Pwrpas y swydd
•Arwain a gweithredu cynlluniau ac ymgyrchoedd cyfathrebu a hyrwyddo ar draws adrannau a gwasanaethau’r Cyngor (gwaith y wasg, cyhoeddiadau’r Cyngor, cyfryngau cymdeithasol ac ati).
•Cynnal trefniadau effeithiol i gyfathrebu gwybodaeth rheolaidd i gynghorwyr.
•Cyd-weithio gyda Phenaethiaid, Rheolwyr a swyddogion i ddatblygu cynlluniau i gyfathrebu gwybodaeth a hyrwyddo gwasanaethau.
•Ymchwilio a datblygu dulliau newydd ac arloesol o gyfathrebu gwybodaeth i ystod eang o gynulleidfaoedd.
•Cyfathrebu Gweledol: Goruchwylio’r gwaith o gynhyrchu clipiau fideo (llunio briff, sgriptio ac ati), taflenni, posteri ac ati ar gyfer cynulleidfaoedd mewnol ac allanol.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb am systemau arddangos corfforaethol a deunyddiau hyrwyddo’r Cyngor
Prif ddyletswyddau
•Arwain a gweithredu prosiectau a chynlluniau effeithiol, creadigol a blaengar ar draws adrannau’r Cyngor i gyfathrebu gwybodaeth i ystod eang o gynulleidfaoedd a budd-ddeiliaid.
•Darparu cyngor ac arweiniad i Benaethiaid, rheolwyr a swyddogion ar ddulliau cyfathrebu effeithiol.
•Ymchwilio ac ysgrifennu cynnwys creadigol ac effeithiol ar gyfer cyhoeddiadau’r Cyngor – erthyglau, sgriptiau, cynnwys ar gyfer cyfrifon digidol ac ati.
•Cynnal perthynas effeithiol gyda newyddiadurwyr, llunio a chyhoeddi datganiadau i’r wasg ac ymateb i ymholiadau gan y wasg a’r cyfryngau.
•Arwain y gwaith o sefydlu, cynnal a hyrwyddo safle newyddion pwrpasol ar wefan allanol y Cyngor.
•Arwain y gwaith o gasglu a blaenoriaethu gwybodaeth perthnasol i’w gyfathrebu i gynghorwyr.
•Cynhyrchu a chyhoeddi e-fwletin wythnosol i’r cynghorwyr a sicrhau fod y gofod newyddion ar Fewnrwyd yr Aelodau yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd.
•Monitro ymarfer da a’r datblygiadau diweddaraf yn y maes cyfathrebu er mwyn adnabod technegau newydd ac arloesol y gall y Cyngor eu defnyddio i gryfhau ein gwaith cyfathrebu.
•Cyfrannu at y gwaith o gasglu a chreu cynnwys perthnasol i’w gyfathrebu yn fewnol gyda’r nod o gynyddu ymgysylltiad staff y Cyngor.
•Cynrychioli’r Gwasanaeth mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol yn ôl yr angen.
•Cefnogi’r Gwasanaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu gyda gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus eraill yn ôl yr angen.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin
Amgylchiadau arbennig
•Gall dyletswyddau a chyfrifoldebau’r swydd amrywio ac mae peth hyblygrwydd yn hanfodol. O dro i dro bydd angen gweithio y tu hwnt i oriau swyddfa arferol.