NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Sgiliau cyfathrebu gan ddefnyddio cyfryngau gwahanol
Creadigrwydd a’r awydd a’r hyder i gynnig syniadau
Gonestrwydd, hunan hyder, pendantrwydd a hyblygrwydd
Brwdfrydedd, dyfalwch a’r ewyllys i ddatrys problemau.
Hunan cymhelliant.
Cymeriad diplomyddol ac amyneddgar
Gallu i dderbyn cyfrifoldebau ac i gyfathrebu'n effeithiol.
Gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm.
Sgiliau ymchwilio, cynllunio a threfnu
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Gradd neu gymhwyster cyfwerth mewn pwnc sy'n berthnasol i anghenion y
swydd (o ystyried natur y swydd, bydd profiad sylweddol yn y maes yn cael ei
ystyried yn gymhwyster addas / ychwanegol)
DYMUNOL
Cymhwyster ychwanegol mewn marchnata a/neu cyfathrebu
Cymhwyster ECDL neu gymhwyster cyfwerth yn nefnydd TGCh
Cymhwyster Rheoli Prosiect
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad a dealltwriaeth o dwristiaeth a marchnata twristiaeth
Profiad o gyfathrebu a gweinyddiaeth
Profiad o gydweithio gydag unigolion a grwpiau ar lefel eang
Profiad o ddatblygu, cydlynu a gwireddu rhaglenni/ prosiectau twristiaeth a neu cyfathrebu
Profiad o gydlynu ac arwain ar gytundebau a dealltwriaeth o drefniadau caffael
Cefndir o weithio mewn tîm neu fel unigolyn heb oruchwyliaeth.
DYMUNOL
Profiad o waith a phrosesau datblygu economaidd a chymunedol
Profiad o weithio mewn Llywodraeth Leol.
Profiad o wneud gwaith ymchwil a chasglu data
Profiad o baratoi ceisiadau grant
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gwybodaeth amlinellol o faterion twristiaeth cynaliadwy a datblygu’r economi
Sgiliau gweinyddol a chyfrifiadurol
Gwybodaeth am gasglu a thrin data meintiol ac ansoddol
Sgiliau cyfathrebu cryf gan gynnwys sgiliau rhyngbersonol a’r gallu i hyrwyddo cydweithio
Y gallu i ymdrin â phobl o bob oed a chefndir a’r gallu i gyfathrebu a dylanwadu rhanddeiliaid wrth ystyried eu hanghenion / dyheadau
Y gallu i ymgymryd a thrafodaethau sensitif a pharchu cyfrinachedd
DYMUNOL
-
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)