Swyddi ar lein
Swyddog Adolygu Annibynnol ac Amddiffyn Plant
Gweler Hysbyseb Swydd | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-27682
- Teitl swydd:
- Swyddog Adolygu Annibynnol ac Amddiffyn Plant
- Adran:
- Plant a Chefnogi Teuluoedd
- Gwasanaeth:
- Uned Diogelu ac Ansawdd
- Dyddiad cau:
- 16/10/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- Gweler Hysbyseb Swydd
- Gradd tâl:
- PS3
- Lleoliad(au):
- Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
Cyflog :- PS3 (33-35) - £41,418 i £43,421 + Ychwanegiad Y Farchnad (PS5)
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth - (https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/cyngor/swyddi/gweithio-i-ni.aspx)
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Dafydd Paul ar 01286679230
Cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 16/10/2024
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Yn gyd-weithredol a chyd gynhyrchiol wrth weithredu; gyda plant, teuluoedd a sefydliadau eraill.
Yn onest, hunan hyderus a hyblyg.
Yn gweithredu o sail egwyddorion proffesiynol gwaith cymdeithasol a’r Cod Ymarfer.
Yn rheoli amser yn effeithiol gan sicrhau fod adolygiad a chynadleddau yn digwydd o fewn terfynau amser.
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Cymhwyster proffesiynol mewn Gwaith Cymdeithasol (DipSW,CQSW etc)
Gweithiwr Cymdeithasol Cofrestredig gyda’r Cyngor Gofal
("Mae'n rhaid i bob gweithiwr cymdeithasol (neu unrhyw un sy'n disgrifio'i hun yn weithiwr cymdeithasol) fod wedi cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru. Bydd Cyngor Gwynedd yn ad-dalu'r ffi cofrestru blynyddol i'r gweithiwr.")
Dymunol
Cymhwyster uwch mewn gwaith cymdeithasol (PQ, TMDP etc)
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad diweddar o weithio fel gweithiwr cymdeithasol ym maes plant
Profiad o weithio fel gweithiwr cymdeithasol ym maes plant am o leiaf 5 mlynedd
Profiad diweddar o gynnal a/neu rheoli asesiadau gofal a chefnogaeth ac asesiadau amddiffyn plant.
Profiad helaeth o baratoi adroddiadau.
Profiad o gadeirio a chynnal cyfarfodydd aml asiantaethol.
Profiad o gyd weithio yn effeithiol ag asiantaethau eraill (e.e. asiantaethau statudol, mudiadau gwirfoddol ac yn y blaen.)
Profiad o weithio mewn partneriaeth a phlant a’u teuluoedd/gofalwyr.
Dymunol
Gweithio ar lefel uwch ym maes gwaith cymdeithasol i blant ( e.e. rheoli, goruchwylio neu uwch ymarferydd).
Profiad o gynnal adolygiadau statudol o Blant Mewn Gofal
Profiad o gadeirio Cynadleddau Amddiffyn Plant.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Sgiliau cadeirio cyfarfodydd
Sgiliau cynnal adolygiadau
Gwybodaeth drylwyr o Ddeddfwriaeth cyfredol i waith gyda phlant a theuluoedd gan gynnwys maes plant mewn gofal ac amddiffyn plant.
Gwybodaeth drylwyr a phrofiad o weithredu yn unol a Chanllawiau Diogelu Cymru.
Gwybodaeth eang am anghenion plant a phobol ifanc mewn angen, plant mewn gofal a plant mewn risg o niwed arwyddocaol.
Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol gyda ystod eang o unigolion gan gynnwys plant a phobol ifanc.
Gwybodaeth drylwyr o drefniadau ar gyfer plant mewn gofal.
Y gallu i gyfrannu yn adeiladol at waith datblygiadol ym maes amddiffyn plant a maes plant mewn gofal.
Gwybodaeth a sgiliau asesu a phenderfynu ar risg o niwed arwyddocaol
Y gallu i ddefnyddio sustemau cyfrifiadurol/prosesydd geiriau.
Sgiliau ysgrifenedig da.
Gallu gweithio fel rhan o dîm a derbyn llwyth gwaith yn ôl anghenion y gwasanaeth.
Gallu i ymateb yn gadarnhaol i ddatblygiadau newydd er mwyn gwella ymarfer, gan gynnwys datblygiadau lleol a chenedlaethol
Dymunol
Gwybodaeth drylwyr am swyddogaeth a chanllawiau parthed rôl y Swyddog Adolygu Annibynnol.
Gwybodaeth drylwyr am swyddogaeth a chanllawiau parthed rôl y Cydlynydd Amddiffyn Plant a chadeirio Cynadleddau Achos Amddiffyn Plant.
