Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cyfranogi i ddarpariaeth gwasanaeth prisio a rheoli stadau cynhwysfawr i gynnwys prynu, rheoli a gwerthu tiroedd ac adeiladau.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Offer - Offer technegol personol ar gyfer ymgymryd â gwaith prisio - camera digidol, peiriant mesur digidol “Disto”, tapiau mesur ayyb
Prif Ddyletswyddau.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
• Negodi telerau ar gyfer prynu tiroedd ac adeiladau ar ran holl Wasanaethau'r Cyngor.
• Gwaith rheoli prydlesi eiddo'r Cyngor gan gynnwys ymdrin â negodi telerau cytundebau newydd, adnewyddu prydlesi, adolygu rhenti ayyb.
• Prisio asedion y Cyngor yn unol â chanllawiau RICS a CIPFA.
• Prisio eiddo preifat preswylwyr cartrefi henoed y Cyngor a phrisiadau eiddo preifat mewn perthynas â Chynllun Mynwy.
• Darparu apeliadau trethi annomestig ar ran y Cyngor a chynrychioli'r Cyngor mewn tribiwnlysoedd trethi fel bo’r gofyn.
• Gweithredu ar ran sefydliadau cyhoeddus allanol mewn achosion o brynu, gwerthu, prydlesu neu faterion eiddo proffesiynol eraill fel bo’r gofyn.
• Gwerthu eiddo sy’n weddill i anghenion y Cyngor gan sicrhau'r buddiant gorau i’r Cyngor ym mhob achos yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth leol 1972 a pholisïau'r Cyngor.
• Ystyried priodoldeb defnyddio Caniatâd Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003 wrth waredu eiddo a gweithredu yn unol â gofynion deddfwriaethol wrth waredu eiddo am lai na gwerth y farchnad.
• Darparu cyngor proffesiynol arbenigol ar faterion yn ymwneud â rheoli eiddo ac asedau i Wasanaethau’r Cyngor.
• Goruchwylio gwaith y Syrfëwyr Stadau Cynorthwyol gan gynnwys cefnogi a rhoi arweiniad technegol a phroffesiynol fel bo’r gofyn. Rhannu tasgau gwaith i’r Syrfëwyr Stadau Cynorthwyol a sicrhau eu bod yn blaenoriaethu eu llwyth gwaith yn effeithiol i gefnogi perfformiad yr Uned fel tîm.
• Defnyddio gwybodaeth a phrofiad proffesiynol arbenigol i ddatrys problemau eiddo'r Cyngor a pharatoi argymhellion mewn perthynas â rheolaeth effeithiol o asedau’r Cyngor.
• Negodi a chytuno telerau mewn perthynas â cheisiadau gan denantiaid i is osod, aseinio, gwneud gwaith adeiladu, codi amodau cyfyngu ayb ar eiddo'r Cyngor.
• Darparu trwyddedau i amrywiol bwrpasau yn ymwneud a defnydd tir y Cyngor.
• Gweithio’n agos gyda’r Uned Gyfreithiol i warchod eiddo'r Cyngor rhag tresmaswyr, hawliadau am feddiant gwrthgefn ayyb.
• Paratoi adroddiadau i Gabinet a Bwrdd y Cyngor, ynghyd a thaflenni Penderfyniad Aelod Cabinet, a chynrychioli’r Uned eiddo corfforaethol ar weithgorau fel bo’r gofyn.
• Negodi telerau hawliadau iawndal yn erbyn y Cyngor.
• Caffael tir yn unol â grymoedd pryniant gorfodol (CPO) / neu yng nghysgod grymoedd pryniant gorfodol.
• Cynorthwyo i ddatblygu a chynnal systemau bas data'r uned gan gynnwys y system wybodaeth rheoli asedau a’r System Wybodaeth Ddaearyddol (GIS).
• Gweithredu yn unol ag egwyddorion Ffordd Gwynedd.
• Cyfranu’n amserol tuag at gynlluniau’r Cynllun Gweithredu Tai a Chynlluniau Blaenoriaeth y Cyngor trwy brynu a phrydlesu tir, a chynghori a gweithredu ar faterion rheoli eiddo cysylltiedig.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Archwiliadau safle gydol y flwyddyn.
• Teithio i gyfarfodydd led led y sir.
• Yn debygol o wynebu sefyllfaoedd anodd wrth negodi telerau ac ymgymryd â gwaith gorfodaeth.
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.