Swyddi ar lein
Therapydd Galwedigaethol Arweiniol
£39,186 - £41,418 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-27687
- Teitl swydd:
- Therapydd Galwedigaethol Arweiniol
- Adran:
- Oedolion, Iechyd a Llesiant
- Gwasanaeth:
- Oedolion
- Dyddiad cau:
- 17/10/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £39,186 - £41,418 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS2
- Lleoliad(au):
- Dolgellau
Manylion
Hysbyseb Swydd
Hysbyseb Swydd – Therapydd Galwedigaethol Arweiniol
Gwasanaeth: Oedolion
Lleoliad: Ardal De Meirionnydd wedi ei leoli yng Nghae Penarlâg, Dolgellau
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu.
Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Gwybodaeth am y swydd:Ydych chi...
- Am gyfrannu i gyflogwr sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau?
- Yn dymuno gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg?
- Yn berson brwdfrydig a phositif?
- Yn meddu ar sgiliau pobl da
Os mai ‘ydw’ yw eich ateb i’r pwyntiau uchod, beth am ddod i weithio gyda ni?
Dyma gyfle cyffroes i fod yn rhan o dîm Gwaith Cymdeithasol Gwynedd.
Fel Therapydd Galwedigaethol byddwch yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau unigolion yma yng Ngwynedd drwy eu cynorthwyo i fyw eu bywydau yn y modd y maent eisiau ei fyw.
Byddwch yn cefnogi unigolion drwy anawsterau cymdeithasol a phersonol, ar yr un pryd â hyrwyddo eu hawliau dynol a’u llesiant. Byddwch yn gweithio gydag unigolion, gan gefnogi eu perthnasoedd â’u teuluoedd, grwpiau a chysylltiadau â’u cymuned. Eu helpu i adnabod eu cryfderau, datblygu eu sgiliau a gweithio ar broblemau neu heriau y gallent fod yn eu hwynebu.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn cynnal cofrestriad fel Therapydd Galwedigaethol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a gallu arddangos sgiliau yn unol a’r Swydd Ddisgrifiad a’r Manylion Person (ynghlwm).
L3 (Therapydd Galwedigaethol Arweiniol) – PS2 (pt 31-33), £39,186-£41,418
Gweler y Pecyn Gwybodaeth – Cewch ragor o wybodaeth am y swydd a’r disgwyliadau yn y Swydd Ddisgrifiad a’r Manylion Person. Cewch hefyd wybodaeth am becyn cyflogaeth deiniadol sydd ar gael.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Cysylltwch â ni:
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Llinos Rowlands ar 01341424572
Rhagwelir cynnal cyfweliadau - i'w gadarnhau
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 17/10/2024
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Gallu i weithio’n effeithiol fel aelod o dîm.
Yn berson dibynadwy a hyblyg sy’n awyddus i weithio mewn dulliau newydd a creadigol.
Brwdfrydig, hunan dibynnol a phendant.
Cefnogi arferion gwrth-wahaniaethol
Cyfathrebu’n effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth, asiantaethau eraill a darparwyr
Ymrwymedig i werthoedd, egwyddorion, nodau ac amcanion y gwasanaeth.
Person sy’n awyddus i ddysgu a datblygu
Gallu cyfathrebu yn effeithiol a chreu perthynas efo unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau , plant a theuluoedd .
Yn ymroddedig i hyrwyddo a chefnogi annibynniaeth yn y cartref
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Cymhwyster Cymhwyso Therapi Galwedigaethol cydnabyddedig – Gradd neu Diploma mewn Therapi Galwedigaethol
Cofrestru gyda Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)
Wedi cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru
Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus mewn Therapi Galwedigaethol ar ffurf portfolio personol manwl
Dymunol
Aelod o Gymdeithas Brydeinig y Therapyddion Galwedigaethol
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o weithio fel therapydd galwedigaethol
Profiad o weithio mewn tîm
Profiad o weithio yn uniongyrchol efo oedolion/plant /pobl ifanc a theuluoedd
Profiad o asesu anghenion a llunio cynllun gofal
Profiad o weithio efo asiantaethau eraill
Profiad o waith gofal cymunedol gydag oedolion a’u gofalwyr.
