Pwrpas y Swydd.
Dan gyfarwyddyd Athro y Ganolfan Iaith, cefnogi unigolion a grwpiau o ddysgwyr sy’n newydd ddyfodiaid i Wynedd i ddysgu Cymraeg.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Prif Ddyletswyddau. .
Cefnogaeth i Ddysgwyr
• Sefydlu perthynas weithio gynhyrchiol gyda’r dysgwyr, gan weithredu fel model rôl a gosod disgwyliadau uchel.
• Goruchwylio a darparu cefnogaeth arbennig ar gyfer dysgwyr, yn cynnwys rhai ag ADY, gan sicrhau eu diogelwch a’u mynediad i weithgareddau dysgu.
• Cynorthwyo gyda dysgu a datblygu pob disgybl, yn cynnwys gweithredu Cynlluniau Datblygu Unigol.
• Rhoi sylw i anghenion personol dysgwyr a gweithredu rhaglenni personol perthynol, yn cynnwys rhai cymdeithasol, iechyd, corfforol, hylendid, cymorth cyntaf, toiledu, bwydo a symudoledd.
• Hybu cynhwysiad pob disgybl.
• Annog dysgwyr i gyd-adweithio gydag eraill ac i ymuno mewn gweithgareddau o dan arweiniad athro.
• Gosod disgwyliadau heriol ac ymestynnol a hybu hunan-barch ac annibyniaeth.
• Cymhwyso strategaethau i annog annibyniaeth a hunanhyder.
• Defnyddio sgiliau/hyfforddiant/profiad arbenigol (cwricwlaidd/dysgu) i gefnogi dysgwyr.
• Sefydlu perthynas weithio bwrpasol gyda’r dysgwyr ac ennyn disgwyliadau uchel.
• Cefnogi dysgwyr yn gyson gan adnabod ac ymateb i’w hanghenion unigol.
• Annog y dysgwyr i ryngweithio a gweithio’n gydweithredol ag eraill ac ymrwymo pob disgybl mewn gweithgareddau.
• Hybu annibyniaeth a defnyddio strategaethau ar gyfer adnabod a gwobrwyo cyflawni hunanddibyniaeth.
• Darparu adborth i ddysgwyr mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad.
• Cymryd cyfrifoldeb dros ddysgu grŵp o ddysgwyr.
• Cefnogi’r dysgwyr yn gyson wrth adnabod eu hanghenion unigol ac ymateb iddynt.
• Darparu cefnogaeth ôl-ofal i’r dysgwyr wedi iddynt ddychwelyd i’w hysgolion.
Cefnogaeth i Athro y Ganolfan Drochi
• Trefnu a rheoli amgylchedd dysgu ac adnoddau priodol.
• Darparu adborth gwrthrychol a chywir ac, yn ôl y gofyn, adroddiadau ar gyflawniad, cynnydd a materion eraill dysgwyr, gan sicrhau fod tystiolaeth briodol ar gael.
• Cofnodi yn drylwyr, gynnydd a chyflawniad mewn gwersi/gweithgareddau a darparu tystiolaeth o ystod a lefel cynnydd a chyrhaeddiad.
• Cydweithio gyda Arweinydd y Ganolfan i rannu cynllunio tymor byr a nodau dysgu penodol ar gyfer: grwpiau a adnabuwyd, unigolion, dosbarth cyfan.
• Monitro a gwerthuso ymatebion y dysgwyr i weithgareddau dysgu drwy arsylwi a chofnodi cyflawniad yn erbyn nodau dysgu a bennwyd ymlaen llaw a chadw cofnodion dysgwyr ar gais Athro y Ganolfan Drochi
• Sefydlu gweithdrefnau er mwyn sicrhau y rhoddir adborth rheolaidd ac effeithlon i Athro y Ganolfan Drochi mewn perthynas â chynnydd y dysgwyr tuag at dargedau ar gyfer dysgu.
• Gweithredu polisi’r Ganolfan mewn perthynas â hybu ymddygiad dysgwyr ac agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu.
• Darparu cyfnod CPA i Athro.
• Darparu cefnogaeth glerigol/weinyddol gyffredinol, e.e. llungopïo, casglu arian, ffeilio, dosbarthu llythyrau i rieni, cynhyrchu taflenni gwaith ar gyfer gweithgareddau y cytunwyd arnynt.
• Cydweithio gydag Athro y Ganolfan Drochi i gynllunio a darparu gwasanaeth ôl-ofal i ddysgwyr.
• Ymwneud yn sensitif ac yn effeithiol â rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr yn unol â chyfarwyddyd Athro y Ganolfan Drochi
• Bod yn bresennol mewn cyfarfodydd gyda’r rhieni.
Cefnogaeth i’r Cwricwlwm
• O fewn cyfundrefn oruchwylio gytunedig, cyflwyno gweithgareddau dysgu i’r dysgwyr, addasu gweithgareddau yn unol ag ymatebion/anghenion y dysgwyr.
• Gweithredu gweithgareddau dysgu a rhaglenni addysgu y cytunwyd arnynt.
• Gweithredu rhaglenni cysylltiedig â strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol, e.e. llythrennedd, rhifedd, TGaCh, asesu ar gyfer dysgu.
• Gwneud defnydd effeithiol o gyfleoedd a ddarperir gan weithgareddau dysgu eraill i gefnogi datblygu sgiliau perthnasol.
• Defnyddio TGCh mewn gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth y dysgwyr wrth ei ddefnyddio.
• Paratoi, cynnal a defnyddio offer/adnoddau sy’n ofynnol i gwrdd â’r cynlluniau gwersi/gweithgaredd dysgu perthnasol a chynorthwyo’r dysgwyr i’w defnyddio.
• Cynorthwyo dysgwyr i gael mynediad i weithgareddau dysgu drwy gefnogaeth arbenigol.
• Dethol a pharatoi adnoddau sy’n angenrheidiol ar gyfer arwain gweithgareddau dysgu, gan gymryd cyfrif o ddiddordebau, iaith a chefndir diwylliannol y dysgwyr.
• Cynghori ar leoli a defnyddio cymorth/adnoddau/offer arbenigol yn briodol.
• Pennu’r angen am offer ac adnoddau cyffredinol ac arbenigol, eu paratoi a’u cynnal a’u cadw.
• Goruchwylio’r dysgwyr ar ymweliadau, teithiau a gweithgareddau y tu allan i’r Ganolfan Iaith.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Cyffredinol
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor/Ysgol/Ganolfan Iaith yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau GDPR. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.