Swyddi ar lein
Cydlynydd Cynhwysiad a Threchu Tlodi
£37,336 - £39,186 y flwyddyn | Dros dro 31/03/2027
- Cyfeirnod personel:
- 24-27733
- Teitl swydd:
- Cydlynydd Cynhwysiad a Threchu Tlodi
- Adran:
- Economi a Chymuned
- Gwasanaeth:
- Llyfrgelloedd
- Dyddiad cau:
- 08/11/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro | 31/03/2027 | 37 Awr
- Cyflog:
- £37,336 - £39,186 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS1
- Lleoliad(au):
- Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
*DALIER SYLW* Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y (Pecyn Gwybodaeth)
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Nia Gruffydd ar 01286 679461
Cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 08/11/2024
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Gallu i sefydlu a chyfleu gweledigaeth.
Gallu i feddwl yn strategol ac i gynllunio yn strategol ar draws sawl maes.
Gallu i sefydlu, arwain, cydgynllunio a chydweithio gyda ystod amrywiol o bartneriaid.
Gallu ysgogi eraill.
Gallu dylanwadu ar eraill.
Gally ennyn perchnegioaeth eraill o weledigaeth a chyfeiriad gwaith.
Gallu i ymdrin a phobl mewn ffordd adeiladol, diplomatig gan greu awyrgylch bositif lle mae barn pawb yn cael ei werthfawrogi
Creadigol, brwdfrydig ac egnïol i ddatrys problemau a goroesi rhwystrau.
Cymryd cyfrifoldeb ac ateblorywdd.
Gallu gwneud penderfyniadau
Gallu i gyfathrebu’n effeithiol ac i ddewis dulliau addas ar gyfer cyfathrebu gwahanol negeseuon
Gallu i feithrin perthynas gwaith dda gydag eraill er mwyn cyflawni perfformiad a chael canlyniadau
Gallu ymateb i nifer o ofynion gwaith gan ddewis a blaenoriaethu yn addas a gan gwrdd a thargedau amser
Gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dim ac o fewn amserlenni tynn
Person sy’n arddel gonestrwydd, hunan hyder, sy’n adeiladol ac yn hyblyg eu hagwedd
Gallu gweithio yn annibynnol ac fel rhan o dimau amrywiol.
Parodrwydd i groesawu newid a bod yn arloesol
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Gradd mewn maes perthnasol i’r swydd (ee cymdeithaseg)
AC
Cymhwyster mewn Arweinyddiaeth / RHeolaeth (ee ILM neu Lefel 3)
Dymunol
Hyfforddiant Diogelu Plant & Oedolion / Safeguarding Children & Adults Hyfforddiant Prevent
Hyfforddiant Achrediadau – Agored, DofE ayb
Hyfforddiant CSE, ACE ayb
Hyfforddiant CYdraddoldeb
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o sefyldu rhaglenni strategol, prosiectau amrywiol yn y maes cydraddoldeb a neu tlodi.
Profiad o arwain ar greu strategaethau
Profiad o greu cynlluniau gweithredu / rhaglenni Gwaith / cynlluniau prosiect i gyflawni strategaethau.
Profiad o ddarparu gwasanaeth / rhaglenni / prosiectau mewn gwasanaeth sy’n ymwneud a’r maes tlodi.
Profiad o lunio achosion a chynlluniau busnes.
Profiad o arwain pobl.
Profiad o gymell timau / unigolion i gyflawni.
Profiad o reoli staff
Profiad o reoli cyllidebau amrywiol.
Profiad o dargedu adnoddau a grantiau yn llwyddiannus.
Profiad o sefydlu a gweinyddu trefniadau gwerthuso gwasanaethau/ darpariaethau.
Profiad o gyfathrebu gyda cynulleidfaoedd amrywiol – cyflwyno ffurfiol, cynulleidfa wleidyddol a strategol; asiantaethau, swyddogion, y cyhoedd.
Profiad o sefydlu, datblygu a chynnal partneriaethau effeithiol a cysylltiadau gyda partneriaid perthnasol i faes y swydd (megis y cymdeithasu tai, Bwrdd Iechyd, Cygnor ar Bopeth, Gwasanaethau Byd Gwaith, Gwasanethu Budd-daliadau a Phensiynau, mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol).
