Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Cynorthwyo i ddarparu prosiectau a profiadau sy’n cynnig her a chyfleoedd dysgu i bobl ifanc, rhwng 11 ac 19 mlwydd oed, sy’n ymateb i’w hanghenion unigol a’u hanghenion fel grwp. Fe gynllunnir rhaglen i gynnal trawsfudiad y person ifanc i fyd oedolion drwy gynyddu eu sgiliau personol a chymdeithasol a thrwy hynny eu galluogi i ymwneud yn feirniadol ac adeiladol yn y gymuned y maent yn byw ynddi a’r gymdeithas ehangach
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Bydd yn gyfrifol am yr offer y bydd yn ei ddefnyddio ar y pryd
Prif Ddyletswyddau. .
• Cyflwyno prosiectau a gweithagreddau i bobl ifanc yn eu cymunedau.
• Sicrhau bod pobl ifanc teimlo’n ddiogel, cael cefnogaeth, cael eu gwerthfawrogi, dysgu sut i gymryd rheolaeth dros eu bywydau gan adnabod a gwrthwynebu dylanwadau neweidiol all eu effeithio
• Cynorthwyo y Gweithiwr Ieuenctid i adnabod diddordebau, anghenion pobl ifanc er mwyn datblygu sesiynnau a prosiectau a trefnu digwyddiadau a gweithagreddau.
• Cynorthwyo y Gweithiwr Ieuenctid i gynnig ystod o brofiadau dysgu i bobl ifanc gan ddefnyddio dulliau anffurfiol gwaith ieuenctid, yn y cymunedau, sydd yn addas ar gyfer pobl ifanc
• Cynorthwyo y Gweithiwr Ieuenctid i gflwyno cyrsiau sydd yn arwain tuag at achrediad (Agored Cymru, Cynlluniau Her Ieuenctid a Chyflawniad Ieuenctid ASDAN, Prifysgol Plant)
• Cadw at yr holl bolisiau perthnasol y cyflogwr a gofynion stadudol eraill, yn cynnwys Cyfle Cyfartal, Iechyd a Diogelwch ac Amddiffyn Plant
• Mewnbynnu gwybodaeth angenrheidiol sydd ei angen am bobl Ifanc yn y system gasglu gwybodaeth
• Sicrhau bod llais person Ifanc yn cael ei glywed trwy bopeth sydd yn cael ei gynnig a’i ddatblygu
• Mynychu cyfarfodydd staff yn ôl yr angen
• Mynychu hyfforddiant i weithwyr ieuenctid a drefnir gan, neu ar ran, y Cyngor
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Cyflogaeth: JNC i Weithwyr Ieuenctid a Chymuned
Pwyntiau 5 - 9
Gwyliau Blynyddol: Telerau JNC - 30 diwrnod o wyliau am y 5 mlynedd cyntaf ac yna 35 diwrnod ar ôl hynny (pro rata)
Lleoliad: Gwasanaethu Dalgylch
Llanberis
Oriau Gwaith: Yr wythnos waith: 2 awr yr wythnos, i’w weithio fin nos ac ar benwythnosau, ac ar brydiau fe all fod yn ofynnol i fod yn hyblyg er mwyn cwrdd ag anghenion gwaith penodol.
Oriau: Yr oriau i gynnwys gwaith min nos ac ar benwythnosau a gall rhai fod yn breswyl
Defnydd car: Defnydd o gar a trwydded yrru llawn. Bydd deilydd y swydd yn cael ei ddynodi fel “defnyddiwr car achlysurol”
Ieithyddol: Bydd angen i ddeilydd y swydd fod yn hyderus ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg o’r cychwyn
Byddwch yn cael eich penodi i weithio yn eich dalgylch ond ar amgylchiadau arbennig bydd gofyn i chi weithio tu allan i’ch dalgylch
Mae’r swydd yn amodol ar gwblhau archwyliad llwyddiannus drwy’r Bwrdd Cofnodi Troseddau
Byddwn yn ail edrych ar y swydd ddisgrifiad ymhen blwyddyn i’r apwyntiad
Mae`r Swydd hon yn amodol o gyrraedd lefel 3 Mewn Gwaith Ieuenctid mewn 2 flynedd o gychwyn y swydd
Tynnir eich sylw at y ffaith fod dyletswyddau a chyfrifoldebau penodol mewn rhai achosion yn anodd eu dadansoddi’n fanwl a gallent newid o dro i dro heb newid cymeriad cyffredinol y dyletswyddau na lefel y cyfrifoldeb. Yn ychwanegol, mae'n ofynnol i bob aelod o'r staff dderbyn elfennau o hyblygrwydd yn eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau, a phan fo angen, cyfnewid o fewn yr Awdurdod er mwyn cyfarfod anghenion a gofynion y gwasanaeth sy'n newid yn barhaus. Bydd angen o'r fath yn galluogi i arbenigedd penodol y deilydd dyfu a datblygu er lles y cyflogwr a'r gweithiwr.
Dim ond amlinelliad o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol a’r lefel cyfrifoldeb.