Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud
• Cynllunio, cydlynu a darparu rhaglen o weithgareddau a phrosiectau pobl ifanc ar sail dalgylch
• Adeiladu rhwydweithiau eang fel bo modd datblygu’r gwaith yma i’r eithaf.
• Cydweithio gyda gweddill Tim y Gwasanaeth Ieuenctid i sicrhau fod y gwaith cymorth ieuenctid yn pontio’n esmwyth i’r gwaith ieuenctid cymunedol
• Gweithredu rhaglen o weithgareddau a phrosiectau gan sicrhau y profiad gorau i bobl ifanc
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Bydd y Gweithiwr Ieuenctid yn gyfrifol am arolygaeth a threfniadaeth y prosiectau. Bydd hefyd yn gyfrifol am offer gan sicrhau ei fod yn ateb gofynion iechyd a diogelwch.
Prif Ddyletswyddau. .
• Gweithio yn uniongyrchol gyda pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol drwy gynnig rhaglen eang o weithgareddau sy’n arwain tuag at achrediad / cymhwyster yn ystod amser ysgol a sydd yn pontio i’r gymuned
• Paratoi, trefnu, cynllunio, gwerthuso, trefnu a rheoli adnoddau ar gyfer pob prosiect
• Sicrhau gofod ble caiff person ifanc y cyfle i fwynhau eu hunain, teimlo’n ddiogel, cael cefnogaeth, cael eu gwerthfawrogi, dysgu sut i gymryd rheolaeth dros eu bywydau gan adnabod a gwrthwynebu dylanwadau niweidiol a all eu effeithio
• Adeiladu perthynas bositif gyda Tim Bugeiliol yr Ysgolion a Tim y Gwasanaeth Ieuenctid
• Darparu rhaglen weithgareddau / prosiectau yn yr ysgolion yn ystod tymor ysgol a darpariaeth cymunedol yn ystod gwyliau ysgol
• Mynychu cyfarfodydd safoni a hyfforddi a drefnir gan gyrff dyfarnu
• Cyflwyno Gwobr Dug Caeredin yn yr Ysgolion
• Datblygu ystod o gyfleoedd dysgu i bobl ifanc gan ddefnyddio dulliau anffurfiol gwaith ieuenctid, o fewn yr ysgol a’r gymuned, sy’n addas ar gyfer anghenion y bobl ifanc.
• Cyflwyno rhaglenni achrediadau yn yr ysgolion ac yn y cymunedau
• Galluogi pobl ifanc i gael mynediad i gyflawniadau cydnabyddedig (e.e. Cynlluniau Her Ieuenctid a Chyflawniad Ieuenctid ASDAN, Agored Cymru, Gwobr Dug Caeredin, Gwobr John Muir, Prifysgol Plant).
• Cymell pobl ifanc trwy roddi ymdeimlad o gyflawni a chydnabyddiaeth iddynt
• Cyd-weithio gyda Staff yr Ysgol, Adran Addysg, YOTs, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch Cymunedol ac asiantaethau eraill a all fod o fudd i gefnogi person ifanc.
• Sicrhau bod cofnod clir a chywir o waith yn cael ei fwydo I’r system reoli gwybodaeth yn unol â gofynnion yr holl asiantaethau perthnasol, ac yn unol â gofynnion polisiau a systemau’r asiantaethau priodol.
