Swyddi ar lein
Cymhorthydd Cefnogol Lefel 4
£19,516 - £21,170 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-27837
- Teitl swydd:
- Cymhorthydd Cefnogol Lefel 4
- Adran:
- Addysg
- Gwasanaeth:
- Canolfannau Iaith
- Dyddiad cau:
- 12/12/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 30 Awr
- Cyflog:
- £19,516 - £21,170 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S1
- Swydd tymor ysgol:
- 39 Wythnos
- Lleoliad(au):
- Canolfan Iaith Tywyn
Manylion
Hysbyseb Swydd
ADDYSG
Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd
Canolfan Iaith Tywyn
Yn eisiau:Ionawr 1af 2025 neu mor fuan â phosib ar ôl hynny
CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU LEFEL 4
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion profiadol a brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol ac yn meddu ar y cymwysterau priodol a’r sgiliau addas. Prif ddyletswyddau yn cynnwys arolygu dosbarthiadau yn ystod absenoldeb cyfnod byr athrawon.
Oriau gwaith: 30 awr yr wythnos
(39 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor Ysgol a 5 diwrnod mewn hyfforddiant)
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S1 pwyntiau 12 – 17 (sef £19,516 - £21,170 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae’r Gyfundrefn yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â Mr Rhys Meredydd Glyn (Rhif ffôn 07436055587).
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd.
DYDDIAD CAU: 10:00Y.B, DYDD IAU, 12 Rhagfyr, 2024.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
• Y gallu i berthnasu’n dda â phlant ac oedolion.
• Parodrwydd i dderbyn cyfrifoldebau a chyfrannu syniadau
• Personoliaeth ddigynnwrf, amyneddgar a hyblyg.
• Parodrwydd i ddysgu’n barhaus
• Person taclus a threfnus sy’n gallu blaenoriaethu gwaith fel bo’r angen ac yn dangos blaengaredd
• Person hunanysgogol gyda’r gallu i weithio’n annibynnol.
• Sgiliau cyfathrebu da a chadarn
• Person brwdfrydig
• Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
• Gallu arddangos arfer effeithiol a pharhaus yn y disgrifyddion perthnasol o fewn ‘safonau proffesiynol ar gyfer cynorthwyo addysgu’.
• NVQ lefel 3 ar gyfer Cymorthyddion addysg neu gymhwyster cyfwerth
• Sgiliau rhifedd/llythrennedd, cyfwerth a lefel 2 o’r fframwaith cymwysterau cenedlaethol.
• Hyfforddiant Amddiffyn Plant
DYMUNOL
• Hyfforddiant Llwybr Dysgu i Gymorthyddion Dysgu - ‘Darpar CALU’
• Llwybr Dysgu i Gymorthyddion Dysgu- ‘Staws CALU’
• Hyfforddiant cymorth cyntaf priodol.
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
• Profiad helaeth o weithio mewn amgylchedd dysgu gyda phlant a phobl ifanc
• Profiad o arwain a chynllunio gwaith grŵp a gwaith dosbarth cyfan
• Profiad o weithio’n annibynnol a gwneud penderfyniadau
• Profiad o reoli gweithgareddau dosbarth a’r lle dysgu ffisegol yn ddiogel.
DYMUNOL
• Profiad o reolaeth llinell staff
• Profiad o weithio gyda theuluoedd
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
• Yn gallu defnyddio TGaCh yn effeithlon i gefnogi dysgu.
• Gwybodaeth weithio lawn o bolisïau /côd ymarfer perthnasol a deddfwriaeth berthnasol.
• Dealltwriaeth dda o ddatblygiad a phrosesau dysg plentyn.
• Gwybodaeth a dealltwriaeth dda o Anghenion Dysgu Ychwanegol
• Deall fframweithiau statudol perthnasol i addysg
• Bod â’r sgiliau angenrheidiol i reoli gweithgareddau dosbarth a’r lle dysgu ffisegol yn ddiogel.
• Deall a gallu defnyddio ystod o strategaethau i ddelio gydag ymddygiad dosbarth yn ei gyfanrwydd a hefyd anghenion ymddygiad unigol.
• Y gallu i hunanwerthuso anghenion dysgu a cheisio cyfleoedd dysgu yn weithredol.
DYMUNOL
-
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad – Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.Darllen a Deall – Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swyddYsgrifennu – Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
Dan gyfarwyddyd Athro y Ganolfan Iaith, cefnogi unigolion a grwpiau o ddysgwyr sy’n newydd ddyfodiaid i Wynedd i ddysgu Cymraeg.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau.
Cefnogaeth i Ddysgwyr
• Sefydlu perthynas weithio gynhyrchiol gyda’r dysgwyr, gan weithredu fel model rôl a gosod disgwyliadau uchel.
• Goruchwylio a darparu cefnogaeth arbennig ar gyfer dysgwyr, yn cynnwys rhai ag ADY, gan sicrhau eu diogelwch a’u mynediad i weithgareddau dysgu.
• Cynorthwyo gyda dysgu a datblygu pob disgybl, yn cynnwys gweithredu Cynlluniau Datblygu Unigol.
• Rhoi sylw i anghenion personol dysgwyr a gweithredu rhaglenni personol perthynol, yn cynnwys rhai cymdeithasol, iechyd, corfforol, hylendid, cymorth cyntaf, toiledu, bwydo a symudoledd.
• Hybu cynhwysiad pob disgybl.
