Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Darparu cefnogaeth addysgol i ddisgyblion â phroblemau ymddygiadol / emosiynol.
•Darparu cefnogaeth addysg/cyswllt a phlant sydd ddim yn mynychu y darpariaeth prif lif am pa bynnag reswm.
•Cymryd cyfrifoldeb am weithgareddau dysgu.
•Cynllunio, paratoi a chyflwyno cwricwlwm ehangach ynghyd â chwricwlwm therapiwtig i unigolion neu grwpiau.
•Monitro, asesu, cofnodi ac adrodd ar lwyddiannau yr elfennau yma.
•Hyrwyddo cynnydd a lles cyffredinol disgyblion yn unol ag athroniaeth y ddarpariaeth.
•Gweithredu’r Còd Ymarfer Anghenion Arbennig o ran cefnogi disgyblion.
•Cefnogi Addysgu’ disgyblion sydd ddim yn ddysgwyr arferol prif lif.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Adnoddau dysgu cyffredinol.
•Offer TGCh i gefnogi dysgu’r disgyblion
Prif ddyletswyddau
Cefnogaeth i ddisgyblion
•Cefnogi’r Addysgu grwpiau o ddisgyblion a neilltuir gan yr Adran Addysg
•Cynllunio nodau addysgu a dysgu heriol ac addasu cynlluniau gwersi/gwaith fel y bo’n briodol.
•Asesu anghenion disgyblion a defnyddio gwybodaeth fanwl a sgiliau arbenigol i gefnogi dysgu’r disgyblion.
•Monitro a gwerthuso ymateb disgyblion i weithgareddau dysgu drwy ystod o strategaethau asesu a monitro.
•Darparu adborth gwrthrychol a chywir ac, yn ôl y gofyn, adroddiadau ar gyflawniad, cynnydd a materion eraill disgyblion, gan sicrhau fod tystiolaeth briodol ar gael.
•Gweinyddu ac asesu/marcio profion.
•Gosod disgwyliadau uchel.
•Datblygu a gweithredu Cynlluniau Addysg Unigol (CAU) Chynlluniau Ymddygiad Unigol (CYU) a Chynlluniau Datblygu Unigol (CDU).
•Hybu cynhwysiad pob disgybl.
•Cefnogi’r disgyblion yn gyson wrth adnabod eu hanghenion unigol ac ymateb iddynt.
•Annog y disgyblion i ryngweithio a gweithio’n gydweithredol, lle’n briodol, ag eraill ac ymrwymo pob disgybl mewn gweithgareddau.
•Hybu annibyniaeth a defnyddio strategaethau i adnabod a gwobrwyo cyflawniad a hunanddibyniaeth.
•Cofnodi yn drylwyr, gynnydd a chyflawniad a darparu tystiolaeth o ystod a lefel cynnydd a chyrhaeddiad.
•Asesu, cofnodi ac adrodd ar gynnydd disgyblion.
•Darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas â chynnydd a chyflawniad.
•Adrodd ar gynnydd disgyblion i’r ysgolion ac unrhyw asiantaeth berthnasol.
•Cysylltu a chyfathrebu’n effeithiol a phawb perthnasol sydd â wnelo â’r disgyblion fel mae’n briodol.
•Hwyluso cyfathrebu rhwng ysgol, rhieni ac asiantaethau eraill
•Sicrhau bod yr holl faterion Iechyd a Diogelwch sy’n rhan o’ch cyfrifoldeb yn cael eu dwyn i sylw’r Rheolwr Llinell.
•Bod yn rhan weithredol o lunio asesiadau risg ar ddisgyblion a lleoliadau dysgu.
•Trefnu a rheoli amgylchedd dysgu ac adnoddau priodol.
•Gweithredu polisi Cyfleoedd Cyfartal yr AALl.
•Gweithio o fewn polisi disgyblaeth sefydledig i ragweld a rheoli ymddygiad yn adeiladol, gan hybu hunanreolaeth ac annibyniaeth.
•Cefnogi rhan rhieni yn dysgu’r disgyblion a chyfrannu tuag at gyfarfodydd/arwain cyfarfodydd gyda rhieni i ddarparu adborth adeiladol ar gynnydd/cyflawniad disgyblion, ayyb.
•Cynhyrchu cynlluniau gwersi, taflenni gwaith, cynlluniau, ayyb.
•Bod yn ymwybodol a chefnogi gwahaniaeth, a sicrhau bod gan bob disgybl fynediad cyfartal i gyfleoedd dysgu a datblygu.
•Os yw’n briodol, mynychu cyfarfodydd bugeiliol
Cefnogaeth i’r Cwricwlwm
•O fewn cyfundrefn oruchwylio gytunedig, cyflwyno gweithgareddau dysgu i’r disgyblion, addasu gweithgareddau yn unol ag ymatebion/anghenion y disgyblion.
•Cyflwyno strategaethau dysgu lleol a chenedlaethol, e.e. llythrennedd, rhifedd a gwneud defnydd effeithiol o gyfleoedd a ddarperir gan weithgareddau dysgu eraill i gefnogi datblygiad sgiliau disgyblion.
•Defnyddio TGCh yn effeithiol i gefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth disgyblion yn ei ddefnydd.
•Dethol a pharatoi adnoddau sy’n angenrheidiol ar gyfer arwain gweithgareddau dysgu, gan gymryd cyfrif o ddiddordebau, iaith a chefndir diwylliannol y disgyblion.
•Cynghori ar leoli a defnyddio cymorth/adnoddau/offer arbenigol yn briodol.
•I feddu ar drwydded yrru ddilys a defnydd o gerbyd sydd yn cydymffurfio â Pholisi Teithio Cyngor Gwynedd.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•-