uchel ym mhob agwedd o waith yr ysgol.
• Cefnogi’r Pennaeth i greu amgylchedd cynhwysol a theg sydd yn sicrhau llesiant a ffyniant pob disgybl.
• Mae’r ysgol hon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Staff, cyllid, offer ac adnoddau yr ysgol.
Prif Ddyletswyddau.
AmodauMae gofynion y swydd hon i'w cyflawni yn unol â darpariaethau Dogfen Cyflogau ac Amodau Athrawon ysgol ac o fewn amrediad dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y ddogfen honno. Mae’r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw
amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.Rhaid i ddyletswyddau proffesiynol Dirprwy Bennaeth yr ysgol hon gael eu cyflawni yn unol â’r darpariaethau’r Deddfau Addysg, Gorchmynion a Rheoliadau sy’n weithredol dan y Deddfau Addysg, offeryn llywodraethu'r ysgol, unrhyw ddogfen ymddiriedolaeth sy’n berthnasol i’r ysgol ac unrhyw gynllun sy’n cael ei baratoi neu ei gynnal gan Yr Awdurdod Lleol dan Adran 48 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(87).
Rhaid cyflawni’r dyletswyddau yn unol ag unrhyw reolau, Rheoliadau neu bolisïau a wnaethpwyd gan gorff llywodraethu’r ysgol ac y mae’r corff hwnnw yn gyfrifol amdanynt; ac yn yr un modd unrhyw reolau, rheoliadau neu bolisïau a wnaethpwyd gan yr Awdurdod Lleol o ran materion nad yw’r corff llywodraethu yn gyfrifol amdanynt.
Gweithredu’r ‘Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth’ fel y gwelir yn yr Atodiad. Dylid hybu ac arwain nodweddion, gwerthoedd a dealltwriaeth broffesiynol, cynllunio gwaith yn hyderus gan osod targedau i’w monitro a’u hasesu wrth gynnal amgylcheddau dysgu effeithiol, lle mae pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel a hyderus.
Mae'r dyletswyddau hyn i'w cyflawni yn ôl cyfarwyddyd rhesymol y Pennaeth o bryd i'w gilydd fel y bo'n briodol. Mae'r Dirprwy Bennaeth yn atebol i’r Corff Llywodraethol a Phennaeth yr Ysgol. Disgwylir i’r Dirprwy Bennaeth fod yn gyfrifol am yr ysgol yn absenoldeb y Pennaeth.
Cyfrifoldebau Proffesiynol
Mae disgwyl i’r Dirprwy Bennaeth gyflawni’r dyletswyddau proffesiynol fel a ganlyn:
• Arwain ar drefniadaeth, a datblygiad ysgol gyfan trwy helpu i ddarparu arweinyddiaeth strategol gyffredinol a, gydag eraill, arwain, datblygu a chefnogi cyfeiriad strategol, gweledigaeth, gwerthoedd a blaenoriaethau’r ysgol. Mae angen datblygu, gweithredu a gwerthuso polisïau, arferion a gweithdrefnau’r ysgol yn rheolaidd yn unol â’r gofynion hyn.
• Arwain ar agweddau strategol o arwain a rheoli’r addysgu a’r dysgu ar draws yr ysgol gyfan gan sicrhau, ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig, bod athro’n cael ei neilltuo yn amserlen yr ysgol i bob dosbarth neu grŵp o ddisgyblion.
• Dangos arweiniad cadarn er mwyn creu’r amgylchedd sy’n galluogi athrawon fodloni'r ’Safonau Proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth.’Dylid hybu nodweddion, gwerthoedd a dealltwriaeth broffesiynol staff gan sicrhau fod ganddynt y sgiliau angenrheidiol er mwyn cynllunio gwaith yn hyderus gan osod targedau i’w monitro a’u hasesu wrth gynnal amgylcheddau dysgu effeithiol, lle mae pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel a hyderus.
• Cyfrannu at arwain, rheoli a datblygu’r gweithlu gan sicrhau ymglymiad i strategaethau arfarnu, rheoli perfformiad ac unrhyw ofynion datblygiad proffesiynol staff gydag ystyriaeth lawn o’r disgwyliad ynghylch cydbwysedd iach rhwng gwaith ac ymrwymiadau eraill pob aelod o staff.
• Helpu i hyrwyddo perthnasoedd gwaith cytûn yn yr ysgol a chynnal perthnasoedd gyda sefydliadau sy’n cynrychioli athrawon ac aelodau eraill o weithlu’r ysgol.
• Gweithio gyda’r Pennaeth i hyrwyddo diogelwch a lles disgyblion a staff a sicrhau trefn a disgyblaeth dda ymhlith disgyblion a staff.
• Cyfrannu gyda’r Pennaeth i sicrhau fod yr ysgol yn gwarchod gwerthoedd yr iaith Gymraeg ac yn dilyn Polisi Iaith yr Awdurdod.
• Trefnu a lleoli adnoddau yn yr ysgol, gan gynnwys staff, mewn modd sy’n addysgiadol effeithiol, yn hyrwyddo nodau a gwerthoedd yr ysgol ac yn cael eu targedu at wella safonau addysgol pob disgybl.
• Bod yn rhan o drafodaethau cyllidol sy’n sicrhau bod yr ysgol yn cynnig gwerth am yr arian cyhoeddus mae’n ei wario er mwyn cynnal a gwella ansawdd yr addysg a ddarperir ac er mwyn codi safonau cyflawniad y disgyblion sydd yn ein gofal.
• Cyfathrebu’n effeithiol gyda’r corff llywodraethu, staff, disgyblion, rhieni a gofalwyr gan sicrhau atebolrwydd llawn.
• Cymryd rhan mewn trefniadau i werthuso ac adolygu eich perfformiad eich hunan a pherfformiad athrawon eraill a staff cymorth a, phan fo hynny'n briodol, eu hyfforddiant a’u datblygiad proffesiynol, gan gynnwys gofynion ymsefydlu.
• Monitro, mewn cysylltiad ag unrhyw gais perthnasol, a yw athro yn yr ysgol yn bodloni’r safonau sy'n berthnasol i'w cyfnod gyrfa gyfredol.
• Cydweithio gyda chydweithwyr a gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill yn yr ysgol a thu hwnt i'r ysgol, gan gynnwys cyrff ac asiantaethau allanol perthnasol.
• Addysgu’n effeithiol yn unol â Swydd Ddisgrifiad Athro/Athrawes.
• Arwain ar ddatblygu atebolrwydd ac arweinyddiaeth mewn ysgol.
• Ymroi i ddysgu proffesiynol parhaus.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r cyngor/ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.Cyfrifoldebau Penodol
Nifer penodol o gyfrifoldebau ar lefel arweinyddiaeth ysgol, gyda’r union gyfrifoldebau i’w trafod a’u cytuno gyda’r pennaeth yn dilyn penodiad.
Gallai’r cyfrifoldebau gynnwys rhai o’r isod:
• Lles a Diogelu
• Cynhwysiad a chwricwlwm amgen
• Arweinyddiaeth strategol o’r ddarpariaeth ADY
• Addysgeg
• Cynllunio ac arwain darpariaeth Cwricwlwm i Gymru yr ysgol
• Dysgu Proffesiynol
• Sicrhau ansawdd, arfarnu a chynllunio gwelliant
• Amserlennu
• Arholiadau a chymwysterau
• Asesu a data perfformiad
• Iechyd a DiogelwchAmgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Gweithio y tu allan i oriau gwaith arferol yn ôl y gofyn.