Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Goruchwylio staff glanhau ar y safle
•Ymgymryd yn arferol fel rhan o dîm gwaith glanhau rhannau penodedig ar safle’r ysgol i sicrhau eu bod yn cael eu cadw’n lân ac mewn cyflwr a fydd yn hybu iechyd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Offer
•Staff
Prif ddyletswyddau
•Mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd Tîm Arlwyaeth a Glanhau Ysgolion bod yn gyfrifol am archebu defnyddiau glanhau.
•Glanhau man diffiniedig o’r safle
•Cydymffurfio o ddydd i ddydd a gofynion Iechyd a Diogelwch sy’n effeithio ar staff, a phobl eraill a all fod yn defnyddio neu ymweld a’r safle
•Sicrhau fod holl staff Glanhau yn dilyn arferion gwaith da ac y cedwi’r at ofynion unrhyw Ddarpariaeth Statudol a pholisiau Cyngor Gwynedd.
•Goruchwylio staff glanhau ar y safle. Pennu dyletswyddau, trefniadau gwaith, hyfforddiant ac ardystio taflenni gwaith.
•Sicrhau fod pob aelod o staff glanhau y safle wedi derbyn hyfforddiant anwytho, Iechyd a Diogelwch cyn cychwyn gwaith.
•Cyfrifol am sicrhau fod pecynnau penodi megis ffurflen gais, prawf mudo, ffurflen DBS aelodau staff wedi ei cwblhau a’i dychwelyd i’r Awdurdod.
•Cyfrifol am reoli absenoldebau staff a cwblhau ffurflenni cofnodi absenoldebau salwch SA1 a ffurflen dychwelyd i’r gwaith SA2.
•Glanhau, golchi, brwsio, defnyddio sugnydd llwch.
•Gwagio biniau ysbwriel ac ail gylchu.
•Dwstio a sgleinio y rhannau penodol ac hefyd dodrefn a ffitiadau.
•Glanhau toiledau a mannau cawodydd a chyflenwi papur toiled a sebon.
•Bydd gofyniad i ddefnyddio, pan yn briodol ac angenrheidiol, gyfarpar pwerddreif.
•Gall y dyletswyddau amrywio o dymor i dymor ac ar adegau pan fydd yr ysgol ar gau.
•Bydd hefyd, pan fo’r galwad, reidrwydd i chwi symud i rannau eraill o’r ysgol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•-