NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Gwydnwch a’r penderfyniad i lwyddo
Gweld gwaith
Hyderus
Dadansoddol
Trefnus
Hyblyg / addasadwy
Medru datblygu perthnasau
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Gradd a/neu gymhwyster proffesiynol / rheolaethol cyfatebol.
DYMUNOL
-
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Llwyddiant mewn cyflawni canlyniadau
Cefnogi mewn amryfal feysydd gwaith ar draws y Cyngor
Llunio cofnodion a darparu arweiniad ysgrifenedig i eraill
DYMUNOL
-
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Dealltwriaeth gadarn o strwythur a threfniadau’r Cyngor
Y gallu i gynrychioli’r Cyngor mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol
Sgiliau rhyngbersonol a medru gweithio â phob lefel yn y sefydliad.
Dealltwriaeth gadarn o’r dimensiwn gwleidyddol o fewn y Cyngor
Sgiliau cyfathrebu cryf: llafar ac ysgrifenedig
Sgiliau cyfrifiadurol lefel uwch, ee Word, Excel, Power Point, Outlook.
DYMUNOL
-
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)