Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.
•Rheoli prosiectau, yn unol â chyfarwyddyd y Prif Beiriannydd / Rheolwr yr Uned, er mwyn sicrhau bod gofynion penodol y briff, a ddarperir gan y Cleient o ran costau, amser ac ansawdd, yn cael eu cyflwyno’n llwyddiannus.
•Bod yn weithredol yn natblygiad a gweithrediad technegau a systemau rheoli prosiect (e.e. Gweithdrefn Rheoli Prosiect YGC, PRINCE2, Llawlyfr Rheoli Prosiect y Cyngor ac ati) i sicrhau bod YGC yn ymrwymo’n llawn i fodloni anghenion Cleientiaid i ddarparu gwerth am arian gan weithredu ar sail fasnachol ac addasu’i hun i gystadlu’n effeithiol.
•Bod yn gyfrifol am reoli timau prosiect hyblyg, o fewn yr Uned a’r Gwasanaeth yn gyffredinol, a rhoi arweiniad i aelodau’r tîm.
•Rhoi sylw i’r holl ofynion yng nghyd-destun rheolaeth ariannol prosiectau a rhoi adborth ariannol i'r Prif Beiriannydd / Rheolwyr yr Unedau ar faterion prosiect a llwyth gwaith yn rheolaidd.
•Perfformio ymrwymiadau'r contract ar brosiectau adeiladu.
•Datrys materion cytundebol gyda sefydliadau megis contractwyr ac ymgynghorwyr.
•Adolygu a datblygu gweithdrefnau newydd yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Cyngor, ynghyd â datblygiadau cenedlaethol.
•Ymdrin â phob menter wella Genedlaethol a'r UE.
•Cyflawni gofynion deddfwriaeth iechyd a diogelwch ac amgylcheddol.
•Datblygu a chynnal y sgiliau a'r wybodaeth dechnegol sydd ei hangen i gynnal a chyflawni gwasanaethau craidd YGC.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Canfod a chynnal y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â:-
•dull caffael ar gyfer prosiectau isadeiledd
•safonau a datblygiadau technegol (gan gynnwys technoleg gyfredol)
•cyfrifoldebau proffesiynol a statudol (yn cynnwys e.e. y rhai dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974, Deddf Adeiladu 1984, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1982, Rheoliadau Cynefinoedd 1994 a Rheoliadau addas e.e. rheoliadau CDM) a’u cymhwysiad i’r gwaith a’r swyddogaethau sy’n cael eu gweithredu.
•Rheoli staff eilaidd.
•Dirprwyo i’r rheolwr.
•Sicrhau bod YGC yn ateb gofynion y Cyngor.
•Cymryd cyfrifoldeb llawn am reolaeth ariannol eu prosiectau.
•Sicrhau y caiff holl daflenni amser a chymeradwyaeth staff eu cwblhau yn unol â gweithdrefnau YGC.
•Disgwylir i ddeilydd y swydd gydymffurfio â gofynion Iechyd a Diogelwch a chydweithredu â chynrychiolydd Iechyd a Diogelwch YGC.
Prif ddyletswyddau
•datblygu a chynnal canolfan weinyddol ymarferol a phroffesiynol gyda chleientiaid.
•cyfrifol am oruchwylio a rheoli gweithgareddau ymgynghorwyr arbenigol ac isgontractwyr.
•ymgymryd â rôl y “tyst arbenigol” yn ôl yr angen.
•sicrhau fod Cynllun Busnes YGC yn cael ei ddatblygu a'i gynnal i sicrhau fod yr Uned yn perfformio i'r eithaf.
•cynorthwyo wrth ddatblygu a chynnal holl dempledi dogfennau a gweithdrefnau YGC.
•Paratoi cynlluniau iechyd a diogelwch cyn tendro.
•marchnata gwaith a galluoedd yr uned i gleientiaid presennol a chleientiaid posib y dyfodol.
•rheoli prosiectau Lefel 2+3
•cynorthwyo i reoli prosiectau Lefel 1
•bod yn rheolwr prosiect ar gynlluniau a chynnal astudiaethau dichonoldeb, casglu data, ymchwiliadau cychwynnol, asesiadau technegol, a gweithdrefnau dylunio, gweinyddol, ansawdd ac ariannol ar gyfer gwaith fydd yn cael ei wneud ar ran y Cleient a’r holl weithgareddau sy’n ofynnol gan y Cleient yn y rôl honno.
•Sicrhau bod prosiectau yn cydymffurfio â deddfwriaeth a rheoliadau iechyd a diogelwch ac amgylcheddol.
•Paratoi rhaglenni a rhagolygon gwariant ar gyfer prosiectau. Monitro ac adrodd i’r Cyfarwyddwr Prosiect (Prif Beiriannydd / Rheolwr Uned) ar gynnydd a chostau gwirioneddol ac argymell a chymryd camau cywiro pan fo angen.
•goruchwylio rheolaeth ariannol, weinyddol a thechnegol gwaith adeiladu, ymchwilio, asesu neu waith cynnal a chadw a wneir ar ran y Cleient. Cynorthwyo wrth ddatrys materion cytundebol ar ran cleientiaid.
•ymgymryd â'r dyletswyddau sy'n ofynnol dan Reoliadau CDM.
•ymgysylltu gyda Goruchwylwyr Safle drwy gydol oes y prosiect.
•sicrhau bod systemau a meddalwedd cyfrifiadurol ar gael a’u bod yn addas i’r uned allu perfformio ar ei gorau. Cysylltu â'r Tîm Systemau.
•Cysylltu â gwasanaethau eraill, cyfadrannau eraill, Aelodau’r Cyngor, ymgymerwyr statudol, awdurdodau eraill, sefydliadau allanol, ac unigolion sy’n ymwneud â holl agweddau’r gwaith.
•goruchwylio ac arwain gwaith a datblygiad staff eilaidd.
•adrodd i uwch staff, a derbyn cyfarwyddiadau ganddynt.
•dyletswyddau gweinyddol a phroffesiynol eraill sy’n berthnasol, ac yn gymesur ag awdurdod y swydd.
•Cyfrifol am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am unrhyw bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau arbennig
•profiad helaeth o reoli prosiectau, ymdrin â hawliadau, materion dyfarnu neu gymodi.
•Ennill a chynnal cymwysterau proffesiynol, hyfforddiant a phrofiad sy’n angenrheidiol i gyflwyno gwasanaeth proffesiynol i bob cleient (e.e. C.Eng MICE, MIStructE ac ati).
•y gallu i reoli staff a’r gwasanaeth mewn swydd uwch ac o fewn cyfyngiadau ariannol a chyfreithiol.
•y gallu i weithio dan bwysau. Gallu ysgogi staff er mwyn sicrhau llwyddiant YGC.
•Yr angen i weithio tu allan i oriau swyddfa mewn Ymchwiliadau Cyhoeddus, ymgynghoriadau, arddangosiadau a chyfarfodydd y Cyngor a phan fyddwch yn cael eich galw allan i sefyllfaoedd argyfwng.