Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Cynorthwyo gyda gwaith gweinyddu y Tim Plant a Chefnogi Teuluoedd
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif ddyletswyddau
•Delio gyda post
•Delio gyda galwadau ffôn a ffacs.
•Teipio llythyrau a memoranda
•Teipio adroddiadau ar gyfer Llys.
•Cwblau a phrosesu ffurflenni h.y. ffurflen CP1 ar gyfer pob plentyn yn dilyn Cynhadledd Achos.
•Mynychu grwpiau tasg penodol
•Trefnu Cynadleddau Achos, Adolygiadau.
•Cofnodi Cynadleddau Achos a cyfarfodydd strategol.
•Darparu cofnodion.
•Ffeilio
•Llungopio a cadw trefn ar gyflenwad o ffurflenni perthnasol.
•Cefnogi gwaith y derbynfa fel bo angen
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Bod yn hyblyg i gynorthwyo clercod tim o fewn ardaloedd eraill yn ol yr angen