Swyddi ar lein
Cynorthwyydd Storfeydd
£25,545 - £26,421 y flwyddyn
- Cyfeirnod personel:
- 24-27509
- Teitl swydd:
- Cynorthwyydd Storfeydd
- Adran:
- Swyddi cyffredinol
- Gwasanaeth:
- Swyddi cyffredinol
- Dyddiad cau:
- 16/08/2024 12:00
- Cyflog:
- £25,545 - £26,421 y flwyddyn
- Lleoliad(au):
- Cyffordd Llandudno
Manylion
Hysbyseb Swydd
CYNORTHWYYDD STORFEYDD
Adran Storfeydd – Cyffordd Llandudno
Parhaol, 37 awr yr wythnos
Gradd GTAGC 04-£25,545 yn codi i £26,421 y
flwyddyn
Yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru mae pawb yn
cyfrannu mewn rhyw ffordd neu'i gilydd i helpu i warchod ein
cymunedau a'r amgylchedd naturiol. Fel Cynorthwyydd Storfeydd,
byddwch yn cynorthwyo'r Rheolwr Storfeydd i gyflawni Swyddogaeth
Storfeydd y Gwasanaeth yn effeithiol ac effeithlon, gan gynnwys
cefnogi gofynion pob gorsaf ac adran, yn eu plith e.e. Cit Gweithredol,
Offer Gwarchod Personol, deunyddiau traul a chyflenwadau cymorth
cyntaf.
Byddwch yn atebol i'r Rheolwr Storfeydd, ac yn gyfrifol am brosesu
archebion, ffurflenni a benthyciadau mewnol ar system y Storfeydd,
gan sicrhau lefel uchel o gywirdeb wrth gasglu a dosbarthu archebion.
Cwrdd ag amserlenni a therfynau amser perthnasol. Lle bo angen,
cysylltu ag adrannau mewnol a chwblhau unrhyw gamau dilynol.
Mewn achosion brys gall hyn gynnwys gyrru cerbyd y Gwasanaeth i
ddosbarthu nwyddau.
Bydd y rôl yn cynnwys creu a chynnal dogfennau Iechyd a Diogelwch
COSHH o fewn yr adran. Prosesu Taflenni Data Diogelwch ar gyfer trosi
data yn asesiadau COSHH y Gwasanaeth Tân
Yn ddelfrydol byddwch wedi'ch addysgu hyd at NVQ lefel 3 mewn
Gwasanaeth Cwsmeriaid/Gweinyddiaeth neu gymwysterau cyfwerth
a/neu brofiad amlwg a pherthnasol cyfatebol a bydd gennych
wybodaeth ymarferol am egwyddorion Iechyd a diogelwch yn y
gwaith a’u defnydd yn y gweithle.
Bydd y rôl yn cynnwys gweithgareddau codi a chario, gan gynnwys
sefyll, codi a chario, a dringo grisiau ac ysgolion a gall hefyd gynnwys
codi eitemau trwm.
Fel sefydliad dwyieithog, bydd angen sgiliau Cymraeg Lefel 2 ar yr
ymgeisydd llwyddiannus. Os na cheir prawf o hyn wrth benodi, darperir
cefnogaeth i gyflawni hyn yn ystod y cyfnod prawf.
Sylwch fod y swydd hon yn destun Gwiriad DBS a geirdaon boddhaol. I
gael manylion pellach ynglŷn â'r rôl, cyfeiriwch at y pecyn
gwybodaeth.
I wneud cais, cwblhewch a chyflwynwch eich pecyn cais drwy e-bost
i: recruitment@northwalesfire.gov.wales
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw 12.00 hanner
dydd, 16.08.2024
Byddwn yn glynu wrth y dyddiad cau yn llym ac ni fydd eithriadau.