Swyddi ar lein
Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol
£19,245 - £20,367 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-27322
- Teitl swydd:
- Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol
- Adran:
- Plant a Chefnogi Teuluoedd
- Gwasanaeth:
- Plant a Theuluoedd
- Dyddiad cau:
- 20/06/2024 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 22.2 Awr
- Cyflog:
- £19,245 - £20,367 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- S3
- Lleoliad(au):
- Gweler Hysbyseb Swydd
Manylion
Hysbyseb Swydd
Lleoliad: Swyddfa Dwyfor, Cyngor Gwynedd, Ffordd y Cob, Pwllheli
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Elliw Hughes ar 01758 704 455
Cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-ost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 20/06/2024 am 10yb
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Agwedd gadarnhaol tuag at ddefnyddwyr gwasanaeth a chydweithwyr
Ymrwymiad i weithio i amddiffyn diogelwch, llesiant a lles plant
Gallu gweithio fel rhan o dîm ac yn unol â chyfarwyddyd y Rheolwr Tîm
Arddangos ymrwymiad a brwdfrydedd mewn perthynas â chyflawni deilliannau positif i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
Bod yn ymrwymedig i ddatblygiad personol
Gallu cyfathrebu’n effeithiol ac yn gallu adeiladu perthnasau da
Gallu bod yn greadigol ac yn llawn dychymyg gyda phlant a theuluoedd
Hyblygrwydd
Gallu ymgysylltu a gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc mewn amgylchiadau anodd a heriol
Gallu cyfathrebu'n dda gyda phobl ifanc a chydweithwyr
Gallu cymell ei hun
Gallu datblygu a chynnal perthnasau gwaith proffesiynol gyda phartneriaid Diogelu
Ymrwymiad i weithio i hyrwyddo lles plant
Gallu gweithio'n unigol ac fel aelod o dîm
Agwedd gadarnhaol tuag at ddefnyddwyr gwasanaeth a chydweithwyr
Ymroddedig i ddatblygiad proffesiynol ac yn deall gwerth a phwysigrwydd goruchwyliaeth a'r gallu i dderbyn goruchwyliaeth.
Gallu gweithio dan bwysau, ar eich liwt eich hun gan ddangos cadernid a phendantrwydd
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
5 TGAU gradd C neu uwch
Dymunol
Cymhwyster mewn gofal plant neu ofal cymdeithasol neu Iechyd perthnasol (e.e. NVQ 3, Diploma mewn astudiaethau lles, Datblygiad Plant)
Tystiolaeth o ddatblygiad personol perthnasol drwy hyfforddiant mewn swydd
Profiad perthnasol
Hanfodol
Gallu a'r profiad o weithio'n unigol ac fel aelod o dîm.
Gallu cyfathrebu'n dda.
Gweithio mewn modd creadigol a phositif.
Gallu gweithio dan bwysau
Gallu cynnal trafodaethau anodd a heriol
Profiad o weithio gyda phlant a theuluoedd sy'n dangos amrediad o anghenion cymhleth (heriau iechyd meddwl, anawsterau ymddygiad, camddefnydd o gyffuriau ac alcohol, trais domestig) a dangos gallu i greu cydberthynas ac adeiladu perthnasau effeithiol.
Gwybodaeth am ddiogelu, deddfwriaeth gofal plant, Gweithdrefnau Amddiffyn Plant lleol, a dealltwriaeth o ddatblygiad plentyn, capasiti rhiantu a ffactorau risg ac amddiffynnol.
Dealltwriaeth o wybodaeth am Ddiogelu Plant, yn benodol CSE, CCE.
Gallu meithrin perthnasau adlewyrchol, cefnogol yn canolbwyntio ar ganlyniadau gyda phlant a'u teuluoedd.
Profiad o gynllunio gwaith mewn modd strwythuredig ac effeithlon
Mynychu a chyfrannu mewn cyfarfodydd
Dymunol
Profiad o gynnal neu gyfrannu at asesiadau, cynllunio gofal ac adolygiadau gyda chleientiaid ag anghenion cymhleth.
Gwybodaeth a dealltwriaeth o amrediad o ddulliau ar sail tystiolaeth, gan gynnwys theori ymlyniad a cholled, perthynas ac ymyraethau ar sail cryfder.
Profiad o roi adborth dadansoddol ar fewnbwn a chynnydd mewn achosion
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Sgiliau TG
Gwybodaeth am anghenion plant a datblygiad plentyn
Dealltwriaeth ac ymrwymiad i ymarfer diragfarn ac anormesol
Gallu dehongli a chofnodi digwyddiadau'n glir a chywir
Trwydded yrru gyfredol, lân
Gallu paratoi adroddiadau o ansawdd mewn Cymraeg a Saesneg
Gallu cyfathrebu yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig
Cyfrannu at ddyfeisio a gweithredu cynlluniau i fodloni anghenion plant.
Gallu ffurfio a chyflwyno pecynnau cefnogaeth a grymuso creadigol, wedi'u teilwra i fodloni anghenion yr unigolyn.
Tystiolaeth o ymwybyddiaeth amlasiantaethol a sut fydd gweithio mewn partneriaeth yn gwella darpariaeth y gwasanaeth ac yn cyflawni amcanion yr unigolyn.
Cynnal perthnasau cefnogol gyda chydweithwyr mewn gwaith cymdeithasol ac asiantaethau allanol.
Gallu ymgysylltu gyda phlant a'u teuluoedd a chynnal perthnasau.
Cyfrannu at goladu gwybodaeth briodol er mwyn gwneud penderfyniadau deallus ynghylch pecynnau cefnogi.
Deall pwrpas goruchwyliaeth.
