Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth rheoli stadau a prisio proffesiynol a chynhwysfawr, gan gynnwys prynu, gwerthu a rheoli tiroedd ac adeiladau.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Arwain ar ddiweddaru y System Wybodaeth Ddaearyddol a chynorthwyo gyda’r System Rheoli Asedau.
•Offer technegol personnol ar gyfer ymgymryd a gwaith prisio - camera digidol, peiriant mesur digidol “Disto”, tapiau mesur ayyb
Prif ddyletswyddau
•Cynorthwyo i ddatblygu a diweddaru systemau cofnodi gwybodaeth yr Uned Stadau gan gynnwys y System Wybodaeth Ddaearyddol
•Goruchwylio a chydgordio y gwaith o sefydlu a diweddaru y basdata Rheoli Asedau gan gynnwys gwybodaeth am holl incwm rhent y Cyngor.
•Cynorthwyo i ddarparu cynlluniau fel bo’r angen.
•Cynorthwyo y Syrfewyr Stadau gyda phob agwedd o waith rheoli holl eiddo y Cyngor gan gynnwys negodi a cytuno thelerau ar gyfer prynu a gwerthu eiddo gan sicrhau y buddiant gorau i’r Cyngor ym mhob achos yn unol a gofynion Deddf Llywodraeth leol 1972
•Cynorthwyo gyda phob agwedd o reoli prydlesi eiddo y Cyngor gan gynnwys ymdrin ac adnewyddu prydlesi, adolygu rhenti ayb
•Cynorthwyo i negodi a chytuno telerau mewn perthynas â cheisiadau gan denantiaid i is osod, aseinio, gwneud gwaith adeiladu, codi amodau cyfyngu ayb ar eiddo y Cyngor.
•Cynorthwyo i brisio eiddo preifat preswylwyr cartrefi henoed y Cyngor.
•Cynorthwyo i ddarparu gwasanaeth prisio proffesiynol gan gynwys archwilio eiddo i gofnodi ffactorau perthnasol
•Cynorthwyo gyda phrisiad asedau y Cyngor i gydymffurfio a gofynion CIPFA.
•Darparu trwyddedau i amrywiol bwrpasau yn ymwneud a defnydd tir y Cyngor.
•Cynorthwyo i baratoi apeliadau yn erbyn asesiadau trethi annomestig ar eiddo y Cyngor.
•Ymdrin ag ymholiadau gan Adrannau Gwasanaeth a gan y cyhoedd ynglyn â pherchnogaeth eiddo y Cyngor. Darparu Cyngor proffesiynnol mewn ymateb i ymholiadau o’r fath.
•Gweithio’n agos gyda’r Uned Gyfreithiol i warchod eiddo y Cyngor rhag tresmaswyr, hawliadau am feddiant gwrthgefn ayyb
•Paratoi Tafleni Penderfynniad Aelod Cabinet/Adroddiadau Cabinet mewn perthynas a materion rheoli eiddo.
•Cynrychioli yr Uned mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol fel bo’r angen.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Yr angen i ymgymryd ac archwiliadau safle gydol y flwyddyn.
•Teithio i gyfarfodydd led led y sir.
•Yn debygol o wynebu sefyllfaoedd annodd wrth negodi telerau ac ymgymryd a gwaith gorfodaeth.