ADDYSG
YSGOLION DILYNOL
YSGOL GODRE’R BERWYN
(Cyfun 3 - 18: 578 o ddisgyblion)
Yn eisiau: 10 Mawrth 2025
SWYDDOG DATBLYGU CHWARAEON
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol. Byddai profiad o weithio gyda disgyblion uwchradd o fantais, ond nid yw hyn yn amod ar gyfer ymgeisio.
Oriau gwaith: 32 awr yr wythnos
(39 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol a 5 diwrnod mewn hyfforddiant)
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7 - 11 (£19,048 - £20,303) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd.
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda’r Pennaeth, Bethan Emyr Jones.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i’w cael gan Iwan Jones, Arweinydd Busnes a Chyllid, Ysgol Godre’r Berwyn, Heol Ffrydan, Y Bala, Gwynedd, LL23 7RU (Rhif Ffôn: 01678 520259)
e-bost: iwan.jones@godrerberwyn.ysgoliongwynedd.cymru
Os dymunir dychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD IAU, 16 IONAWR, 2025.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Nid yw’n bolisi gan Gyngor Gwynedd i gydnabod derbyn ffurflenni cais ar wahân i’r ceisiadau a dderbynnir ar-lein. Fodd bynnag os ydych yn penderfynu ymgeisio am y swydd drwy beidio defnyddio’r system ar-lein ac yn dymuno cael cadarnhad bod eich cais wedi ei dderbyn, yna ffoniwch Iwan Jones, Rheolwr Busnes a Chyllid.
Rhagwelir cynnal y cyfweliadau am y swydd yma yn yr wythnos yn cychwyn 20fed o Ionawr, 2025.
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.