Nodweddion personol
Hanfodol
Gradd neu gymhwyster cyfwerth mewn pwnc sy’n berthnasol i anghenion y swydd
Dymunol
Aelod o gymdeithas neu gorff proffesiynol perthnasol
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Cefndir o weithio mewn swyddfa, rhan o dîm a chyflawni tasgau heb oruchwyliaeth.
Profiad o gyfathrebu gydag unigolion a grwpiau ar lefel eang.
Profiad o weithio gyda busnesau a mudiadau o fewn y sector breifat, wirfoddol a chyhoeddus.
Dymunol
Profiad o weithio mewn Llywodraeth Leol.
Profiad o weithio gyda busnesau bychain a chanolig eu maint (SMEs).
Profiad o gyfrannu at ddatblygiad polisïau economaidd.
Profiad o weithio i amserlen dyn ac o dan bwysau.
Profiad o weithredu prosiectau ac o baratoi adroddiadau.
Profiad perthnasol
Hanfodol
Sgiliau cyfathrebu da – yn llafar ac ysgrifenedig.
Sgiliau mathemategol ac ieithyddol da.
Gwybodaeth am economi Gwynedd.
Dealltwriaeth am y maes busnes.
Cymhwyster neu hyfforddiant mewn prosesu geiriau / basdata / taenlenni.
Dymunol
Gwybodaeth am y gwasanaeth cefnogol sydd ar gael i fusnesau.
Gwybodaeth am yr ardal ac amcanion Cyngor Gwynedd.
Profiad o ddadansoddi cyfrifon a chynlluniau busnes.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Y gallu i ymdrin â phobl o bob oed a chefndir.
Gonestrwydd, hunan hyder, pendant a hyblyg.
Gallu i dderbyn cyfrifoldebau ac i gyfathrebu’n effeithiol gan ddelio yn sensitif gyda materion cyfrinachol.
Gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm.
Defnydd o gar a thrwydded yrru gyfredol lawn.
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).