Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Sicrhau fod lles corfforol ac emosiynol y defnyddwyr yn cael eu cwrdd drwy weithredu Cynllun y Defnyddiwr unigol. Sicrhau y cedwir amgylchedd cyfforddus a glan yn y cartref. Gwneir hyn i gyd drwy ddilyn canllawiau a pholisiau y Cyngor.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Parchu a defnyddio'n briodol holl offer a cyfarpar sydd yn y cartref. Rhoi gwybod cyn gynted ag sydd bosibl i'r rheolwr neu'r person sydd a chyfrifoldeb am y cartref ar y pryd o unrhyw diffyg mewn unrhyw offer, neu o'r gwasanaethau (dwr, trydan, nwy ayb). Sicrhau rheolaeth priodol o eiddo defnyddwyr e.e. meddyginiaeth ac arian parod.
Prif ddyletswyddau
•Sicrhau a parchu urddas ac annibyniaeth defnyddwyr y gwasanaeth drwy arferion gofal da ac yn unol a'r Safonau Gofynion Cenedlaethol ar gyfer Cartrefi Gofal i Bobl Hyn.
•Bod yn sensitif i'r angen am barchu hawliau yr unigolyn ar bob achlysur.
•Cadw cyfrinachedd ar bob agwedd o weithrediadau'r cartref.
•Ymgymeryd a dyletswyddau glanhau a londri.
•Paratoi prydau bwyd a diod fel bo'r angen a gweini'r prydau.
•Mynychu cyrsiau hyfforddi ac NVQ lefel 2 yn benodol er mwyn sicrhau ymwybyddiaeth cyson o faterion gofal.
•Mynychu cyfarfodydd yn unol a chyfarwyddid Rheolwr y Cartref.
•Cofrestru â Chyngor Gofal yn unol â’r canllawiau cenedlaethol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Angen i weithio oriau anghymdeithasol dros saith diwrnod ar sail rota.
•Telir lwfans ychwanegol am yr uchod.