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Gweithio tuag at gyflawni deilliannau'r gwasanaeth ar gyfer plant yng Ngwynedd:
oeu cadw'n ddiogel a'u gwarchod rhag niwed
oeu bod yn mwynhau sefydlogrwydd yn eu bywydau
obod eu hiechyd a llesiant yn cael ei hybu
oein bod mor uchelgeisiol am blant fel petaent yn blant i ni ein hunain.
•Gydag uchelgais am drefniadau amddiffyn plant cadarn o'r ansawdd gorau, bydd y swydd yn ymgymryd â'r rôl o gadeirio a chefnogi prosesau amddiffyn plant, gan gynnwys cadeirio Cynadleddau Achosion Amddiffyn Plant. Bydd deilydd y swydd hefyd yn cyfrannu'n gyffredinol at gefnogi a datblygu'r swyddogaeth amddiffyn plant o fewn yr Uned Diogelu ac Ansawdd.
•Gydag uchelgais am bob plentyn sy'n derbyn gofal, fel petai'n blentyn i ni ein hunain, dynodir y rôl o Swyddog Adolygu Annibynnol ar gyfer sawl plentyn sy'n derbyn gofal, i ddeilydd y swydd. Bydd deilydd y swydd hefyd yn cyfrannu'n gyffredinol at gefnogi a datblygu'r swyddogaeth adolygu annibynnol o fewn yr Uned Diogelu ac Ansawdd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif ddyletswyddau
Mae'r swydd hon yn ymwneud â dwy brif swyddogaeth ac, felly, mae'n cynnwys elfennau allweddol y swydd ddisgrifiad, fel y'u gwerthuswyd, sy'n berthnasol i'r swyddogaethau hynny. Mae'r rheiny yn cynnwys swydd y Swyddog Adolygu Annibynnol a rhai elfennau o swydd y Cydlynydd a Chadeirydd Amddiffyn Plant.
Yn benodol ar gyfer y rôl o gadeirio a chefnogi prosesau amddiffyn plant:
Pwrpas:
•Mae’r swydd yma’n allweddol ar gyfer hyrwyddo diogelu, mewn achosion unigol af hefyd yn y modd mae’r rhwyd ddiogelu rhyng-asiantaethol a chorfforaethol yn gweithio yng Ngwynedd
•Gydag uchelgais am drefniadau diogelu cadarn ac o’r safon uchaf, bydd y swydd yn gweithredu fel Cadeirydd Cynadleddau Amddiffyn Plant
Tasgau penodol:
•Cadeirio Cynadleddau Amddiffyn Plant, gan gynnwys Cynadleddau cychwynnol ac adolygu yng Ngwynedd yn unol â gofynion statudol Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan.
•Sicrhau trefniadau effeithiol wrth drefnu, cynnal a monitro Cynadleddau Amddiffyn Plant. Bydd hyn yn cynnwys ystyriaethau megis sicrhau cywirdeb a phrydlondeb cofnodion cynadleddau, sicrhau bod llais y plentyn yn ganolog a bod plant a’u teuluoedd yn cael pob cyfle i gael eu gwahodd a’u cynnwys mewn cynadleddau.
•Ar gyfer Cynadleddau Adolygu, sicrhau bod y Cynllun Diogelu yn cael ei adolygu drwy fonitro cynnydd a diweddaru'r Cynllun Diogelu.
•Hyrwyddo gwaith aml-asiantaethol ym maes amddiffyn plant, gan gynnwys hwyluso cyfraniad asiantaethau i Gynadleddau a Chynlluniau Amddiffyn.
•Arwain ar hyrwyddo a datblygu ymarfer rheng flaen ym maes diogelu, gan bontio ymarfer gyda disgwyliadau polisi a chanllawiau.
•Sicrhau datblygiad y maes, gan gyfrannu at ddatblygiadau a hyfforddiant yn y maes, gan gyflwyno a darparu hyfforddiant perthnasol ar faterion amddiffyn plant yn ôl y gofyn.
•Gweithio o fewn canllawiau a pholisïau adrannol ynghyd â gofynion statudol.
•Datblygu’n broffesiynol yn barhaus gan dderbyn goruchwyliaeth, mynychu hyfforddiant a chyfarfodydd tîm a gwasanaeth.
•Cynnal cofrestriad fel Gweithiwr Cymdeithasol cofrestredig gyda’r Cyngor Gofal.
•Gweithio fel aelod o’r Uned Diogelu ac Ansawdd, gan gyfrannu at ddatblygiad gwaith diogelu ym maes plant ag oedolion.
Yn benodol ar gyfer rôl y Swyddog Adolygu Annibynnol:
Pwrpas:
•Bod yn 'bencampwr' i blant sy'n derbyn gofal a sicrhau bod anghenion llesiant ac unigol plant sy'n derbyn gofal yng Ngwynedd wrth wraidd eu cynllun Gofal a Chefnogi a phob penderfyniad a wneir ynglŷn â'u gofal.
