Gallai rhan neu’r holl broses recriwtio gael ei chynnal yn rhithiol; byddwch yn derbyn arweiniad a chyfarwyddiadau ymlaen llaw mewn perthynas â sut i gymryd rhan yn y broses yn llawn, a bydd gennym dîm o swyddogion y tu ôl i'r llenni a fydd yn cefnogi ac yn hwyluso'r broses.
Gweler ddyddiadau allweddol o fewn y broses recriwtio:
Dyddiad | Proses |
---|---|
17 Rhagfyr 2024 | Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau |
7 Ionawr 2025 | Rhestr fer |
8 tan 17 Ionawr 2025 | Asesiad ar-lein |
20 Ionawr 2025 | Asesiad senario wyneb yn wyneb |
23 Ionawr 2025 | Cyfweliad proffesiynol |
Ar ôl cwblhau'r uchod, gofynnir i'r ymgeiswyr hynny sy'n bodloni'r safonau gofynnol fynychu cyfweliad gerbron y Pwyllgor Penodiadau gyda dyddiad i'w gadarnhau.
Byddwn yn cysylltu â chi er mwyn cadarnhau a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer ai peidio.
Yn olaf, diolch am fynegi diddordeb yn y swydd hon yng Nghyngor Sir Ynys Môn.