• Annog dysgwyr i gyd-adweithio gydag eraill ac i ymuno mewn gweithgareddau o dan arweiniad athro.
• Gosod disgwyliadau heriol ac ymestynnol a hybu hunan-barch ac annibyniaeth.
• Cymhwyso strategaethau i annog annibyniaeth a hunanhyder.
• Defnyddio sgiliau/hyfforddiant/profiad arbenigol (cwricwlaidd/dysgu) i gefnogi dysgwyr.
• Sefydlu perthynas weithio bwrpasol gyda’r dysgwyr ac ennyn disgwyliadau uchel.
• Cefnogi dysgwyr yn gyson gan adnabod ac ymateb i’w hanghenion unigol.
• Annog y dysgwyr i ryngweithio a gweithio’n gydweithredol ag eraill ac ymrwymo pob disgybl mewn gweithgareddau.
• Hybu annibyniaeth a defnyddio strategaethau ar gyfer adnabod a gwobrwyo cyflawni hunanddibyniaeth.
• Darparu adborth i ddysgwyr mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad.
• Cymryd cyfrifoldeb dros ddysgu grŵp o ddysgwyr.
• Cefnogi’r dysgwyr yn gyson wrth adnabod eu hanghenion unigol ac ymateb iddynt.
• Darparu cefnogaeth ôl-ofal i’r dysgwyr wedi iddynt ddychwelyd i’w hysgolion.Cefnogaeth i Athro y Ganolfan Drochi
• Trefnu a rheoli amgylchedd dysgu ac adnoddau priodol.
• Darparu adborth gwrthrychol a chywir ac, yn ôl y gofyn, adroddiadau ar gyflawniad, cynnydd a materion eraill dysgwyr, gan sicrhau fod tystiolaeth briodol ar gael.
• Cofnodi yn drylwyr, gynnydd a chyflawniad mewn gwersi/gweithgareddau a darparu tystiolaeth o ystod a lefel cynnydd a chyrhaeddiad.
• Cydweithio gyda Arweinydd y Ganolfan i rannu cynllunio tymor byr a nodau dysgu penodol ar gyfer: grwpiau a adnabuwyd, unigolion, dosbarth cyfan.
• Monitro a gwerthuso ymatebion y dysgwyr i weithgareddau dysgu drwy arsylwi a chofnodi cyflawniad yn erbyn nodau dysgu a bennwyd ymlaen llaw a chadw cofnodion dysgwyr ar gais Athro y Ganolfan Drochi
• Sefydlu gweithdrefnau er mwyn sicrhau y rhoddir adborth rheolaidd ac effeithlon i Athro y Ganolfan Drochi mewn perthynas â chynnydd y dysgwyr tuag at dargedau ar gyfer dysgu.
• Gweithredu polisi’r Ganolfan mewn perthynas â hybu ymddygiad dysgwyr ac agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu.
• Darparu cyfnod CPA i Athro.
• Darparu cefnogaeth glerigol/weinyddol gyffredinol, e.e. llungopïo, casglu arian, ffeilio, dosbarthu llythyrau i rieni, cynhyrchu taflenni gwaith ar gyfer gweithgareddau y cytunwyd arnynt.
• Cydweithio gydag Athro y Ganolfan Drochi i gynllunio a darparu gwasanaeth ôl-ofal i ddysgwyr.
• Ymwneud yn sensitif ac yn effeithiol â rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr yn unol â chyfarwyddyd Athro y Ganolfan Drochi
• Bod yn bresennol mewn cyfarfodydd gyda’r rhieni.Cefnogaeth i’r Cwricwlwm
• O fewn cyfundrefn oruchwylio gytunedig, cyflwyno gweithgareddau dysgu i’r dysgwyr, addasu gweithgareddau yn unol ag ymatebion/anghenion y dysgwyr.
• Gweithredu gweithgareddau dysgu a rhaglenni addysgu y cytunwyd arnynt.
• Gweithredu rhaglenni cysylltiedig â strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol, e.e. llythrennedd, rhifedd, TGaCh, asesu ar gyfer dysgu.
• Gwneud defnydd effeithiol o gyfleoedd a ddarperir gan weithgareddau dysgu eraill i gefnogi datblygu sgiliau perthnasol.
• Defnyddio TGCh mewn gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth y dysgwyr wrth ei ddefnyddio.
• Paratoi, cynnal a defnyddio offer/adnoddau sy’n ofynnol i gwrdd â’r cynlluniau gwersi/gweithgaredd dysgu perthnasol a chynorthwyo’r dysgwyr i’w defnyddio.
• Cynorthwyo dysgwyr i gael mynediad i weithgareddau dysgu drwy gefnogaeth arbenigol.
• Dethol a pharatoi adnoddau sy’n angenrheidiol ar gyfer arwain gweithgareddau dysgu, gan gymryd cyfrif o ddiddordebau, iaith a chefndir diwylliannol y dysgwyr.
• Cynghori ar leoli a defnyddio cymorth/adnoddau/offer arbenigol yn briodol.
• Pennu’r angen am offer ac adnoddau cyffredinol ac arbenigol, eu paratoi a’u cynnal a’u cadw.
• Goruchwylio’r dysgwyr ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i’r Ganolfan Iaith.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.Cyffredinol
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor/Ysgol/Ganolfan Iaith yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau GDPR. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
-Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a’r lefel cyfrifoldeb.