•Sicrhau bod dymuniadau a theimladau'r plentyn yn hysbys a gwneud yn siŵr y gwrandewir ar eu llais yn y broses gynllunio ac adolygu.
•Sicrhau bod Cynllun Gofal a Chefnogi ar gyfer pob Plentyn sy'n Derbyn Gofal, a sicrhau bod y cynllun yn briodol ac yn bodloni anghenion addysgol, iechyd, emosiynol a datblygiadol y plentyn.
•Sicrhau bod sefydlogrwydd ar gyfer pob plentyn sy'n derbyn gofal a bod cynllun parhaol yn ei le am bedwar mis ar ôl iddynt ddechrau derbyn gofal.
•Monitro perfformiad yr awdurdod lleol mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal, dilyn eu taith drwy ofal, a sicrhau bod pob plentyn yn derbyn y cyfleoedd gorau i hybu eu hiechyd a llesiant.
•Sicrhau bod yr awdurdod lleol mor uchelgeisiol am bob plentyn sy'n derbyn gofal, fel petaent yn blant i ni ein hunain.
•Sicrhau bod hawliau dynol y plentyn yn cael eu parchu, bod y plentyn a'i rieni yn cael eu gweld a'u clywed a'u hystyried cyn gwneud unrhyw newid i'r cynllun gofal, a bod trefniadau addas yn eu lle ar gyfer cyswllt teulu ynghyd â chamau diogelu priodol.
•Asesu p'un a oes materion diogelu, ac os oes, ceisio sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd i ddiogelu'r plentyn.
•Sicrhau bod yr awdurdod lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau fel Rhiant Corfforaethol, drwy gynnwys staff o'r adran addysg, o'r awdurdod iechyd ac unrhyw sefydliad sy'n ymwneud â llesiant y plentyn, yn ogystal â phobl allweddol eraill: rhieni, perthnasau a ffrindiau.
•Herio arfer gwael drwy'r protocolau derbyniedig, o lefel y gweithiwr cymdeithasol, drwy'r hierarchaeth rheoli (rheolwr tîm, rheolwr gwasanaeth, pennaeth gwasanaethau plant, prif weithredwr), a chael mynediad i gyngor cyfreithiol annibynnol yn ôl yr angen.
•Sicrhau bod gan blant sy'n derbyn gofal fynediad i gyngor cyfreithiol pan fydd angen, er enghraifft, i herio penderfyniadau a wneir ynglŷn â chyswllt gyda pherthnasau, neu i herio'r gorchymyn gofalwr.
Tasgau penodol:
•Cydymffurfio â chyfrifoldebau SAA, fel y'u hamlinellir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 a’r Codau Ymarfer perthnasol, Deddf Plant 1989, Deddf Plant 2004, Deddf Mabwysiadu 2002, Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion 2015.
•Cadeirio adolygiadau annibynnol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal gan Gyngor Gwynedd yn unol â Rhan 6 Cod Ymarfer (Plant sy'n Derbyn Gofal a Phlant sy'n cael eu Lletya), Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Safonau Ymarfer a Chanllaw Ymarfer Da: Monitro ac Adolygu Cynllun Gofal a Chefnogaeth Rhan 6 (2019), IRO Protocol rhwng CAFCASS Cymru ac ADSS Cymru (2018).
•Craffu, monitro, asesu, adolygu a herio ansawdd ac effeithiolrwydd Cynlluniau Gofal a Chefnogi Rhan 6 yn drwyadl, lle bo angen.
•Sicrhau bod Cynlluniau Gofal a Chefnogi rhan 6 cytunedig ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal yn cael eu gweithredu, gwerthuso effeithiolrwydd arferion a sicrhau bod sylw digonol yn cael ei roi i addysg, iechyd, cyswllt a pharatoadau i adael gofal, lle bo'n briodol.
•Gwneud penderfyniadau ynglŷn ag oes angen unrhyw newidiadau i gynllun gofal a chefnogi, gan gynnwys newid statws cyfreithiol.
•Sicrhau bod cynllun parhaol yn ei le erbyn yr adolygiad pedwar mis ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.
•Osgoi achosion o dorri hawliau dynol y plentyn neu fethiant i weithredu'r cynllun gofal a chefnogi cytunedig drwy gyfeirio unrhyw bryderon sy'n dwysáu, na ellir eu datrys gan y broses adrannol gytunedig ar gyfer pryderon sy'n dwysáu, i CAFCASS
•Herio arferion gwael, cyfarfod gyda rheolwyr tîm a rheolwyr gwasanaeth, ac ysgrifennu atynt, fel bo'n briodol
•Cyfarfod gyda'r Pennaeth Gwasanaeth, Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Prif Weithredwr, a chyfeirio pryderon sy'n dwysáu atynt, fel bo'n briodol.
