Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Paratoi a trefnu bwyd maethlon ar gyfer disgyblion.
•Mae’r ysgol hon wedi ymrwymo i diogelu a hyrwyddo lles plant a phobl Ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Staff
•Offer
Prif ddyletswyddau
•Rhoi cymorth cyffredinol yn y gegin a’r ffreutur o fan gyfarwyddyd y Cogydd mewn Gofal.
•Darparu bwyd – gan gynnwys rheoli maint prydau, paratoi bwydydd, coginio a gweini bwyd.
•Cynorthwyo’r cogydd i gadw cofnodion o unrhyw stoc a ddefnyddir.
•Cydymffurfio o ddydd i ddydd a gofynion Iechyd a Diogelwch a Diogelwch Bwyd sy’n effeithio ar staff, a phobl eraill a all fod yn defnyddio neu ymweld â’r safle.
•Sicrhau fod holl staff Arlwyo yn dilyn arferion gwaith da ac y cedwi’r at ofynion unrhyw Ddarpariaeth Statudol a pholisiau Cyngor Gwynedd.
•Arolygu a rheoli glanweithdra, iechyd a diogelwch.
•Cwblhau y llyfrau cofnodion megis llyfr log yn ddyddiol.
•Cymryd gofal o’r gegin yn ystod absenoldeb y cogydd oherwydd salwch neu am unrhyw reswm arall am y tâl priodol.
•Gweithredu’r til gan ddilyn dull a chyfarwyddiadau gwneuthurwyr
•Unrhyw ddyletswydd arall yn ôl cais rhesymol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Ceir amgylchiadau pryd gofynnir am luniaeth tu allan i oriau gwaith e.e. hyfforddiant mewnol. Disgwylir i’r Cogydd Cynorthwyol gyflenwi yn lle’r cogydd yn ei habsenoldeb