Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth adnoddau dynol proffesiynol i’r Cyngor. Sicrhau cydymffurfiad a chysondeb gweithrediad gan fabwysiadu a rhannu arferion gorau yn ogystal â chyfrannu at ddatblygu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau perthnasol.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau. .
• Cynghori Penaethiaid Adran, penaethiaid cynorthwyol, a rheolwyr eraill ar holl faterion adnoddau dynol gan hybu diwylliant “Un Cyngor” ar bob cyfle posibl gan gyfeirio materion cymhleth a/neu sensitif i sylw’r Ymgynghorydd Adnoddau Dynol perthnasol.
• Darparu arweiniad ar drefniadau ac arferion gorau recriwtio gan sicrhau cydymffurfiad hefo’r Polisi Recriwtio a Phenodi corfforaethol.
• Cynnal cysylltiadau a pherthynas agored ac adeiladol gyda cynrychiolwyr yr Undebau Llafur.
• Cynghori a chefnogi Rheolwyr i ymdrin â disgyblaethau, cwynion a thanberfformiad; ymdrin â cheisiadau ailraddio ac apeliadau gan baratoi a chyflwyno achosion fel bo’r galw.
• Cynorthwyo i fonitro lefelau absenoldeb gan hyrwyddo’r trefniadau rheoli absenoldebau corfforaethol ac ymgynghori gyda’r Uned Iechyd Galwedigaethol ar achosion unigol er mwyn cefnogi staff i ddychwelyd i’r gwaith.
• Hyrwyddo gweithrediad cyson amodau gwaith ac arferion gorau ar draws y Cyngor.
• Hyrwyddo’r Cyngor fel cyflogwr o ddewis trwy gynorthwyo i godi ymwybyddiaeth ynglyn â’r gyrfaoedd, y pecyn cyflogaeth a’r amodau gwaith a gynigir i staff. Golyga hyn gynnal cyflwyniadau i staff presennol ac i ddarpar-ymgeiswyr am swyddi i’r dyfodol.
• Ymgynghori a chydweithio’n agos gyda’r tim llawn o fewn y Gwasanaeth yn ogystal â chydweithwyr o’r Gwasanaethau eraill o fewn yr Adran Gwasanaethau Corfforaethol, a hynny er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i’r cwsmer.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau a gweithdrefnau’r Cyngor mewn perthynas â chyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Cwblhau unrhyw ddyletswyddau eraill cymharol a rhesymol sy’n gymesur â lefel cyflog a chyfrifoldebau’r swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Gellir bod angen mynychu cyfarfodydd gyda’r nos yn achlysurol.
Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a’r lefel cyfrifoldeb.