•Cyfeirio achos y plentyn yn ôl i'r llys drwy CAFCASS os na ddatrysir y mater drwy'r protocol cytunedig ar gyfer pryderon sy'n dwysáu.
•Sicrhau bod cyfarfodydd adolygu yn cael eu cynnal yn amserol ac o fewn canllawiau statudol.
•Sicrhau bod barn y plant a'u teuluoedd yn cael eu cynrychioli a'u hystyried yn llawn yn ystod y broses adolygu; a sicrhau a chefnogi pobl ifanc i gymryd rhan lawn yn y broses adolygu.
•Sicrhau yr ymgynghorir â phob asiantaeth sy'n gweithio gyda phlant sy'n derbyn gofal yng Ngwynedd a'u bod yn gallu cyfrannu’n ystyrlon i’r broses adolygu a bod hyn yn cael ei gofnodi.
•Sicrhau bod llais y plentyn yn cael ei glywed drwy amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys siarad â'r plentyn yn breifat cyn pob adolygiad, oni bai bod y plentyn yn gwrthod gwneud hynny.
•Rhannu gwybodaeth gyda phlant ynglŷn â'u hawliau, gan gynnwys eu hawl i gwyno a sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal yn ymwybodol o'r gwasanaethau eiriolaeth sydd ar gael.
•Sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal, sy'n destun gorchmynion gofal, yn ymwybodol o'u hawl i wneud cais, gyda chaniatâd, am orchymyn adran 8 (dan Ddeddf Plant 1989) i wneud cais i ryddhau gorchymyn gofal, ac i sicrhau yn bersonol bod gan y plentyn fynediad i gyngor a chymorth.
•Datblygu perthynas gyda’r plentyn a darparu parhad drwy gydol taith y plentyn drwy'r system ofal.
•Sicrhau bod y cyfarfodydd adolygu yn dod i benderfyniadau clir a monitro gweithrediad unrhyw benderfyniadau a wneir.
•Bod yn gyfrifol am gywirdeb cofnodion cyfarfodydd a gadeirir a sicrhau bod amserlenni adrannol a statudol yn cael eu bodloni.
•Hysbysu unrhyw ddiffyg mewn adnoddau a nodwyd a chofnodi hynny.
•Derbyn diweddariadau ar gynnydd neu bryderon gan y gweithiwr cymdeithasol a'r rheolwr tîm, rhieni, perthnasau a gweithwyr proffesiynol eraill rhwng adolygiadau, - i benderfynu a oes angen adolygiad cynnar, a sicrhau bod adolygiad yn cael ei gynnal cyn gwneud unrhyw newid i gynllun y plentyn, gan gynnwys symud lleoliad.
•Rhoi cyngor a chefnogaeth arbenigol o ansawdd uchel i Weithwyr Cymdeithasol, Rheolwyr Tîm a'r asiantaethau amrywiol sy'n ymwneud â Phlant sy'n Derbyn Gofal.
•Cymryd cyfrifoldeb personol i herio arferion gwael sy'n effeithio ar les plant.
•Paratoi adroddiadau o ansawdd uchel ar gyfer y Tîm Rheoli Plant a'r Panel Rhiant Corfforaethol.
•Rhwydweithio gyda SAA eraill ar draws Cymru a chynrychioli Gwynedd mewn fforymau cenedlaethol, fel bo'n briodol.
•Darparu gwybodaeth ynglŷn â materion sy'n effeithio ar blant sy'n derbyn gofal i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Comisiynydd Plant, yn ôl y gofyn.
•Hyrwyddo delwedd broffesiynol ar gyfer y gwasanaeth a gweithio o fewn cod ymarfer y Safonau Gofal.
•Derbyn goruchwyliaeth yn unol â pholisi’r Cyngor.
•Darparu goruchwyliaeth Cyfoedion ar gyfer SAA eraill yn y tîm
•Arloesi a monitro gweithrediad deddfwriaeth a chanllaw newydd sy'n effeithio ar blant sy'n derbyn gofal.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Mae'n hanfodol bod yn hyblyg a gweithio'r system TOIL er mwyn cynnal cyfarfodydd adolygu ar adegau priodol ar gyfer plant.
•Disgwylir i SAA adolygu plant sydd wedi cael eu lleoli y tu allan i'r sir neu blant sy'n symud i leoliadau mabwysiadol. Bydd hyn yn golygu teithio am bellteroedd hir ar adegau a gallai gynnwys aros dros nos a gweithio y tu allan i oriau swyddfa.