Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Darparu Gwasanaeth Cwnsela i blant a phobl ifanc o fewn ysgolion uwchradd, chynradd a’r gymuned yng Ngwynedd ac Ynys Môn.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Gliniadur a ffon symudol
Prif ddyletswyddau
•Gwasanaethu fel aelod o dîm i ddarparu gwasanaeth cwnsela effeithlon, proffesiynol a statudol ar gyfer plant a phobl ifanc pan a fel bo angen.
•Darparu gwasanaeth cwnsela wyneb yn wyneb a/neu rithiol ar gyfer yr unigolion hynny yr ystyrir fyddai’n elwa o gwnsela:
•Darparu a trefnu asesiad un i un yn unol â rheoliadau BACP, (British Association for Counselling and Psychotherapy)
•Cydymffurfio a chynnal nifer cyfyngedig o sesiynau yn unol canllawiau’r gwasanaeth â rheoliadau BACP .
•Sicrhau y caiff pob cleient ei asesu a bod naill ai’r gwasanaeth yn delio a’r achos neu y caiff y cleient ei gyfeirio at wasanaeth priodol.
•Gweithredu mewn modd sy’n cydymffurfio â safonau cydnabyddedig darparwyr cwnsela:
•Cydymffurfio â Chod Ymarfer a Fframwaith Moesegol y BACP.
•Dilyn argymhellion Pecyn Cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar arfer dda.
•Hoelio sylw ar drefniadau gwarchod ac amddiffyn plant a phobl ifanc .
•Cynnal cydbwysedd yn annibynnol rhwng Gwarchod a Moeseg – er budd y cleient.
•Cadw cofnodion safonol ar bob achos:
•Casglu nodiadau sylfaenol ar bob achos unigol .
•Darparu data ac adborth a’i mewnbynnu ar system rheoli gwybodaeth y gwasanaeth.
•Sicrhau cadw yr holl nodiadau yn unol â deddfwriaeth Gwarchod Data .
•Dilyn gweithdrefn ble ceir barn y defnyddiwr ynglŷn â’r gwasanaeth.
•Cynnal cysylltiadau cadarn a system cytunedig o gydweithrediad effeithlon gydag asiantaethau perthnasol o fewn ffiniau cyfrinachedd .
•Ymgynghori a chydweithwyr allweddol eraill ym maes lles a iechyd meddwl plant a phobl ifanc a dilyn system gyfeirio gytunedig tuag at, ac ymlaen, o’r gwasanaeth.
•Darparu gwybodaeth am y gwasanaeth cwnsela. Codi ymwybyddiaeth plant, pobl ifanc, eu rhieni a phobl broffesiynol eraill ynghylch presenoldeb y gwasanaeth cwnsela a sut mae’n gweithredu. Gwneud staff yr ysgol yn ymwybodol o gwnsela, eu cynghori ynghylch y wefan gwasanaeth cwnsela o fewn yr ystod o wasanaethau cefnogol sydd ar gael ar gyfer plant a phobl ifanc.
•Cyflawni unrhyw dasgau sy’n gysylltiedig a darparu cwnsela mewn ysgolion, sy’n rhesymol i’w ddisgwyl o ystyried cyflog y swydd, ar gais rheolwr llinell.
•Gwarchod cleientiaid ac eraill sydd mewn perygl o gryn niwed:-
•Mae cleientiaid yn ddibynnol ar y Gwasanaeth Cwnsela i ddarparu lefel uchel o gyfrinachedd. Mae’n hanfodol i’r Cwnselydd ddarparu‘r amgylchedd diogel hwn tra’n cadw cydbwysedd rhwng eu Fframwaith Moesegol ac Amddiffyn Plant. Mae angen monitro anghenion y cleientiaid yn gyson trwy gydol y broses Therapiwtig.
•Cyd gordio’r gwasanaeth ar lefel ysgol drwy:
•Drefnu a gweinyddu’r gwasanaeth ar y cyd â staff yr ysgol;
•Cyfathrebu a chysylltu â staff yr ysgol, er budd yr unigolyn ifanc, gan gadw oddi mewn i derfynau
cyfrinachedd y cleient;
•Gweithredu fel adnodd i staff ysgolion drwy roi cipolwg ar fyd cwnsela a hyrwyddo’r gwasanaeth lle bo modd;
•Cynnal a datblygu ymarfer proffesiynol drwy reolaeth gyson a pharhaus, goruchwyliaeth glinigol a hyfforddiant, a thrwy gymryd rhan mewn gwerthusiadau ac archwiliadau o’r gwasanaeth;
•Asesu a rheoli’r risgiau i unigolion, ac i chi’ch hun.
•Monitro, ail-asesu a rheoli’r risgiau i unigolion yn rheolaidd
•Cymryd camau ar unwaith ac sy’n gymesur i ddelio â/mynd i’r afael ag unrhyw ymddygiad sy’n peri risg.
•Cydymffurfio â gweithdrefnau ac arferion gwarchod y Bwrdd lleol Amddiffyn Plant a rhai’r adran.
•Cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, safonau cenedlaethol a polisïau adrannol perthnasol.
•Cadw cofnodion achos cywir ac wedi ei diweddaru a sicrhau bod ffeiliau’n cydymffurfio â gofynion polisi’r adran ar ddiogelu data, cadw cofnodion a chyfrinachedd.
•Cyfrannu’n rhagweithiol mewn adolygiadau arfarnu perfformiad a goruchwyliaeth unigol.
•Gwneud cyfraniad positif tuag at y tîm, trwy gydweithio â chydweithwyr a’r rheolwr llinell.
•Mynychu cyfarfod tîm a cymryd rhan mewn unrhyw weithgorau perthnasol a cyfarfodydd adrannol a rhyng-asianaethol eraill fel bo angen.
Cyffredinol
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Ar adegau, mae yn bosib y bydd disgwyliad i weithio fin nos a/neu penwythnosau.