Ymwybyddiaeth o hunan-reoli proffesiynol
Dymunol
Profiad a gwybodaeth mewn perthynas â dulliau ymyrryd megis rhiantu, rheoli ymddygiad, ffyrdd o fyw iach, ymwybyddiaeth ofalgar.
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•-
Prif ddyletswyddau
Dyletswyddau Cyffredinol
•Ymarfer o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a’r canllawiau perthnasol sy’n sail i ddarpariaeth gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru
•Gweithredu’r cod ymarfer proffesiynol
•Meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf a chynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun.
•Cymryd rhan weithredol mewn goruchwyliaeth fyfyriol reolaidd gan weithiwr cymdeithasol cofrestredig neu therapydd galwedigaethol cofrestredig (yn dibynnu ar rôl a thasgau) a cheisio cyngor a chefnogaeth ar feysydd gwaith y tu hwnt i ffiniau gwaith disgwyliedig.
•Rheoli eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano a gweithio o fewn ffiniau'r rôl.
•Cydweithio â chydweithwyr amlddisgyblaethol dan arweiniad eich rheolwr llinell/gweithiwr cymdeithasol cofrestredig
•Paratoi a chyflwynoadroddiadau a chofnodion o dan oruchwyliaeth y rheolwr llinell/gweithiwr cymdeithasol cofrestredig gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyson ac yn cael ei rhannu’n ddiogel ac yn briodol.
•Cefnogi a grymuso pobl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
•Grymuso pobl i gael llais a’u cefnogi i gael mynediad at wasanaethau eirioli.
•Cydweithio â phobl sydd angen gofal a chymorth a gweithwyr proffesiynol eraill.
•Cynnal asesiadau ac ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder mewn ffordd sy'n hyrwyddo hunan benderfyniad, annibyniaeth a grymuso dan oruchwyliaeth gweithiwr cymdeithasol cofrestredig.
•Cynnal asesiad sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gan ddefnyddio sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’ i nodi beth sy’n bwysig i’r unigolyn, anghenion cymwys a datblygu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau sy’n hwyluso gofal a chymorth gydag arweiniad gan eich rheolwr llinell a chydweithwyr eraill mwy profiadol.
•Paratoi, cynhyrchu a gweithredu cynlluniau dan oruchwyliaeth gweithiwr cymdeithasol cofrestredig/therapydd galwedigaethol cofrestredig (yn dibynnu ar rôl a thasgau).
•Nodi Oedolyn neu Blentyn sy’n wynebu risg yn unol â deddfwriaeth berthnasol a Gweithdrefnau Diogelu Cymru ac adrodd yn briodol.
•Ymgymryd â'r cymhwyster lefel 4 perthnasol fel y nodir yn Fframwaith Cymwysterau GCC a rhaglenni lefel 3 a 4 eraill yn ôl y gofyn.
Dyletswyddau eraill
•Mae gofyn i ddeilydd y swydd gynnal cyfweliadau Dychwelyd Gartref (RHI) gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi bod ar goll o gartref/gofal.
•Bydd cyfweliadau Dychwelyd Gartref ac adroddiadau canlyniadol yn cael eu cwblhau yn unol â disgwyliadau amserol, a byddant o ansawdd sy'n sicrhau bod unrhyw risgiau yn cael eu rhannu'n eglur ac yn cael eu rheoli'n dda.
•Bydd deilydd y swydd yn cydweithio'n agos gydag aelodau o'r tîm cyfeirio a'r tîm derbyn plant er mwyn derbyn gwybodaeth yn ymwneud â phlant a phobl ifanc sydd wedi cael eu cyfeirio i'r Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd gan HGC yn dilyn cyfnod o fod ar goll o Gartref/Gofal.
•Bydd deilydd y swydd yn cydweithio'n agos gyda HGC er mwyn derbyn a rhannu gwybodaeth cyn cynnal cyfweliad Dychwelyd Gartref.
•Bydd deilydd y swydd yn cydweithio'n agos â Gweithwyr Cymdeithasol a fydd yn cadw'r cyfrifoldeb am gynnal Cyfweliad Dychwelyd Cartref ar gyfer yr achosion sydd eisoes ar agor iddynt ar eu baich achosion er mwyn rhannu gwybodaeth yn ymwneud â diogelu.
•Cyfrannu tuag at gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel yn ein Cymuned ac yn rhydd o gamfantais.
•Bydd deilydd y swydd yn cydweithio'n agos gyda HGC ar ôl cwblhau cyfweliadau dychwelyd gartref er mwyn rhannu'r wybodaeth a gasglwyd yn ystod cyfweliadau Dychwelyd Gartref er mwyn cefnogi HGC i gasglu intel a data mewn perthynas â materion yn ymwneud â CSE/CCE er mwyn cefnogi'r gwaith a wneir i ddiogelu plant a phobl ifanc fregus sy'n byw ac sydd wedi'u lleoli yng Ngwynedd.
•Bydd deilydd y swydd yn cyfrannu at ddatblygu adnodd amlranbarthol fydd yn datblygu arbenigedd yn y maes Cyfweliadau Dychwelyd Gartref.
•Bydd deilydd y swydd yn darparu adroddiadau chwarterol i Uwch Dîm Rheoli Plant Gwynedd.
•Bydd deilydd y swydd yn datblygu cysylltiadau cryf gyda'r Uned Amddiffyn Pobl Fregus (HGC) ac yn cyfathrebu'n effeithiol gyda Phanel Camfanteisio'n Rhywiol/Droseddol ar Blant Gwynedd.
•Darperir adroddiadau bob chwe mis i Grŵp Cyflawni Diogelu Plant Lleol Gwynedd a Môn.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•-