• Mynychu cyfarfodydd cynllunio’r ysgolion a’r gwasanaeth ieuenctid, cyfarfodydd adolygu etc. fel bo angen
• Mynychu cyfarfodydd safonni a hyfforddi a drefnir gan gyrff dyfarnu, ac i raeadru gwybodaeth am ddatblygiadau newydd i aelodau eraill y tîm gwaith ieuenctid
• Cydymffurfio gyda unrhyw weithdrefnau a systemau y Gwasanaeth
• Datblygu ac ehangu cwricwlwm y prosiectau drwy feithrin cysylltiadau gyda asiantaethau a darparwyr gan gynnwys ymgynghori a phobl ifanc, cyd weithio hefo ysgolion a darparwr addysg eraill
• Cyfrifoldeb dros fewnbynnu unrhyw wybodaeth sydd ei angen i’r system gasglu gwybodaeth
• Cydlynnu at y Safonau Galwedigaethol i Waith Ieuenctid, Hawliau’r Plentyn
• Paratoi adroddiadau cynnydd ar ei waith/gwaith
• Mynychu cyfarfodydd y Gwasanaeth Ieuenctid gan gymryd rhan lawn yn y trafodaethau a rhannu gwybodaeth gyda’r timoedd
• Trefnu a cynnal digwyddiadau, darparu prosiectau a gweithgareddau yn ystod gwyliau ysgol ar y cyd hefo’r Gweithwyr Cymunedol
• Chwilio am grantiau er mwyn datblygu y gwaith ymhellach
• Cynnig cyfleoedd gwirfoddoli yn lleol a tramor
• Sicrhau bod unrhyw adroddiad wedi ei gwblhau i’r amser dynodedig
• Sicrhau bod Llais person Ifanc yn cael ei glywed trwy bopeth sydd yn cael ei gynnig a’i ddatblygu
• Mewn cysylltiad ar rheolwr sicrhau datblygiad addas o fesur perfformiad a casglu gwybodaeth o waith er gallu mesur effeithiolrwydd y cynllun a cyflawni amcanion a osodwyd gyda threfniadau adrodd a chynllunio.
• Mynychu hyfforddiant i weithwyr ieuenctid a drefnir gan, neu ar ran, y Cyngor
• Cyfrifoldeb am gofrestr offer yn cynnwys offer Gwobr Dug Caeredin i’r Gweinyddwr Achrediadau
• Gweithredu fel Rheolwr Safle ar gais y Rheolwr
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Cyflogaeth: JNC i Weithwyr Ieuenctid a Chymuned Pwyntiau 14-17
Gwyliau Blynyddol: Telerau JNC - 30 diwrnod o wyliau am y 5 mlynedd cyntaf ac yna 35 diwrnod ar ôl hynny
Oriau Gwaith: Yr wythnos waith: 37 awr yr wythnos,dim mwy na 8 sesiwn fin nos mewn pythefnos, ac ar brydiau gall fod yn ofynnol i fod yn hyblyg er mwyn cwrdd ag anghenion gwaith penodol. Bydd yn golygu gweithio min nos (3 noson) ynghyd a ambell benwythnos a all fod yn breswyl, o fewn y 37 awr.
Oriau: Yr oriau i gynnwys gwaith min nos ac ar benwythnosau a gall rhai fod yn breswyl
Defnydd car: Bydd deilydd y swydd yn cael ei ddynodi fel “defnyddiwr car hanfodol”
Ieithyddol: Bydd angen i ddeilydd y swydd fod yn hyderus ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg o’r cychwyn
Defnyddiwr Ffon Symudol: Darperir ffôn symudol ar gyfer dibenion y swydd.
Byddwch yn cael eich penodi i dalgylch ond bydd angen i chi weithio tu allan i’r dalgylch yn ol yr angen ee i gyfro
gwyliau, salwch.
Byddwn yn ail edrych ar y swydd ddisgrifiad ymhen blwyddyn i’r apwyntiad
Mae gan yr Adran raglen barhaus o hyfforddiant a datblygu sgiliau personol. Gweithredir Cynllun Gwerthuso a fydd yn cyfrannu at y ddarpariaeth hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd gymryd rhan yn y rhaglen. Byddwch yn dilyn y matrics hyfforddiant ar gyfer Gweithwyr Maes.
Tynnir eich sylw at y ffaith fod dyletswyddau a chyfrifoldebau penodol mewn rhai achosion yn anodd eu dadansoddi’n fanwl a gallent newid o dro i dro heb newid cymeriad cyffredinol y dyletswyddau na lefel y cyfrifoldeb. Yn ychwanegol, mae'n ofynnol i bob aelod o'r staff dderbyn elfennau o hyblygrwydd yn eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau, a phan fo angen, cyfnewid o fewn yr Awdurdod er mwyn cyfarfod anghenion a gofynion y gwasanaeth sy'n newid yn barhaus. Bydd angen o'r fath yn galluogi i arbenigedd penodol y deilydd dyfu a datblygu er lles y cyflogwr a'r gweithiwr.