Dyletswyddau
Mae'r swydd ddisgrifiad hwn i'w gyflawni yn unol â darpariaethau Dogfen Cyflogau ac Amodau Athrawon ysgol ac o fewn amrediad dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y ddogfen honno cyn belled ag y bo hynny'n berthnasol i deitl y swydd a graddfa cyflog y sawl sydd yn y swydd. Mae’r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.
Bydd pob aelod o staff a gyflogir yn yr ysgol yn gweithredu pob cais neu gyfarwyddyd rhesymol a roddir gan y Pennaeth a/neu ei gynrychiolydd. Yn ychwanegol, mae’n rhesymol disgwyl gweithredu a chwblhau rhai dyletswyddau penodol yn unol â pholisïau’r ysgol:
Cyfrifoldebau Penodol Athro/awes
Y cyfrifoldebau penodol sy'n gysylltiedig â swydd yr athro/athrawes dosbarth fydd
•Gweithredu’r ’Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth’. Dylid hybu nodweddion,gwerthoedd a dealltwriaeth broffesiynol, cynllunio gwaith yn hyderus gan osod targedau i’w monitro a’u hasesu wrth gynnal amgylcheddau dysgu effeithiol, lle mae pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel a hyderus.
•Sicrhau lles a diogelwch pob disgybl. Tynnu sylw Pennaeth Ffês, Tiwtor Dosbarth neu’r Pennaeth at unrhyw broblem.
•Cynnig addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, gan dalu sylw teilwng i oed, gallu a diddordebau’r unigolion.
- Creu a chynnal man gwaith deniadol a phleserus, gan ddefnyddio arddangosfeydd o waith plant a staff yn rheolaidd, ac annog disgyblion i gadw’r ystafelloedd dysgu yn lân ac yn daclus.
- yn unol ag arweiniad cyfredol yr ysgol, cynllunio rhaglenni gwaith yn ofalus a thrylwyr. Hefyd,cynllunio a pharatoi gwersi yn ofalus a thrylwyr.
- Paratoi deunyddiau dysgu ac addysgu ar gyfer y gwersi a ddysgir.
- Sicrhau fod adnoddau/deunyddiau/offer perthnasol ac addas yn barod ymlaen llaw.
- Sicrhau fod gwersi yn cychwyn ac yn gorffen ar amser a bod y disgyblion yn cael eu derbyn i’r dosbarth a’u hanfon allan dan reolaeth a threfn.
- Dysgu â brwdfrydedd gan ymestyn pob disgybl a roddir i’w ofal hyd eithaf ei allu.
- Gosod a marcio gwaith y disgyblion.
•Cynnal disgyblaeth yn unol â’r rheolau a gweithdrefnau a fabwysiadwyd gan yr ysgol;
•Cyfrannu at gyfarfodydd, trafodaethau a threfniadau rheolaeth yn ôl y gofyn i ddatblygu a chydlynu gwaith yr ysgol;
•Cyfrannu at drefniadau’r ysgol ar gyfer asesu ac adrodd ar gyflawniad disgyblion;
•Cymryd rhan yn nhrefniadau’r ysgol ar gyfer gwerthuso a rheoli perfformiad;
•Cyfranogi i drefniadau hyfforddi a datblygiad proffesiynol sy’n berthnasol i’w swydd a chyfrifoldebau;
•Cynghori, arwain a chydweithio â’r pennaeth ag athrawon eraill yn ôl y gofyn mewn perthynas â darparu a datblygu rhaglenni gwaith, deunyddiau addysgu, dulliau asesu a.y.y.b.;
•Mynychu a chyfrannu i gyfarfodydd staff sy’n ymwneud â chwricwlwm yr ysgol, trefniadaeth yr ysgol, gan gynnwys gweithdrefnau bugeiliol.
•Hunanarfarnu safonau ac arferion dysgu - ymyrryd yn bwrpasol i godi safonau.
•Cyflawni dyletswyddau bore, egwyl a phrynhawn yn unol â Pholisi Iechyd a Diogelwch yr ysgol a’r
amserlen a gyhoeddir ar ddechrau pob blwyddyn academaidd.
•Mynychu cyfarfodydd amrywiol ar nosweithiau Llun yn unol â threfniadau’r ysgol.
•Mynychu Nosweithiau Rhieni yn ôl y galw er mwyn trafod datblygiadau disgyblion.
•Mynychu cyfarfodydd eraill yn ôl y galw, gan gynnwys y tu allan i oriau arferol yr ysgol.
•Cyfrannu i’w ddatblygiad personol a phroffesiynol ei hun gan fynychu HMS yn ôl y galw.
•Hybu blaenoriaethau CDY presennol yr ysgol
•Cyfrannu’n bwrpasol i ddatblygu Ysgol Godre’r Berwyn i fod yn ganolfan sy’n cynrychioli’r arferion a’r safonau proffesiynol uchaf.
•Cydweithio`n effeithiol a pharchus fel aelod o dîm proffesiynol.
•Ysgwyddo cyfrifoldeb am ei ddatblygiad proffesiynol ei hun.
Cysylltiadau:
Bydd y sawl sydd yn y swydd yn:-
-rhyngweithio ar lefel broffesiynol efo'i gydweithwyr ac yn ceisio sefydlu a chynnal perthynas gynhyrchiol a nhw er hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth o bynciau o fewn cwricwlwm yr ysgol gyda golwg ar wella ansawdd y dysgu yn yr ysgol.
-gyfrifol am oruchwylio gwaith cynorthwy-ydd sy'n berthnasol i'w ddyletswyddau.
Yn ychwanegol gofynnir i chwi ymgymryd â'r dyletswyddau canlynol:
• 1. Ymgymryd a'ch dyletswyddau fel athro / athrawes sy'n gyfrifol am y maes / meysydd isod yn yr ysgol yn unol a Chynllun Datblygu’r Ysgol…
• 2.Cydweithio gydag athrawon eraill i ddatblygu polisi a chynllun gwaith yn y maes / meysydd isod yn unol a Chynllun Gwella'r Ysgol:
Mae’r uchod yn disgrifio`r ffordd y disgwylir i`r deilydd weithredu a chwblhau y dyletswyddau a nodir.
Gellir newid y swydd ddisgrifiad a'r cyfrifoldebau penodol trwy gytundeb.