Nodweddion personol
Hanfodol
Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol, yn llafar ac yn ysgrifenedig, gyda chynulleidfa eang Person sydd a sgiliau cyfathrebu da wrth weithio gyda theuluoedd ac amrediad o asiantaethau proffesiynol.
Y gallu i flaenoriaethu gwaith i gwrdd â therfynau amser penodol.
Person trefnus a chydwybodol.Un sy’n gallu gweithio fel rhan o dîm a sy’n parchu rolau eraill.
Ymroddiad i ddatblygu yn broffesiynol yn barhaus
Meddu ar drwydded yrru ddilys
Dymunol
Person â’r gallu i annog eraill i gydweithio.
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Cymhwyster perthnasol mewn gwaith cymdeithasol (DipSW,CQSW,CSS)
Cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru
"Mae'n rhaid i bob gweithiwr cymdeithasol (neu unrhywun sy'n disgrifio'i hun yn weithiwr cymdeithasol) fod wedi cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru. Bydd Cyngor Gwynedd yn ad-dalu'r ffi cofrestru blynyddol i'r gweithiwr."
Dymunol
Hyfforddiant mewn rhaglen riantu cydnabyddedig e.e. y Blynyddoedd Rhyfeddol, neu gymhwyster arall perthnasol yn y maes cefnogi teulu
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad helaeth o weithio gyda plant, pobl ifanc a’u teuluoedd
Profiad o weithio gyda amrediad eang o asianataethau statudol, gwirfoddol ac annibynnol yn y maes hwn
Profiad o ddarparu cyngor a gwybodaeth proffesiynol i eraill.
Profiad o asesu / ymateb i anghenion amrywiol a chymhleth teuluoedd sydd a phlant/pobl ifanc rhwng 0 a 25 oed.
Profiad o weithio’n annibynnol a gwneud penderfyniadau proffesiynol.
Profiad o gyflwyno gwybodaeth i asiantaethau eraill mewn cyfarfodydd.
Dymunol
Profiad o weithio mewn tîm plant neu leoliad gwaith efo plant.
Profiad o gadeirio cyfarfodydd.
Profiad o hyfforddi a / neu fentora.
Profiad o farchnata gwasanaeth
Profiad o ddatblygu a gweithredu strategaethau.
Profiad o ddefnyddio teclynau mesur ansawdd gwasanaethau gyda teuluoedd
Profiad o weithredu rhaglenni neu grwpiau cefnogi teulu.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Meddu ar drwydded yrru gyfredol llawn.
Y gallu i ffurfio a chynnal perthynas waith dda gyda plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
Y gallu i ffurfio a chynnal perthynas waith dda gyda amrediad eang o weithwyr proffesiynol, boed yn weithwyr rheng flaen neu yn reolwyr.
Y gallu i weithio’n effeithiol a chreadigol, mewn cyd-destun aml-asiantaethol ac aml-ddisgybledig.Gwybodaeth gyfoes ynglŷn â deddfwriaeth sy’n berthnasol i’r maes plant, pobl ifanc a theuluoedd .
Gwybodaeth am y Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf a’r meddylfryd tu ôl i’r Tîm O Amgylch y Teulu gan gynnwys dogfen ganllaw Gyda’n Gilydd v 3 Mehefin 2015.
Dealltwriaeth o Ganllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
Y gallu i ymateb yn sensitif i anghenion iaith teuluoedd ag i lynu wrth ymarfer gwrth othrymol.Sgiliau cyfrifiadurol da a’r gallu i ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office (e.e. Word, Excel, Access, Outlook, PowerPoint).
Sgiliau rhwydweithio da.Sgiliau paratoi a chreu adroddiadau a dogfennau clir, cryno ac effeithiol.
Sgiliau arwain a chydlynnu.
Dymunol
Sgiliau negodi da.
Sgiliau datblygu prosesau a systemau newydd.
Tystiolaeth o fod wedi mynychu cyrsiau hyfforddi penodol ar wahanol agweddau o waith gyda teuluoedd bregus.
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).