DYLETSWYDDAU:
Bydd pob aelod o staff a gyflogir yn yr ysgol yn gweithredu pob cais neu
gyfarwyddyd rhesymol a roddir gan y Pennaeth a/neu ei gynrychiolydd. Dylai pob aelod o staff, heb
eithriad, weithredu yn unol â pholisïau’r ysgol.
Pwrpas y swydd hon yn bennaf yw cwblhau dyletswyddau croesawydd a thasgau gweinyddol. Bydd
deilydd y swydd yn cynnig gwasanaeth gweinyddol i’r Pennaeth, Dirprwy a’r Pennaeth Cynorthwyol
ynghyd â chefnogi’r Swyddog Gweinyddol. Mae’r dyletswyddau’n amrywio o ddiwrnod i ddiwrnod.
Nodir prif ddyletswyddau’r swydd fel â ganlyn:
1. Tasgau Croesawydd:
• cyfrifoldeb am dderbynfa’r ysgol a chroesawu ymwelwyr i’r ysgol gan sicrhau eu bod yn
cael sylw prydlon ac yn teimlo’n gartrefol
• gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i’r ysgol un ai ar y ffôn neu’n bersonol
• derbyn a throsglwyddo unrhyw negeseuon ffôn / e-byst
• cynnal trefn yn y swyddfa gan ei gadw’n daclus ar bob achlysur
• gweithredu system diogelwch mynediad i’r ysgol
• cynorthwyo staff a disgyblion sydd yn ymweld â’r swyddfa
• cyfrifoldeb am fonitro’r cyfrif e-bost cyffredinol yr ysgol gan ymateb, anfon ymlaen a chwynnu
negeseuon fel yn briodol
2. Presenoldeb:
• defnyddio’r modiwl presenoldeb yn y system SIMS i gynnal cofnodion cywir am bresenoldeb
ac absenoldeb disgyblion yn y bore a'r prynhawn
• cysylltu â chartrefi disgyblion yn ôl y galw pan fydd disgybl yn absennol drwy’r system
SchoolComms neu’r ffôn
• os oes pryder am ddisgybl sydd wedi gadael tir yr ysgol cysylltu â'r cartref / heddlu ar ôl trafod
gyda’r Uwch Dim Rheoli (UDRh)
• os oes disgyblion yn achos o bryder, hysbysu aelod o’r UDRh a’r Swyddog Lles
• paratoi adroddiadau ar bresenoldeb/absenoldebau yn ôl yr angen
• anfon negeseuon drwy e-bost/testun i rieni
• dosbarthu'r cofrestrau i'r tiwtoriaid dosbarth ar ganiad y larwm tân ar y cyd gyda’r Swyddog
Gweinyddol
3. Adnoddau
• darparu gwasanaeth llungopïo a pharatoi adnoddau ar gais staff yr ysgol
• darparu gwasanaeth llungopïo a pharatoi adnoddau ar gyfer asiantaethau ac ymwelwyr i’r
ysgol
• darparu gwasanaeth lamineiddio adnoddau i staff
4. Yn absenoldeb y Swyddog Gweinyddol:
• cyfrifoldeb am bost yr ysgol - dosbarthu post sy’n cyrraedd yr ysgol a ffrancio, cofnodi a
phostio’r post anfonir
• derbyn nwyddau archebwyd i’r ysgol, eu dosbarthu a throsglwyddo’r derbyneb nwyddau i’r
Rheolwr Busnes.
• gwneud trefniadau cludiant ysgol ar gyfer disgyblion ac ar gyfer ymweliadau a
gweithgareddau addysgol
• ymgymryd â thasgau gweinyddol cyffredinol eraill, gan gynnwys galwadau i rieni, trefnu
cyfarfodydd gyda aelodau o’r UDRh neu Tim Bugeiliol.
5. Tasgau Eraill:
Bydd y Croesawydd, ar y cyd ag aelodau eraill o’r Tîm Ategol, yn:
• gofalu am ddisgyblion sâl / bregus sydd yn ymweld â’r swyddfa gan gysylltu â'r cartref neu
gyfeirio at yr aelod staff priodol i dderbyn cymorth cyntaf; mewn achosion arbennig, mynd a
disgyblion i’r feddygfa / ysbyty
• cyfrifoldeb am gadw cofnodion SIMS disgyblion yn gyfoes
• gweinyddu trefniadau ar gyfer ymwelwyr i’r ysgol gan gynnwys archwiliadau meddygol
(golwg, clyw, pigiadau)
• chwilio am ddisgyblion ar gais aelod o’r UDRh
• ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd rhesymol arall sy’n gydnaws â natur gyffredinol y swydd ar
gais y Pennaeth.
Mae’r uchod yn disgrifio’r ffordd y disgwylir i’r deilydd weithredu a chwblhau'r dyletswyddau a nodir.
Gellir amrywio’r dyletswyddau i gyfarfod â newidiadau mewn gofynion ysgol yn ôl disgresiwn
rhesymol y Pennaeth.