Swyddi ar lein
Swyddog Cefnogaeth Digartrefedd - Iechyd Meddwl x2
£33,366 - £35,235 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-27742
- Teitl swydd:
- Swyddog Cefnogaeth Digartrefedd - Iechyd Meddwl x2
- Adran:
- Tai ac Eiddo
- Gwasanaeth:
- Tai
- Dyddiad cau:
- 12/11/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £33,366 - £35,235 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S3
- Lleoliad(au):
- Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Colleen Pritchard ar 01758704030
Cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymruDYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, DYDD MAWRTH, 12/11/2024
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Agwedd bositif
Sgiliau gwrando da
Pendant
Y gallu i weithio ar ben ei hun, neu fel aelod o dîm fel bo angen
Y gallu i weithio o dan bwysau gwaith
Y gallu i reoli, trefnu a blaenoriaethu llwyth gwaith
Y gallu i ddelio hefo gwybodaeth yn gyfrinachol
Y gallu i weithio ar liwt ei hun
Yn barod i fynychu hyfforddiant ac ymgymryd ag astudiaethau pellach
Diragfarn
Yn gohirio barn
Synhwyrol
Dangos empathi
Ymrwymiad cryf i ofal cwsmerDYMUNOL
Y gallu i ddatrys problemau yn greadigolCYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Safon addysgol dda - o leiaf 5 TGAU neu gyffelyb yn cynnwys Cymraeg,
Saesneg a MathemategDYMUNOL
HNC Astudiaethau Tai neu gymhwyster Tai cyffelybPROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad yn y maes tai neu faes sy’n ymylu ar y maes tai, neu iechyd meddwlDYMUNOL
-SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno da
Sgiliau ysgrifennu da
Sgiliau negodi
Y gallu i ysgogi ei hun ac eraill
Y gallu i asesu anghenion personol unigolion mewn modd sensitif
Gwybodaeth a phrofiad o ddefnyddio systemau Technoleg Gwybodaeth
Y gallu i ddatrys problemau
Y gallu i gadw gwybodaeth ac ystadegau yn gyflawn
Y gallu i ddelio hefo’r cyhoedd mewn modd hyderus a phroffesiynol
Trwydded yrru llawnDYMUNOL
Sgiliau ysgrifennu adroddiadau
Sgiliau cymodiANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cynorthwyo pobl bregus sydd yn dioddef o Iechyd Meddwl i gyfarch eu nghenion tai, ac rhoi cefnogaeth buan i unigolion trwy weithredu mewn modd ataliol er mwyn lleihau y risg o ddigartrefedd.
• Cyd-weithio yn agos gyda’r Chydlynydd Camdrin Sylwedd ac Iechyd Meddwl.
• Gweithio oddi mewn fframwaith aml-asiantaethol i sichau fod unigolion yn derbyn yr ystod llawn o gefnogaeth.
• Cyd-lynu anghenion cymorth tai unigolion efo anghenion iechyd meddwl a chydlynu eu cynlluniau cefnogaeth.Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• -Prif Ddyletswyddau.
• Darparu gwasanaeth ble fo’r cwsmer yn ganolbwynt - i’r bobl hynny sydd yn ddigartref neu o dan fygythiad o fod yn ddigartref sydd hefyd yn dioddef o Iechyd Meddwl.
• Cyd-lynu gwasanaethau cymorth tai i gleientiaid sydd gydag anghenion iechyd meddwl; gan gynnwys darparu cymorth uniongyrchol ac hefyd cyd-lynu gyda asiantaethau eraill a all ddarparu cymorth ategol.
• Cynnal ymweliadau yn yr ysbyty, cartref neu hostel mechnïaeth y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol pan a phryd bo angen.
• Gweithio gyda chleientiaid i wella sgiliau a goresgyn rhwystrau fel eu bod yn gallu symud ymlaen yn llwyddiannus i dai annibynnol, gan gynnwys aros yn eu heiddo eu hunain heb gymorth.
• Cefnogi’r cleient fel eu bod yn medru teimlo'n ddiogel, nodi unrhyw problemau a dod o hyd i ddatrysiadau addas.
• Defnyddio asesiad cryfder ac anghenion er mwyn adnabod y pecyn Cymorth priodol sydd ei angen i diwallu dyheadau a nodau y cleientiaid. Bydd hyn yn cynnwys darparu cymorth priodol a chynlluniau gweithredu, eu hadolygu'n rheolaidd a monitro cynnydd gan ddefnyddio offer priodol fel Ysgol Newid, Seren Canlyniad.
• Nodi pa anghenion cymorth y gellir eu diwallu gan asiantaethau eraill (e.e., budd-daliadau, tai, cymorth tenantiaeth, llesiant, addysg, swyddi, apwyntiadau iechyd corfforol a meddyliol, gweithgareddau llesiant)a gwneud atgyfeiriadau perthnasol, gan ddatblygu cysylltiadau gwaith achos gyda’r ddarpwr priodol.
• Dyfalbarhau i ysgogi cleientiaid mewn modd gadarnhaol pan nad ydynt yn ymgysylltu a’r gwasanaeth. Annog cleientiaid i ddatblygu eu sgiliau bywyd ymarferol sydd eu hangen ar gyfer byw mewn tai yn annibynnol. (e.e., cyllidebu, talu biliau, cynllunio prydau bwyd, siopa, coginio, llywio budd-daliadau).
