Swyddi ar lein
ARBENIGWR AD
£37,938 - £40,476 y flwyddyn
- Cyfeirnod personel:
- 24-27925
- Teitl swydd:
- ARBENIGWR AD
- Adran:
- Swyddi cyffredinol
- Gwasanaeth:
- Swyddi cyffredinol
- Dyddiad cau:
- 20/01/2025 12:00
- Cyflog:
- £37,938 - £40,476 y flwyddyn
- Lleoliad(au):
- Llanelwy/ Gweithio ystwyth
Manylion
Hysbyseb Swydd
ARBENIGWR AD
Lleoliad gwaith yn Llanelwy/ Gweithio ystwyth
1 Parhaol ac 1 Cytundeb Tymor Byr am 12 mis,
37 awr yr wythnos
Gradd GTAGC 08 £37,938 i £40,476 y flwyddyn
(Lwfans ychwanegol o 8.5% ar gyfer gwaith tu allan i oriau arferol -
dewisol)
Mae gennym gyfle cyffrous i Arbenigwr Adnoddau Dynol brwdfrydig ymuno
â'n tîm.
Gan adrodd i'r Pennaeth Adnoddau Dynol a gweithio fel aelod gwerthfawr
o'r tîm, byddwch yn darparu cefnogaeth Adnoddau Dynol cynhwysfawr,
effeithlon ac effeithiol i reolwyr a gweithwyr. I ddechrau, bydd hyn yn cael ei
ddarparu ar draws ystod eang o weithgareddau AD cyffredinol, gan gynnwys
rheoli presenoldeb, disgyblu, cwynion, cyfryngu, perfformiad a rheoli newid yn
ogystal â chymryd rhan mewn recriwtio ac adnoddau a mentrau a
phrosiectau sy'n gysylltiedig ag AD ar ffurf cylchdro.
Yn ddelfrydol, byddwch yn gymwysedig gan CIPD neu'n gweithio tuag at
gymhwyster Lefel 7 a bydd gennych brofiad o weithio mewn amgylchedd AD
prysur. Rydym yn chwilio am gyfathrebwr cryf ac effeithiol gyda sgiliau
rhyngbersonol da, gyda'r gallu i weithio ar draws pob lefel. Mae hyblygrwydd
yn hollbwysig wrth gefnogi gwasanaeth brys rheng flaen 24 awr, felly mae'r rôl
yn amrywiol ac mae'r gallu i weithio dan bwysau i gwrdd â therfynau amser
yn hanfodol.
Bydd y rôl yn cael ei lleoli yn bennaf yn ein pencadlys yn Llanelwy, gyda
theithio i leoliadau Gwasanaeth eraill yn ôl yr angen. Mae gweithio ystwyth ar
gael o gyfuniad o leoliadau cartref a gwasanaeth a bydd yn cael ei drafod
yn ystod y cyfweliad.
Mae'r rôl yn llawn amser, yn cael ei gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus yr opsiwn i weithio'n hyblyg, i batrwm
gwaith ansafonol a fydd yn cyfrannu tuag at yr wythnos 37 awr a fydd yn
cynnwys tair noson y mis ar gyfartaledd a bydd hyn yn denu lwfans
ychwanegol o 8.5%.
Sylwch fod lleiafswm o sgiliau lefel 2 y Gymraeg yn ofyniad ar gyfer y swydd
hon; Os na ddangosir hyn ar ôl cael ei benodi, darperir cefnogaeth i gyflawni
hyn yn ystod y cyfnod prawf. Mae'r rôl hon hefyd yn amodol ar wiriad DBS
safonol a geirda boddhaol.
Am fwy o fanylion am y rôl, cyfeiriwch at y pecyn gwybodaeth
Swyddi Gwag - Recriwtio - Amdanom Ni - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
I wneud cais, cwblhewch a chyflwynwch eich pecyn cais drwy e-bost at:
recriwtio@tangogleddcymru.llyw.cymru
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw 12.00
hanner dydd, 20 Ionawr 2025.
Cedwir at y dyddiad cau yn llym ac ni fydd unrhyw eithriadau'n berthnasol.
Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymuned. Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i'r holl staff ac anogir ceisiadau gan unigolion waeth beth fo'u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred a phriodas a phartneriaethau sifil. Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau yn Gymraeg a Saesneg a byddwn yn ymateb yn gyfartal i'r ddau a byddwn yn ateb yn eich dewis iaith heb oedi. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.