Swyddi ar lein
Gweithiwr Cymunedol Tywyn x2
£20,959 - £21,309 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-27483-H4
- Teitl swydd:
- Gweithiwr Cymunedol Tywyn x2
- Adran:
- Oedolion, Iechyd a Llesiant
- Gwasanaeth:
- Gwasanaethau Darparu
- Dyddiad cau:
- 12/12/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 33 Awr
- Cyflog:
- £20,959 - £21,309 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- GS3
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Swydd Gofal – Cytundeb 33awr – hefyd cyfle i weithio oriau ychwanegol yn rheolaidd pan ar gael
TYWYN
Ydych chi wedi ystyried gweithio yn y maes Gofal?
A ydych yn awyddus i ddilyn gyrfa sy’n rhoi boddhad a phleser i chi wrth gefnogi eraill?
Mae cyfle nawr i chi ymuno hefo Tîm Gofalwyr Cartref Cyngor Gwynedd
Rydym eisiau clywed gennych nawr yn fwy nac erioed – cysylltwch hefo ni heddiw am fanylion.
Gallwn gynnig contractau oriau sefydlog a chyflog ffafriol yn ogystal â chostau amser teithio.
Fel aelod o staff, byddwch hefyd yn manteisio ar becyn hyfforddiant cynhwysfawr sy’n berthnasol i waith gofal.
Byddwch yn cael cyfle i ennill cymhwyster proffesiynol.
DBS (CRB) di dal - Mae cyflogaeth yn amodol i dderbyn adroddiad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
26.5 Diwrnod a wyliau pro rata y flwyddyn ac hawl Gŵyl y banc (cynyddu i 29.5 diwrnod
pro rata yn dilyn 5 mlynedd o wasanaeth di-dor hefo’r Cyngor)
Pensiwn atyniadol ar gael
Buddiannau staff amrywiol
Tâl - £ 24,790 - £25,183 (llawn amser 37awr) £12.85 – 13.05 / awr
Teithio .45c/milltir
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Zara Caroline Williams ar 01341 424534 / ZaraCarolineWilliams@gwynedd.llyw.cymru
Cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 12/12/2024
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Bod yn berson sensitif, ymroddedig gonest a dibynadwy gyda’r gallu i
weithredu mewn modd sy’n parchu hawliau’r unigolyn bob amser
Gallu gweithredu yn unigol ac fel aelod o dimDYMUNOL
-CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
QCF 2/CGC 2 Gofal (neu gymhwyster cyfatebol) neu ymrwymiad i gymhwyso o
fewn amserlen benodedigDYMUNOL
Hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch e.e. Symud a Thrin, Cymorth Cyntaf
Hyfforddiant perthnasol yn y maes gofal cymdeithasolPROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
-DYMUNOL
Profiad o ofalu neu ymwneud ag oedolion bregus
Profiad o waith domestig cyffredinol megis cadw tŷ
Profiad o weithio mewn tîm proffesiynolSGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Meddu a’r sgiliau rhyngbersonol da
Sgiliau cyfathrebu da
Dealltwriaeth o egwyddorion darparu gofal
DYMUNOL
Dealltwriaeth a gwybodaeth am gyflyrau iechyd o penodol
Ymwybyddiaeth o Ddeddf Gofal 2000 a dealltwriaeth o’r safonau perthnasol
Meddu ar drwydded yrru ddilys
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith. Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.Darllen a Deall - Lefel Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith. Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)Ysgrifennu - Lefel Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Helpu unigolion sydd yn derbyn cefnogaeth i fyw eu bywydau yn eu cartrefi eu hunain fel maent yn dymuno.
•Gwneir hyn trwy eu hannog a’u cefnogi i ddatblygu eu sgiliau, er mwyn eu galluogi i fyw yn llwyddiannus oddi fewn eu cymuned. Disgwylir gallu gosod amcanion, datrys problemau a dysgu sut i adnabod pryd mae newid mewn amgylchiadau a phryd mae’r anghenion yn newid.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Sicrhau defnydd priodol o eiddo unigolion.
