Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod plant a phobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Sicrhau cyfleoedd dysgu ac addysgu o safon uchel i’r holl ddisgyblion o dan ei g/ofal a safonau cyrhaeddiad uchel ym mhob agwedd o waith yr ysgol.
• Trwy weithio o dan gyfarwyddid y pennaeth a chydweithio a’r UDRh ac athrawon eraill mae’r athro dosbarth yn cyd-gyfrifol am greu amgylchedd dysgu cyffrous, ysgogol a chynhyrchiol ar gyfer y disgyblion.
• Mae’r ysgol hon wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Adnoddau dysgu, arwain cymorthyddion
Prif Ddyletswyddau.
Amodau
Mae gofynion y swydd hon i'w cyflawni yn unol â darpariaethau Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) ac o fewn amrediad dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y ddogfen honno cyn belled ag y bo hynny'n berthnasol i deitl y swydd a graddfa cyflog y sawl sydd yn y swydd. Mae’r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.
Bydd pob aelod o staff a gyflogir yn yr ysgol yn gweithredu pob cais neu gyfarwyddyd rhesymol a roddir gan y Pennaeth a/neu gynrychiolydd. Yn ychwanegol, mae’n rhesymol disgwyl gweithredu a chwblhau rhai dyletswyddau penodol yn unol â pholisïau’r ysgol.
Gweithredu’r ‘Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth’. Dylid hybu nodweddion, gwerthoedd a dealltwriaeth broffesiynol, cynllunio gwaith yn hyderus gan osod targedau i’w monitro a’u hasesu wrth gynnal amgylcheddau dysgu effeithiol, lle mae pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel a hyderus.
Cyfrifoldebau Proffesiynol
Y cyfrifoldebau penodol sy'n gysylltiedig â swydd yr athro/athrawes dosbarth fydd:
• Sicrhau lles a diogelwch pob disgybl. Tynnu sylw’r person priodol at unrhyw broblem.
• Cynnig addysg o’r radd flaenaf i bob disgybl, gan dalu sylw teilwng i oed, gallu a diddordebau’r unigolion.
• Creu a chynnal man gwaith deniadol a phleserus, gan ddefnyddio arddangosfeydd o waith plant a staff yn rheolaidd, ac annog disgyblion i gadw’r ystafelloedd dysgu yn lân ac yn daclus.
• Yn unol ag arweiniad cyfredol yr ysgol, cynllunio rhaglenni gwaith, gan gynnwys paratoi disgyblion ar gyfer profion neu arholiadau mewnol ac allanol yn ôl yr angen.
• Cynllunio a pharatoi gwersi yn ofalus a thrylwyr.
• Paratoi deunyddiau dysgu ac addysgu ar gyfer y gwersi a ddysgir.
• Sicrhau fod adnoddau/deunyddiau/offer perthnasol ac addas yn barod ymlaen llaw.
• Sicrhau fod gwersi yn cychwyn ac yn gorffen ar amser a bod y disgyblion yn cael eu derbyn i’r dosbarth a’u hanfon allan dan reolaeth a threfn.
• Dysgu â brwdfrydedd gan ymestyn pob disgybl a roddir i’w g/ofal hyd eithaf ei allu.
• Gosod a marcio gwaith y disgyblion.
• Cynnal disgyblaeth yn unol â’r rheolau a gweithdrefnau a fabwysiadwyd gan yr ysgol.
• Cyfrannu at gyfarfodydd, trafodaethau a threfniadau rheolaeth yn ôl y gofyn i ddatblygu a chydlynu gwaith yr ysgol.
• Cyfrannu at drefniadau’r ysgol ar gyfer asesu ac adrodd ar gyflawniad disgyblion.
• Cymryd rhan yn nhrefniadau’r ysgol ar gyfer gwerthuso a rheoli perfformiad.
• Ymroi i ddatblygiad proffesiynol sy’n berthnasol i’r swydd a chyfrifoldebau drwy gydol ei g/yrfa.
• Cynghori, arwain a chydweithio â’r pennaeth ag athrawon eraill yn ôl y gofyn mewn perthynas â darparu a datblygu rhaglenni gwaith, deunyddiau addysgu, dulliau asesu a.y.y.b.
• Mynychu a chyfrannu i gyfarfodydd staff sy’n ymwneud â chwricwlwm yr ysgol, trefniadaeth yr ysgol, gan gynnwys gweithdrefnau bugeiliol.
• Hunanarfarnu safonau ac arferion dysgu - ymyrryd yn bwrpasol i godi safonau.
• Cyflawni dyletswyddau bore, egwyl a phrynhawn yn unol â Pholisi Iechyd a Diogelwch yr ysgol a’r amserlen a gyhoeddir ar ddechrau pob blwyddyn academaidd.
• Mynychu cyfarfodydd amrywiol ar nosweithiau yn unol â threfniadau’r ysgol.
• Mynychu nosweithiau rhieni yn ôl y galw er mwyn trafod datblygiadau disgyblion.
• Mynychu cyfarfodydd eraill yn ôl y galw, gan gynnwys y tu allan i oriau arferol yr ysgol o fewn oriau cyfeiriedig.
• Mynychu hyfforddiant mewn swydd yn ôl y galw.
• Hybu blaenoriaethau Cynllun Datblygu Ysgol presennol.
• Cyfrannu’n bwrpasol i ddatblygu’r ysgol i fod yn ganolfan sy’n cynrychioli’r arferion a’r safonau proffesiynol uchaf.
• Cydweithio’n effeithiol a pharchus fel aelod o dîm proffesiynol.
• Cyfrannu gyda’r Pennaeth i sicrhau fod yr ysgol yn gwarchod gwerthoedd yr iaith Gymraeg ac yn dilyn Polisi Iaith yr Awdurdod.
• Ysgwyddo cyfrifoldeb am ei ddatblygiad proffesiynol ei hun.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r cyngor/ysgol yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Cysylltiadau:
Bydd y sawl sydd yn y swydd yn:
- rhyngweithio ar lefel broffesiynol efo'i gydweithwyr ac yn ceisio sefydlu a chynnal perthynas gynhyrchiol a nhw er hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth o bynciau o fewn cwricwlwm yr ysgol gyda golwg ar wella ansawdd y dysgu yn yr ysgol.
- gyfrifol am oruchwylio gwaith cymhorthydd sy'n berthnasol i'w ddyletswyddau.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Gweithio y tu allan i oriau gwaith arferol yn ôl y gofyn.
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.