Profiad o weithio i ddeddfwriaethau gwahanol
Profiad o fentora o fewn y rôl gwaith cymdeithasol
Dymunol
Profiad o mentora staff
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Gallu i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i gyfeiriadau a blaenoriaethu yn addas.
Gallu i ymgymryd ag asesiadau cymdeithasol a chreu cynlluniau gofal.
Gwybodaeth o ddeddfwriaeth berthnasol, sgiliau rheoli gofal, dealltwriaeth o arferion gwaith cymdeithasol da.
Gallu i ddefnyddio system wybodaeth gyfrifiadurol mewn perthynas ag anghenion gwasanaeth
Gallu derbyn goruchwyliaeth ac arweiniad yn effeithiol er budd y Gwasanaeth a datblygiad personol
Asesu , cydnabod a rheoli risg yn briodol
Dymunol
-
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyllid – Darparu cyngor ac arweiniad ymarferol a phriodol i ddefnyddwyr gwasanaeth er hwyluso rheolaeth cyllid effeithiol yn y Gwasanaeth.
•Offer – Cyfrifoldeb am unrhyw offer arbenigol a ddefnyddir i gyflawni y swydd. Arddangos y defnydd gorau o adnoddau o ran darpariaeth addasiadau ac offer addas a darparu gwasanaeth yn unol a’r polisiau, gweithdrefnau a chanllawiau. Cyfrifoldeb dros allweddi i’r storfeydd ble cedwir offer.
Prif ddyletswyddau
Dyletswyddau Cyffredinol
•Ymarfer o fewn y
•fframweithiau deddfwriaethol a’r canllawiau perthnasol sy’n sail i ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru
•Gweithredu’r cod ymarfer proffesiynol fel gweithiwr proffesiynol cofrestredig
•Meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf a chynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun a chadw portffolio o dystiolaeth datblygiad proffesiynol parhaus. Cefnogi glas-therapyddion a therapyddion galwedigaethol gyda'u dysgu a'u datblygiad.
•Datblygu ymarfer trwy oruchwylio a myfyrio. Mentora cydweithwyr o fewn y SSP, glas-therapyddion galwedigaethol a rolau therapi galwedigaethol.
•Cefnogi cydweithwyr ar wahanol adegau yn eu gyrfa gyda myfyrio parhaus trwy'r rôl fentora.
•Rheoli eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano.
•Cydweithio o fewn timau, rhwydweithiau a systemau amlddisgyblaethol ac aml- sefydliadol. Cynghori cydweithwyr ar feysydd gwaith cymhleth trwy'r rôl fentora.
•Arfer barn broffesiynol a gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth. Cefnogi cydweithwyr ar wahanol adegau yn eu gyrfa i ddatblygu hyder ynghylch barn broffesiynol trwy'r rôl fentora.
•Rheoli materion moesegol, cyfyng-gyngor a gwrthdaro mewn sefyllfaoedd cymhleth. Cefnogi therapyddion galwedigaethol ar wahanol gamau o'u gyrfaoedd i reoli materion mwy cymhleth trwy'r rôl fentora.
•Paratoi a chyflwyno adroddiadau a chofnodion proffesiynol gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyson, ac yn cael ei rhannu'n ddiogel ac yn briodol. Cefnogi cyd-weithwyr ar wahanol gamau o'u gyrfa i ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu adroddiadau a chadw cofnodion trwy'r rôl fentora.
•Cefnogi pobl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
•Eiriol gydag ac ar ran unigolion, teuluoedd, cynhalwyr, grwpiau a chymunedau.
•Cydweithio â phobl sydd angen gofal a chymorth a gweithwyr proffesiynol eraill mewn sefyllfaoedd cymhleth, a chefnogi cydweithwyr gyda chyngor ac arweiniad ar wahanol gamau yn eu gyrfa trwy’r rôl mentora.
•Cynnal asesiadau ac ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder mewn ffordd sy'n hyrwyddo hunan benderfyniad, annibyniaeth a grymuso a chefnogi
•cydweithwyr gyda chyngor ac arweiniad ar wahanol gamau yn eu gyrfa trwy'r rôl fentora.
