skip to main content
header_main

Manylion

Cartref > Trigolion > Swyddi > Swyddi ar lein > Manylion swydd

Swyddi ar lein

Gweithiwr Cymdeithasol - Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (Achlysurol)

Gweler Hysbyseb Swydd

Cyfeirnod personel:
24-27962
Teitl swydd:
Gweithiwr Cymdeithasol - Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (Achlysurol)
Adran:
Swyddi cyffredinol
Gwasanaeth:
Swyddi cyffredinol
Dyddiad cau:
31/01/2025 10:00
Cyflog:
Gweler Hysbyseb Swydd
Lleoliad(au):
Gweler Hysbyseb Swydd

Manylion

Hysbyseb Swydd

Gweithiwr Cymdeithasol - Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (Achlysurol)

G09 £19.20 - £20.48 yr awr

Sesiynol

Mewnol yn Unig

Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (GMGC) yn wasanaeth rhanbarthol sy'n ymgymryd â recriwtio, hyfforddi, asesu a chefnogi mabwysiadwyr, dod o hyd i deuluoedd ac yn Wasanaeth Cyfryngol ar gyfer Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn.

Mae cyfle wedi codi i ymgeisio am swydd Gweithiwr Cymdeithasol Sesiynol ym meysydd Cymorth Mabwysiadu, Mynediad at Gofnodion Geni, Cwnsela Rhieni Biolegol a Gwasanaeth Cyfryngol Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru. Efallai y bydd angen rhywfaint o waith asesu. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru ac rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan weithwyr cymdeithasol cofrestredig profiadol a brwdfrydig.

Bydd y swydd yn cael ei chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ond bydd deiliad y swydd yn gweithio ar draws Gogledd Cymru a bydd gofyn iddo gysylltu â'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Chonsortia Mabwysiadu Rhanbarthol eraill.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â’r Rheolwr Tîm Gweithredol GMGC - Nia Hardaker: nia.hardaker@wrexham.gov.uk

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Chwilio am swydd