Profiad o gyflwyno gwybodaeth ac adroddiadau ar berfformiad strategaethau / cynlluniau gweithredu / rhaglenni / prosiectau.
Profiad o sefydlu a gweinyddu trefniadau llywodraethu ( fforymau, pwyllgorau, grwpiau stategol a partneriaethau)
Profiad o gadeirio cyfarfodydd.
Profiad o arwain, chydlynu mewnbwn i, a/neu cyfrannu tuag at ymgynghoriadau.
Dymunol
Profiad o weithredu oddi fewn i sefydliad gwelidyddol (ee awdurdod lleol)
Profiad o greu cynlluniau ymgysylltu, cyfathrebu a/neu farchnata ar gyfer
hyrwyddo gwasanaethau / darpariaethau.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Sgiliau arweinyddiaeth cryf.
Sgilau negydu a dylanwadu.
Sgiliau cyfathrebu ardderchog – llafar ac ysgrifenedig; ac i ystod amrywiol o gynulleidfaoedd.
Sgiliau mentora a cymhelliant.
Sgiliau datrys problemau mewn modd rhesymegol gan ganolbwyntio ar y datrysiad a goroesi rhwystrau.
Sgiliau monitro ( data, cyllidbeau, gwasanaethau, perfformiad)
Sgiliau herio a craffu
Sgiliau cyrchu a dadansoddi data a Gwybodaeth
Sgiliau Technoleg Gwybodaeth cryf
Trwydded yrru lawn a defnydd o gar.
Dealltwriaeth gynhwysfawr o’r maes tlodi yn cynnwys tlodi plant; tlodi tanwydd; tlodi ariannol; tlodi bwyd; allgau digidol.
Dealltwriaeth o egwyddorion cyfle cyfartal a chydraddoldeb
Dymunol
Gwybodaeth a dealltwriaeth o bolisïau yn ymwneud â diogelu plant ac oedolion
Dealltwriaeth o faterion a gofynion iechyd a dioglewch
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Arwain y tîm(au) y mae’n gyfrifol amdano (ynt) i gyflawni yn effeithiol ac effeithlon yr hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd drwy greu a chynnal amgylchedd o barch ac ymddiriedaeth gan rymuso, arfogi ac ysbrydoli’r staff.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Staff – Swyddog Cefnogol Cynhwysiad a unrhyw swyddi eraill a ariennir drwy ffynhonnell grantiau.
•Cyllideb Rhaglen Cefnogi Pobl, ac unrhyw gyllidebau a dderbynnir drwy grantiau
•Cytundebau a ddyrennir a reolir ar gyfer adnoddau, cyflenwyr, grantiau a / neu nawdd.
• Cytundebau Partneriaeth a Chytundebau Lefel Gwasanaeth gyda amryw ddarparwyr a gomisiynir.
•Adnoddau –offer TG.
Prif ddyletswyddau
ARWAIN
•Bod yn atebol am y gwaith a’r defnydd mwyaf effeithiol ac effeithlon o’r adnoddau sydd ar gael
•Arwain staff drwy annog a chymell i berchnogi egwyddorion Ffordd Gwynedd a bod yn atebol am sicrhau fod hynny’n digwydd
•Cynorthwyo’r tîm i sefydlu egwyddorion gweithredu gan ystyried deddfau perthnasol (e.e. Iechyd a Diogelwch, Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant) a sicrhau eu bod yn cadw atynt
•Bod yn ymwybodol o sut y mae systemau’r tîm yn gweithio a hwyluso i’w herio ple bo’r angen
•Sicrhau fod eu gwaith yn cyfrannu at amcanion gwasanaethau neu sefydliadau eraill sy’n ceisio cyflawni’r hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd.
•Hyrwyddo’r angen i adnabod a gweithredu ar fygythiadau a chyfleoedd y dyfodol gan gynnwys camau ataliol
•Sicrhau ymwybyddiaeth o’r hinsawdd gyfreithiol a gwleidyddol sy’n effeithio ar y gwasanaeth gan sicrhau fod aelodau’r tîm yn ymwybodol o’r elfennau angenrheidiol.
