TECHNEGYDD MDaPh GWYDDONIAETH A THECHNOLEG
YSGOL GODRE’R BERWYN
SWYDD DDISGRIFIAD TECHNEGYDD MDaPh GWYDDONIAETH A THECHNOLEG
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4, y flwyddyn, yn ôl profiad a chymhwyster.
Pwyntiau Cyflog: 7 - 11
Cyflog: (£17,858 - £19,035)
Oriau Gwaith: 30 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn.
Pwrpas y Swydd
Pwrpas y swydd hon yn bennaf yw cwblhau nifer o dasgau ymarferol dydd i ddydd a fydd yn sicrhau bod offer ac adnoddau Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn cyfrannu tuag at brofiadau dysgu cyfoethog disgyblion yr ysgol.
1 Cyffredinol
1.1 Trefnu a rheoli offer yn y maes.
1.2 Rheoli amser ei hun gan flaenoriaethu tasgau yn briodol.
1.3 Cefnogaeth a chymorth i staff a disgyblion yn ôl y galw.
1.4 Cynorthwyo gyda’r gofal cyffredinol o’r labordai ac ystafelloedd atodol (megis ystafelloedd paratoi, storfeydd), gan gynnwys gofal am y gwasanaethau (dŵr, trydan , nwy) gan hysbysu’r Arweinydd Maes os oes diffygion).
1.5 Cynnal a chadw’r adnoddau a deunyddiau y maes.
1.6 Bod yn gyfrifol am baratoi / estyn a chadw offer yn ddyddiol yn y labordai.
1.7 Cyd-weithio’n effeithiol â holl staff yr ysgol.
1.8 Gweithredu Polisi Iechyd a Diogelwch yr ysgol gan fod yn gyson ymwybodol o agweddau iechyd a diogelwch ynghlwm â gwaith labordy / gweithdy.
2 Diogelwch
2.1 Cadw’r labordai a gweithdai yn drefnus a thaclus.
2.2 Tynnu sylw at beryglon neu ddiffyg gofal.
2.3 Cynnal arolwg rheolaidd o’r labordai a gweithdai er mwyn sicrhau bod offer trydanol yn ddiogel.
- Penodol
3.1 Gofalu am yr holl stoc, gan sicrhau bod rhestr gyfredol yn cael ei chadw, a hysbysu’r Arweinydd Maes pan fod angen archebu deunyddiau.
3.2 Archebu offer yn ôl yr angen mewn cydweithrediad a’r Arweinwyr Maes / athrawon.
3.3 Ymateb i geisiadau rhesymol byr rybudd yn ystod y dydd am offer / cymorth yn y labordai.
3.4 Mynychu cyrsiau i sicrhau bod gwybodaeth am yr arferion diweddaraf yn gyfredol.
3.5 Cynorthwyo staff addysgu i ddatrys problemau ynglŷn â defnyddio’r offer.
3.6 Casglu, glanhau a chadw offer a defnyddiau ar gyfer y gwersi.
3.7 Gweinyddu system catalogio a labelu offer, peiriannau a defnyddiau.
- Gweinyddol
4.1 Gwaith clercio, archebu a chadw stoc.
4.2 Cadw trefn ar yr offer a’r adnoddau addysgiadol.
5 Materion Cyffredinol Eraill
5.1 Mynychu cyrsiau i sicrhau bod gwybodaeth am yr arferion diweddaraf yn gyfredol.