• Bod yn sensitif i anghenion pobl (e.e. diwylliant, crefydd, cefndir, credoau personol, oedran, profiadau personol ac ati) wrth darparu cefnogaeth.
• Delio gyda cleientiaid mewn ffordd ddiduedd gan beidio â’u barnu.
• Cynnal asesiad cefnogaeth o amgylchiadau tai'r cleientiaid i adnabod y problemau/trafferthion.
• Edrych ar atebion posib i gleientiaid i ddatrys eu problem tai, gan sicrhau fod eu hanghenion a’u dymuniadau yn cael eu hystyried.
• Cymell cleientiaid i fod yn ragweithiol ac i ddod o hyd i atebion a chymryd cyfrifoldeb am eu canlyniad tai.
• Cynnal a mynychu cyfarfodydd perthnasol a chynadleddau achos gydag adrannau eraill o’r Cyngor neu asiantaethau allanol fel bo’r angen, (fel Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwasanaeth Iechyd Meddwl, SMS, yr Heddlu, GISDA, Nacro, DIP a’r Gwasanaeth Prawf).
• Ceisio cael gwared â’r rhwystrau i gael atebion effeithiol i gleientiaid a thynnu cymorth gan staff eraill o’r Cyngor neu asiantaethau allanol fel bo’r angen.
• Darparu cyngor a chymorth ar opsiynau tai realistig a’u cyfeirio a’u harwain i asiantaethau eraill fel bo’r angen.
• Sicrhau fod cleientiaid yn cael eu symud o lety dros dro i lety addas arall cyn gynted â phosib
• Adnabod unrhyw anghenion cefnogi i’r cleientiaid a chyd-gysylltu gyda gweithwyr cefnogol priodol.
• Cyflwyno archebion swyddogol a phrosesu anfonebau i’w talu yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Cyngor.
• Sicrhau fod cleientiaid wedi cofrestru am Dai Cymdeithasol ar y gofrestr tai cyffredin a chyd-gysylltu gyda’r Tîm Opsiynau Tai i sicrhau fod yr wybodaeth yn gyfredol
• Sicrhau fod asesiadau risg a Care Plans (Iechyd Meddwl) wedi eu derbyn gan bartneriaid cyfiawnder troseddol, Iechyd Meddwl a SMS er mwyn asesu addasrwydd eiddo dros dro a pharhaol
• Cwblhau a diweddaru asesiadau risg pan fo’n angenrheidiol
• Rhannu'r holl wybodaeth berthnasol parthed iechyd a diogelwch gyda darparwyr tai a chefnogaeth er mwyn sicrhau llety priodol
• Datblygu perthynas weithio agos gyda’r Gwasanaethau Cyfiawnder Iechyd Meddwl, SMS a Dechrau Newydd a phartneriaid eraill fel Adferiad, Nacro, Tai Gogledd Cymru, Gwas Prawf ayyb.
• Cynrychioli’r Cyngor ac, pan fo angen, cymryd arweiniad mewn cyfarfodydd aml asiantaethol a chynadleddau achos.
• Mynychu cyfarfodydd amlasiantaethol i drafod cleientiaid a rhoi Cyngor ar addasrwydd llety ayyb.
• Trafod Cleientiaid risg uchel a chynghori ar addasrwydd yr eiddo.
• Cyd-gysylltu â phrosiectau Tai a Chefnogaeth a hosteli’r Cyngor, i drafod addasrwydd eiddo a chynlluniau symud ymlaen.
• Mynychu Cyfarfodydd Tîm a chyfrannu at ddatblygiad a gwella’r gwasanaeth.
• Defnydd effeithiol o systemau TG i gofnodi gwybodaeth i ddibenion ystadegol
• Darparu gwybodaeth ystadegol ac adroddiadau fel bo’r angen
• Mynychu cyrsiau ar ddeddfwriaeth ddigartrefedd ac unrhyw gyrsiau perthnasol eraill sy’n ymwneud â maes tai, chefnogaeth tai ac iechyd meddwl sy’n cyfrannu at ddatblygiad personol yn y swydd.
• Yn rhagweithiol yn myfyrio ac adolygu arferion gwaith eich hun ac adnabod meysydd i’w gwella a / neu hyfforddiant - ar y cyd gyda’r rheolwr llinell.
• Sicrhau cydymffurfio gydag unrhyw drefniadau rheoli risg a nodwyd mewn asesiadau risg sy’n berthnasol i’r gwaith
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Efallai y bydd angen i ddeilydd y swydd weithio oriau anghymdeithasol, fel bo’r angen.
• Mae’r swydd hon wedi ei heithrio o dan Ddeddf Adleoli Troseddwyr 1974. Felly, os yw eich cais yn llwyddiannus bydd angen i chi ofyn i’r Swyddfa Ddatgeliad Cofnod Troseddol am ddatgeliad. Bydd y Cyngor yn darparu’r ffurflen berthnasol ac yn talu’r ffi. Mae rhagor o wybodaeth am y broses ar gael o wneud cais.