Swyddi ar lein
Gweithiwr Cymdeithasol - Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
£37,035 - £39,513 y flwyddyn
- Cyfeirnod personel:
- 24-27961
- Teitl swydd:
- Gweithiwr Cymdeithasol - Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
- Adran:
- Swyddi cyffredinol
- Gwasanaeth:
- Swyddi cyffredinol
- Dyddiad cau:
- 31/01/2025 10:00
- Cyflog:
- £37,035 - £39,513 y flwyddyn
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Gweithiwr Cymdeithasol - Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
G09 £37,035 - £39,513 pro rata
Parhaol, 14.8 awr yr wythnos (2 ddiwrnod)
Mewnol yn Unig
Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (GMGC) yn wasanaeth rhanbarthol sy'n ymgymryd â recriwtio, hyfforddi, asesu a chefnogi mabwysiadwyr, dod o hyd i deuluoedd ac yn Wasanaeth Cyfryngol ar gyfer Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn.
Mae cyfle wedi codi i ymgeisio am swydd Gweithiwr Cymdeithasol Rhan Amser ym meysydd Cymorth Mabwysiadu, Mynediad at Gofnodion Geni, Cwnsela Rhieni Biolegol a Gwasanaeth Cyfryngol Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru. Efallai y bydd angen rhywfaint o waith asesu. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru ac rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan weithwyr cymdeithasol cofrestredig profiadol a brwdfrydig.
Bydd y swydd yn cael ei chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ond bydd deiliad y swydd yn gweithio ar draws Gogledd Cymru a bydd gofyn iddo gysylltu â'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a Chonsortia Mabwysiadu Rhanbarthol eraill.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â’r Rheolwr Tîm Gweithredol GMGC - Nia Hardaker: nia.hardaker@wrexham.gov.uk
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.