Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Cyfrannu tuag at darparu gwasanaeth Tim Derbyn Cyfeiriadau Sirol o fewn yr adran.
•Derbyn ymholiadau a chyferiadau Teuluoedd yn gyntaf ar ran yr adran gan ddefnyddwyr gwasanaeth, eu gofalwyr a teuluoedd neu swyddogion proffesiynol eraill er mwyn sicrhau gwasanaeth effeithiol i ddefnyddwyr a’u gofalwyr.
•Cynnal trafodaethau trothwy a mynediad i Wasanaethau gyda rheolwyr tim derbyn a rheolwr tim teuluoedd yn gyntaf
•Dyrannu achosion ymlaen i sylw gweithwyr cefnogi teulu yn dilyn trafodaethau gyda rheolwyr timau.
•Trefnu asesiadau gyda gweithwyr cefnogi teuluoedd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif ddyletswyddau
•Cynnig swyddogaeth sgrinio cychwynol .
•I dderbyn cyfeiriadau, gan amrywiaeth o ffynonellau, eu cyfnodi’n unol a chanllawiau ac ymateb i’r cyfeiriadau yn unol a’r drefn a nodi y gwybodaeth ar sustem WCCIS yr Adran.
•Darparu ymateb cyson i geisiadau am wasanaeth gan gwsmeriaid , a dynodi lefel blaenoriaeth cychwynol ar y pwynt cyswllt.
•Gwrando ar, a casglu, holl wybodaeth ymholiad cyswllt addas a pherthnasol gan y cwsmer er mwyn hwyluso a chynghori gwasanaethau pellach.
•I gydlynu â phroffesiynau eraill sy'n gweithio â plant a teuluoedd.
•Delio ag ymholiadau ffon, E-bost a phapur a darparu cyngor a gwybodaeth gyffredinol.
•Cyfrannu at rai asesiadau cychwynnol addas trwy apwyntiadau gyda phlant a’u teuluoedd yn y swyddfa.
•Delio a datrys ymholiadau o’r dechrau i’r diwedd, a bod yn gyfrifol am yr holl weithgarwch ynghlwm a datrys ymholiad.
•Cyfeirio cwsmeriaid ymlaen i wasanaethau perthnasol ble bod hynny yn addas.
•Derbyn gwybodaeth Tim Nos a cyfeirio y gywbodaeth ymlaen i’r gwasanaethau plant priodol o fewn amserlen clir.
•Casglu data craidd a chydymffurfio ag amserlen ar gyfer symud y gwybodaeth ymlaen yn unol a disgwyliadau y gwasanaethau sydd yn derbyn yr wybodaeth.
•Bwydo gwybodaeth cyson i mewn i WCCIS a’i ddiweddaru. Cynnal sustemau cyfrifiadurol priodol.
•Gweithio mewn modd hyblyg.
•Gweithio mewn modd gofalgar a sensitif.
•Cynorthwyo gyda monitro ansawdd y gwasanaeth.
•Gwella bodlonrwydd cwsmeriaid a’r ddarpariaeth o wasanaeth; cyfrannu syniadau ar gyfer datblygu a hyrwyddo’r gwasanaeth, adnabod gwelliannau i’r prosesau, cydweithio a’r Gwasanaethau.
•Cydymffurfio gyda polisiau’r Cyngor (e.e iechyd a diogelwch, cyfleoedd cyfartal, rhyddid gwybodaeth) a deddfwriaeth a sicrhau cyfrinachedd.
•Dysgu a rhannu gwybodaeth gyda chydweithwyr, gweithio fel rhan o dim, cefnogi cydweithwyr.
•Cyflwyno delwedd broffesiynol
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Fe all y swydd ddatblygu yn y dyfodol i weithio oriau hyblyg er mwyn ymateb yn fwy effeithiol i anghenion y defnyddwyr gwasanaeth.