Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod plant a phobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Sicrhau gwasanaeth arbenigol o safon uchel ar gyfer ysgolion a Chanolfannau arbenigol i gefnogi disgyblion ystod oedran 3 – 16 oed sydd â phroblemau ymddygiadol / emosiynol.
• Sicrhau gweithrediad yn y maes cynnal ymddygiad a chynhwysiad drwy’r defnydd o weithdrefnau a phrosesau effeithiol ar sail tystiolaeth.
• Byddent yn cyflawni hyn drwy:
• Dysgu a gweithredu strategaethau cytunedig o fewn Canolfannau arbenigol.
• Dreulio cyfnodau ar lawr dosbarth yn arsylwi, modelu a monitro
• Arwain tîm bach o Gymorthyddion Arbenigol a chymorthyddion o fewn Canolfannau arbenigol
• Cefnogi ysgolion ar ffurf hyfforddiant ac adnoddau parod
• Gweithredu yn unol â chanllawiau diogelu cadarn
Cyfrifoldeb am Adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Cyfrifoldeb am gynnal hyfforddiant a chreu adnoddau ar gyfer ysgolion, Canolfannau a rhieni
• Cynorthwyo’r Arweinydd Addysg Gynhwysol gyda dyletswyddau rheoli llinell y cymorthyddion arbenigol
• Arwain tîm bach o Gymorthyddion Arbenigol a chymorthyddion.
• Gliniadur a ffôn symudol
Prif Ddyletswyddau
Mae'r swydd ddisgrifiad hwn i'w gyflawni yn unol â darpariaethau Dogfen Cyflogau ac Amodau Athrawon ysgol ac o fewn amred dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y ddogfen honno cyn belled ag y bo hynny'n berthnasol i deitl y swydd a graddfa cyflog y sawl sydd yn y swydd. Mae’r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.
• Sicrhau gwasanaeth cefnogi a chynghori ar gyfer ysgolion a sefydliadau addysgol eraill drwy ddarparu arweiniad a chefnogaeth o ansawdd uchel.
• Cyfrannu at gynlluniau strategol ysgolion unigol ym maes ymddygiad, cynhwysiad ac ADY yn gyffredinol.
• Cyflenwi gwaith proffesiynol drwy weithredu strategaethau a gweithgareddau dysgu ar gyfer disgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol; yn enwedig anhwylderau ymddygiadol ag emosiynol ar lefel ysgol ac o fewn y Canolfannau arbenigol.
• Cyfrannu at fonitro cynnydd disgyblion drwy asesu, cofnodi ac adrodd ar lwyddiannau.
• Cydweithio gydag ysgolion ar gyfer datblygu'r arbenigedd ymddygiad o fewn yr ysgol.
• Cyfrannu at drafodaeth a phenderfyniadau'r Fforwm Ardal ADYaCh
• Cyfrifoldeb am hunan reoli llwyth gwaith.
• Gweithredu ac addasu pecynnau gwaith penodol, i sicrhau adnoddau arbenigol ar gyfer ysgolion, Canolfannau a rhieni yn y maes anghenion ymddygiad ag emosiynol.
• Cyd ddarparu rhaglen hyfforddiant penodol arbenigol i gynorthwyo ysgolion, Canolfannau a rhieni i gael gwell dealltwriaeth o anghenion ymddygiad ag emosiynol.
• Cyd weithio’n agos â'r Rheolwr Gwasanaeth Cynhwysiad i weithredu strategaethau cytunedig ar lefel ysgol a Chanolfannau arbenigol. Bydd hyn yn cynnwys gweithredu rhaglenni hyfforddiant, strategaethau ar gyfer unigolion o fewn ysgolion ac o fewn ein Canolfannau arbenigol.
Prif Ddyletswyddau
• Cydweithio ac ymgynghori rheolaidd gyda’r Rheolwr Cynhwysiad a Uwch Seicolegydd Ymddygiad ar gyfer cynllunio ymyraethau addas ar gyfer y disgyblion, cynllunio hyfforddiant ar gyfer y Tîm ac ar gyfer ysgolion.
• Ymgynghori yn rheolaidd gyda’r Swyddog Ansawdd ADYaCh er mwyn sicrhau fod gwybodaeth gyfredol ynglŷn â chynnydd plant ac anghenion yr ardal o ran ansawdd y ddarpariaeth yn cael ei gyfathrebu.
• Sicrhau arweiniad gweithredol clir i staff ysgolion ac o ddydd i ddydd cymorthyddion y Canolfannau.
• Cyd weithio ag athrawon arbenigol eraill o fewn y gwasanaeth ADYaCh.
• Cyfrannu i HMS a datblygiadau staff o fewn y gwasanaeth ac o fewn ein hysgolion.
• Paratoi adroddiadau ar gynnydd yn erbyn meini prawf cytunedig.
• Sicrhau fod y Meini Prawf yn wybyddus i bawb ac yn cael eu gweithredu’n gyson yn ein hysgolion.
• Diweddaru bas data o’r disgyblion sydd yn derbyn cefnogaeth y gwasanaeth.
• Sicrhau gweithrediad yn unol ag argymhellion y Fforwm Ardal ADYaCh.
• Cymryd rhan, yn ôl yr angen, mewn prosesau sy’n adolygu, monitro a datblygu'r Gwasanaeth Ymddygiad a Chynhwysiad.
Cyffredinol
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Ymateb i unrhyw gais rhesymol arall ar gais y Pennaeth Gwasanaeth Addysg.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
-