NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Ymrwymiad i weithio i warchod lles plant
Gallu i weithio dan bwysau
Parodrwydd i ddatblygu ac ehangu gwerthoedd, sgiliau a gwybodaeth
Gweithio fel rhan o dim a derbyn arolygaeth
DYMUNOL
Hyblyg o ran oriau gweithio
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
DipSW/CQSW/CSS neu ar fin cymhwyso
"Mae'n rhaid i bob gweithiwr cymdeithasol (neu unrhywun sy'n disgrifio'i hun yn weithiwr cymdeithasol) fod wedi cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru. Bydd Cyngor Gwynedd yn ad-dalu'r ffi cofrestru blynyddol i'r gweithiwr
DYMUNOL
-
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o weithio gyda phlant, pobol ifanc a’u teuluoedd
DYMUNOL
Profiad o weithio mewn tim plant neu leoliad gwaith efo plant
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Trwydded yrru gyfredol.
Dealltwriaeth o rol gweithiwr cydmeithasol o fewn y tim plant.
Gallu i weithio mewn partneriaeth a phlant, teuluoedd ac asiantaethau eraill
DYMUNOL
Gweithio o dan y Canllawiau Amddiffyn plant a Fframwaith asesu plant mewn angen a’u teuluoedd
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)