•Gwneud defnydd priodol o offer arbenigol sy’n helpu'r unigolyn fyw eu bywyd yn ôl eu dymuniadau a’u hamcanion personol. Bydd hyn yn cynnwys adrodd ar ddiffygion a dilyn protocolau ymarfer a hyfforddiant arbenigol yn ôl yr angen.
Prif ddyletswyddau
•Rhagori mewn adeiladu perthynas â phobl er mwyn deall yn iawn beth fyddai'n gwneud gwahaniaeth iddynt yn eu bywydau a grymuso llais yr unigolyn ar bob cyfle.
•Cyfrannu at, a dilyn yn fanwl, cynlluniau gofal personol unigryw sy’n cael ei greu mewn partneriaeth â’r unigolyn, gan adnabod cyfleoedd i addasu a gwella’r cynllun gofal yn ôl yr angen. Mewn amgylchiadau addas, yn gallu gweithredu ar yr addasiad yn syth gan ddiweddaru’r Cydlynydd Gofal Cymunedol, neu mewn amgylchiadau eraill yn awgrymu cynnal adolygiad o’r sefyllfa ar y cyd gyda’r proffesiynau perthnasol.
•Cyfrannu at y broses asesu, monitro, cynllunio a gweithredu gweithgareddau yn unol ag anghenion yr unigolyn. Gall y gweithredoedd yma gynnwys cymryd rhan mewn rhaglenni, ymarferion ac ymyraethau penodol.
•Bod yn arloesol a chreadigol wrth roi gofal mewn ffordd sy'n cynnwys pobl yn llawn. Dylid gwneud ymdrech barhaus i gynnwys pobl yn y gweithgareddau symlaf hyd yn oed ac sy'n galluogi neu'n ail-alluogi pobl i gymryd rheolaeth o'u bywydau eu hunain. Gellir gwneud hyn drwy hyrwyddo hawliau'r unigolyn, ac annog cymryd risgiau cadarnhaol a gwybodus.
•Cymryd cyfrifoldeb am wybod beth sy’n digwydd mewn cymunedau a chwilio am ddatrysiadau i allu helpu pobl. Annog unigolion i fyw eu bywyd mor llawn â phosibl trwy wneud defnydd o unrhyw adnoddau a gweithgareddau sydd ar gael yn eu cymuned.
•Profi ffyrdd newydd o gefnogi, a meddwl y tu allan i’r bocs am atebion creadigol sy’n tynnu ar gryfderau, asedau a rhwydweithiau anffurfiol yr unigolyn.
•Cyfrannu mewn sgyrsiau aml-ddisgyblaethol a chyfrannu yn ysgrifenedig am ganlyniadau llesiant personol pobl. Bydd hyn yn cynnwys nodi ffyrdd y gellir eu cefnogi i gyflawni'r canlyniadau, gan eu helpu i helpu eu hunain a defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael yn y maes hwnnw.
•Disgwylir gallu cyd-weithio gydag eraill i'w helpu, gan nodi unrhyw rwystrau sydd i gyflawni eu canlyniadau, a defnyddio'r wybodaeth yma i drafod gyda’r tîm ehangach, rhoi newid ar waith, a dysgu o brofiad.
•Yn unol â’r cynllun gofal, defnyddio offer arbenigol trwy ddilyn y cynllun symud a thrin, gan sicrhau'r gofal gorau i’r unigolyn. Cyfrifoldeb dros adrodd yn ôl yn syth am unrhyw broblem, diffygion a rhwystrau.
•Ymwybyddiaeth am dechnoleg syml i helpu pobl fyw yn annibynnol. Yn gallu adnabod yr angen am gefnogaeth offer megis Teleofal ac yn gallu cynorthwyo pobl i’w defnyddio.
•Yn gallu ymgymryd â thasgau iechyd syml, megis gweinyddu drops llygid a chlustiau, a newid bagiau catheter a stoma, gan adrodd i Dîm Gofal Iechyd Cymunedol os oes unrhyw bryder neu os oes angen arweiniad pellach.
