ADDYSG
YSGOLION CYNRADD
GORUCHWYLIWR AMSER CINIO (5 AWR)
Ysgol Penisarwaun
(Cynradd 3 - 11: 39 o ddisgyblion)
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS1 pwynt 2, (sef £2,682 y flwyddyn), yn ôl profiad a chymhwyster ar gyfer y swydd Goruchwyliwr Amser Cinio.
Yn eisiau: 10 Chwefror 2025, neu cyn gynted a phosib wedi hyn
Oriau gwaith: 5 awr yr wythnos, sef 1 awr y dydd, fel Goruchwyliwr Amser Cinio (38 wythnos, tymor ysgol yn unig)
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda’r Athrawon Mewn Gofal Mrs Nia Jones neu Mrs Ffion Hughes. Rhif Ffôn 01248 870879 neu gyda’r Pennaeth Mrs Catrin Roberts ar e-bost: Catrin.Roberts@penisarwaun.ysgoliongwynedd.cymru
Dylid cyflwyno cais am y swydd ar-lein. Os nad yw hyn yn bosibl, yna gallwch gysylltu gyda Heldd Jones, Cymhorthydd Cefnogi Ysgol. Rhif ffon 01758 704100 e-bost: HeleddJones3@gwynedd.llyw.cymru
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallant gychwyn yn yr ysgol.
DYDDIAD CAU: 12 O’R GLOCH, DYDD MERCHER, 5 CHWEFROR 2025.
(This is an advertisement for a Mid-day school supervisor (5 hours) at Ysgol Penisarwaun for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential. The Council will require a Disclosure and Barring Service certificate for the successful applicant before they can start at the school).
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwyr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.