•Bod yn fyw i ymarfer da o fewn y maes a sicrhau fod y tîm yn ystyried priodoldeb yr ymarfer da hwnnw iddynt hwy.
•Arwain newid o fewn y maes lle mae angen gwneud hynny
•Ymdrin gyda phryderon a godir gan Aelodau Etholedig ynglŷn â’r maes.
•Sicrhau amgylchedd sy’n hyrwyddo ac annog llesiant staff
GALLUOGI A GRYMUSO
•Recriwtio a datblygu unigolion a thimau i sicrhau bod ganddynt y sgiliau angenrheidiol i gyflawni’r rolau sydd eu hangen rwan ac i’r dyfodol
•Arfogi eraill i sefydlu beth sy’n bwysig i bobl Gwynedd a thrwy hynny sefydlu pwrpas y tîm a’i gadw’n gyfredol
•Sicrhau fod penderfyniadau yn cael eu gwneud ar sail tystiolaeth.
•Helpu’r tîm i adolygu a herio ei berfformiad
•Creu a chynnal awyrgylch sy’n galluogi pobl i gyfrannu a chymryd penderfyniadau er mwyn darparu’r gwasanaethau gorau posib
•Sicrhau awyrgylch o ymddiriedaeth ac atebolrwydd gan sicrhau cyfathrebu priodol gyda ac o fewn y tîm.
CYFLAWNI
•Arfogi’r tîm i ystyried pa fesurau sy’n dangos perfformiad yn erbyn y pwrpas ac i berchnogi’r mesurau hynny
•Annog y tîm i arloesi, mentro a dysgu o brofiad er mwyn gwella perfformiad
•Cymell a/neu mentora y tîm i adnabod a gweithredu’n amserol er mwyn dileu rhwystrau sy'n atal y gallu i gyflawni yr hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd
•Datrys unrhyw rwystrau na all y tîm eu datrys
•Sicrhau fod cwynion yn derbyn sylw priodol a bod y tîm yn ystyried unrhyw wersi sy’n codi er mwyn gwella gwasanaeth.
HUNAN ADLEWYRCHU - ar gyflawniad personol yr hyn sydd yn y swydd-ddisgrifiad.
MEYSYDD PENODOL Y SWYDD
•Creu Cynllun Gweithredu Atal a Threchu Tlodi ar y cyd gyda partneriaid ac asiantaethau allanol er lles trigolion Gwynedd. Bydd hyn yn cynnwys
•Sefydlu’r galw / angen a’r hyn sy’n bwysig i drigolion Gwynedd fel y sail dystiolaeth ar gyfer y cynllun cyflawni gyda mewnbwn gwasanaethau ar draws y cyngor, a phartneriaid allanol.
•Siapio gweledigaeth / pwrpas i’r Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi
•Mapio darpariaethau presennol i adnabod bylchau a chyfleon;
•llunio cynllun ymateb
•Datblygu data rheolaethol a mesurau ar gyfer y cynllun a threfniadau monitro addas.
•Monitro cyflawniad y cynllun gweithredu a’i ddarpariaethau i ymgyrraedd at y targedau/ cerrig milltir / mesurau y cytunir
•Sefydlu a cyflawni trefniadau adrodd, paratoi a chyflwyno adroddiadau / cyflwyniadau ar y cynllun gweithredu trechu tlodi yn ol yr angen i’r Bwrdd Gwasanaethu Cyhoeddus.
•Sefydlu a cyflawni trefniadau ar gyfer adordd yn unol a threfniadau craffu a herio perffromiad y Cyngor i’r aelod cabinet perthnasol, ac i drefniadau’r Bwrdd Rhaglen Cefnogi Pobl a’r Cabinet.