•Cynnal gwaith gweinyddol cywir sy’n berthnasol i’r rôl e.e. cofnodi a rhoi gwybodaeth mewn dogfennau yn ffeiliau’r defnyddiwr gwasanaeth yn ddyddiol.
•Cydymffurfio yn llawn gyda Chôd Meddyginiaeth Cyngor Gwynedd.
•Cynnal asesiad manwl wrth gyrraedd pob galwad, gan ystyried iechyd, lles meddyliol a chorfforol unigolion, gan ymateb yn sydyn ac yn briodol i’r sefyllfa. Yn gallu adnabod newidiadau mewn iechyd a llesiant ar sail y gwahaniaethau mewn cyfnodau byr o amser o fewn yr un diwrnod ar brydiau, neu gyfnodau hirach ar adegau eraill.
•Ymateb yn briodol ac yn sydyn i sefyllfaoedd o argyfwng allai godi trwy wneud defnydd o unrhyw ganllawiau perthnasol.
•Bod yn flaengar ac yn barod i wneud penderfyniadau gwybodus yn annibynnol, tra hefyd yn cymhwyso barn broffesiynol a gwybod pryd i ddenu cefnogaeth gan y tîm ehangach a phroffesiynau eraill.
•Gallu delio gyda’r amrywiaeth o faterion allai godi trwy natur y swydd, gan weithredu fel rhan o dîm sy’n datrys problemau ymysg ei gilydd.
•Bod yn barod i gynorthwyo staff newydd yn eu datblygiad gan ddefnyddio eu gwybodaeth, sgiliau a phrofiad i’w cefnogi yn effeithiol.
•Dilyn ethos sydd yn pwysleisio pwysigrwydd gweithio gydag unigolion, gan ganolbwyntio ar ddilyn egwyddorion galluogi a hyrwyddo eu hannibyniaeth.
CYFATHREBU A PHERTHNASAU
•Gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr ym maes iechyd a gofal, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, nyrsys cymunedol, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapi, meddygon teulu a phartneriaid 3ydd sector, ac unrhyw broffesiwn perthnasol arall pan fyddai’n briodol i wneud hynny.
•Gweithredu ar gyfleoedd i adeiladu bywydau sy’n gysylltiedig â rhwydweithiau teuluol a chymunedol a bod yn glir ynghylch yr hyn y maent yno i helpu’r person i’w gyflawni.
HYFFORDDIANT A GORUCHWYLIAETH
•Cyfrifoldeb dros fynychu hyfforddiant mandadol, ac unrhyw hyfforddiant arall perthnasol sydd wedi ei adnabod gan y gwasanaeth.
•Cyfrifoldeb dros gwblhau cymhwyster QCF Lefel 2.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad a datblygiad proffesiynol parhaus.
•Bod â meddylfryd sy’n agored i ddysgu’n barhaus ac awydd i ddatblygu yn broffesiynol oddi fewn y maes iechyd a gofal.
•Mynychu a chyfrannu tuag at weithgareddau adeiladol megis goruchwyliaeth, a chyfarfodydd tîm sy’n cefnogi’r meddylfryd o wella a datblygu'r gwasanaeth a llesiant staff.
•Cyfrifoldeb dros gofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru, gan gymryd perchnogaeth dros sicrhau fod y nifer angenrheidiol o oriau hyfforddiant wedi eu cyflawni yn llwyddiannus yn flynyddol, a sicrhau eich bod yn ymddwyn mewn modd sy’n egwyddorol yn unol â’r côd ymarfer proffesiynol ar gyfer gofal cymdeithasol.
DIOGELU
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth fod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
POLISÏAU
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth a pharchu cyfrinachedd yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cydymffurfio'n llawn â pholisïau a chanllawiau’r Gwasanaeth.
ARALL
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau arbennig
•Bydd angen mynd trwy brosesau'r Gwasanaeth Datgelu ac Eithrio.
•Angen gweithio oriau anghymdeithasol dros saith diwrnod ar sail rota. Gall hyn gynnwys gŵyl y banc a phenwythnosau yn ôl yr angen.
•Disgwyliad i weithio ar draws safleoedd eraill y gwasanaeth os yw’n angenrheidiol.