•Cynnal asesiad sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gan ddefnyddio sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’ i nodi beth sy’n bwysig i’r unigolyn, anghenion cymwys a datblygu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau sy’n hwyluso gofal a chymorth. Cynnig arweiniad a chefnogaeth i gydweithwyr llai profiadol yn y maes gwaith hwn o fewn y rôl fentora.
•Paratoi, cynhyrchu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau gydag unigolion, teuluoedd, gofalwyr, grwpiau, cymunedau a chydweithwyr proffesiynol. Cefnogi cydweithwyr ar wahanol adegau yn eu gyrfa o amgylch y maes gwaith hwn o fewn rôl fentora.
•Nodi, asesu ac ymchwilio i Oedolyn neu Blentyn sy’n wynebu risg yn unol â deddfwriaeth berthnasol a Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Cefnogi cydweithwyr ar wahanol adegau yn eu gyrfaoedd i ddatblygu eu sgiliau a gwneud penderfyniadau yn ymwneud â gweithio ym maes diogelu o fewn rôl fentora.
•Asesu galluedd meddyliol unigolion yn unol â gofynion y Ddeddf Galluedd Meddyliol gan gefnogi cydweithwyr llai profiadol yn y maes gwaith hwn o fewn y rôl fentora.
•Asesu anghenion a gofynion unigolion o ran mân addasiadau, addasiadau mawr ac addasiadau strwythurol cymhleth (gan gynnwys estyniadau). Ystyried yr angen am lety priodol. Sicrhau bod yr addasiad yn cael ei gwblhau i'r safon ddisgwyliedig sy'n cwrdd â'r angen a cefnogi cydweithwyr llai profiadol yn y maes gwaith hwn o fewn y rôl fentora.
•Dangos lefel uchel o hyfedredd clinigol a chyfrannu at brosiectau datblygu gwasanaeth o fewn y tîm Therapi Galwedigaethol. Cefnogi cydweithwyr llai profiadol yn y maes gwaith hwn o fewn y rôl fentora.
•Asesu, cynllunio, darparu ac arddangos y defnydd o dechnegau neu offer arbenigol i unigolion, gofalwyr a darparwyr gofal. Cynghori cydweithwyr llai profiadol yn y maes gwaith hwn o fewn y rôl fentora.
•Cynnal a chofnodi asesiadau risg codi a chario cynhwysfawr yn unol â chanllawiau a deddfwriaeth.
•Datblygu, cynllunio ac adolygu cynlluniau codi a chario i reoli'r risg i unigolion a gofalwyr.
Dyletswyddau Lleol
•Hybu annibyniaeth, galluogi a cefnogi unigolion fod yn datrys problemau eu hunain drwy sgyrsiau wedi eu seilio ar gryfderau.
•Bod yn rhan o’r IAA (rhoi gwybodaeth, cyngor a cymerud cyfeiriadau).
•Cwblhau asesiadau:
-Beth Sy’n Bwysig (cwblhau “occupational analysis” ar weithgareddau pob dydd).
-Symud a Thrin.
-Capasiti a best interest.
-Cadeiriau (arbennigol ac olwyn).
-Gwlau.
-Osgo.
-Asesiadau arbenigol eraill.
•Darparu ymyrraethau (e.g. offer, addasiadau man a mawr).
•Defnyddio ei’n hunain fel adnoddau pan nad oes adnoddau eraill ar gael.
•Cyfeirio ymlaen i’r trydydd sector, proffesiynnau eraill (e.g. Ffisiotherapydd).
•Gweithio gyda “reps” er mwyn cynyddu gwybodaeth arbenigol a cael offer arbennigol i’r unigolion.
•Adolygu ymyrraethau.
•Dangos i unigolion/gofalwyr sut mae defnyddio’r offer.
•Hyfforddiant i ofalwyr/teulu sut mae defnyddio offer symud a thrin.
•Cwblhau llythyrau cefnogi ar gyfer TOT.
•Cymeryd myfyrwyr ymlaen.
Dyletswyddau Eraill
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Gweithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol yn ôl yr angen.
•Bydd disgwyliad i ddeilydd y swydd fod yn rhan o unrhyw drefniadau gaiff eu sefydlu ar sail rota.