•Arwain ar gyflawni cynllun gweithredu trechu tlodi tymor byr (adfer) gan ganolbwyntio ar y meysydd canlynol sef cynhwysiad a chyngor ariannol ac uchafu incwm, cynhwysiad digidol, cynhwysiad bwyd, a chynlluniau ac ymyrraethau i gefnogi cynhwysiad grwpiau penodol o bobl sy’n cael eu allgau.
•Sefydlu trefniadau llywodraethiant a chydweithio aml-asiantaethol ar gyfer cyflawni y Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi – gan gynnwys Fforwm Sirol Trechu Tlodi ac unrhyw is-grŵp/ grŵp prosiect / grŵp tasg a gorffen angenrheidiol i gyflawni’r cynlluniau gweithredu perthnasol.
•Sefydlu, cynnal a llywio partneriaethau a chysylltiadau gyda mudiadau gwirfoddol ac asiantaethau eraill sydd yn gweithio yn y maes tlodi. Mae hefyd yn cynnwys adnabod cyfleon i gyd-gynllunio cyfleon, gweithgareddau a phrosiectau, a datblygu cynlluniau i’r perwyl.
•Datblygu trefniadau mewnol ar gyfer tynnu arweinwyr rhaglenni trechu tlodi ynghyd i gydweithio a chyd-gynllunio a cyd-gomisiynu, er mwyn uchafu ffrydiau incwm, lleihau dyblygu ar draws rhaglenni – yn benodol ar drwy y Rhaglen Alinio Cenedlaethol (Grant Plant a CHymunedau a Grant CYmorth Tai) a grantiau perthnasol eraill.
•Adnabod cyfleon ar gyfer denu buddsoddiad allanol i’r sir ar gyfer ehangu ar y ddarpariaeth gynhwysiad ariannol a/neu cynhwysiad digidol a/neu cynhwysiad bwyd.
•Paratoi Achosion Busnes a Chynlluniau Prosiect yn ôl yr angen ar gyfer denu grantiau a buddsoddiadau i’r maes. Monitro gwariant unrhyw gynllun grant (cyfalaf neu refeniw) ac adrodd yn rheolaidd ar gynnydd yn unol â’r gofynion mewnol ac allanol.
•Cydweithio gyda partneriaid ar lefel sirol a rhanbarthol i rannu ymarfer da; cyd-gynllunio darpariaeth.
•Rhaid i’r ymgeisydd fod yn greadigol a bod â’r gallu i ddatrys problemau er mwyn creu syniadau newydd ac arloesol ac er mwyn gweithredu ar yr atebion
•Sefydlu a cynnal trefniadau ymgysylltu, hyrwyddo, marchnata a chyfathrebu gwasanaethau, gweithgareddau, prosiectau y Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi / Darpariaethau Trechu Tlodi i gynulleidfaoedd amrywiol.
•Darparu arweiniad strategol ar faterion gwrth dlodi ar gyfer yr Awdurdod, gan adnabod meysydd sydd angen sylw.
•Mynychu cyfarfodydd Rhwydwaith Gwrth-dlodi a Chynhwysiad Cymru, Rhwydwaith Tlodi Bwyd Gogledd Cymru gan gefnogi cydweithio effeithiol ac effeithlon ym meysydd priodol i gynnal a gwella darpariaeth.
•Cydweithio gyda swyddogion perthansol yn y WLGA, Llywodraeth Cymru a cynghorau eraill drwy’r RHwydwaith Gwrth-dlodi genedlaethol.
•Paratoi adroddiadau yn ôl y yr angen, all gynnwys adroddiadau Cabinet, Pwyllgorau Craffu ac Ymchwiliadau Craffu, Grwpiau Prosiect
•Mae hon yn swydd newydd fydd yn esblygu mewn maes sy’n newid yn sydyn. Ni ellir rhagwled holl gwmpas a dyletswyddau’r swydd felly sidgwylir i’r ymgeisydd ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
AMODAU GWAITH
•Yr oriau i gynnwys peth gwaith min nos ac ar benwythnosau
•Mae gan yr Adran raglen barhaus o hyfforddiant a datblygu sgiliau personol. Gweithredir Cynllun Gwerthuso a fydd yn cyfrannu at y ddarpariaeth hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd gymryd rhan yn y rhaglen.