Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Darparu gwasanaeth Clerigol i’r Corff Llywodraethol.
•Gweinyddu a chefnogi gwaith y Corff Llywodraethu yn unol â chanllawiau'r awdurdod lleol, gan weithio’n effeithiol gyda chadeirydd y llywodraethwyr a phennaeth yr ysgol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•-
Prif ddyletswyddau
•Cyd-weithio gyda’r Cadeirydd a’r Pennaeth ar gynnwys rhaglen cyfarfodydd gan ddarparu papurau cefndir ar gyfer y
cyfarfodydd hynny - 5 niwrnod gwaith cyn y cyfarfod.
•Darparu ac anfon rhaglen i aelodau’r corff llywodraethu - 5 niwrnod gwaith cyn y cyfarfod.
•Gwirio gyda’r Cadeirydd ar unrhyw faterion y gweithredwyd arnynt rhwng cyfarfodydd ac sydd angen eu hadrodd i’r corff llywodraethu.
•Mynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu llawn yn ogystal â’r is-bwyllgorau statudol gan gymryd cofnodion priodol (hyd at 6cyfarfod yn flynyddol yn unig). Gall y Clerc hawlio tal ychwanegol i glercio cyfarfodydd ychwanegol.
•Mae’n statudol i Gorff Llywodraethu gynnal o leiaf un cyfarfod o’r Corff Llawn yn dymhorol
•Cyfarfod ffurfiol y rhieni gyda’r Llywodraethwyr pe byddai gofyn yn dilyn petitiwn
•Is-bwyllgorau statudol yn ol y gofyn am dal ychwanegol os yw dros 6 cyfarfod mewn blwyddyn
•Sicrhau bod y Corff Llywodraethu yn pennu dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd ymlaen llaw a bod y wybodaeth
hynny yn hysbys i’r Awdurdod Lleol.
•Cynhyrchu ac anfon copïau drafft o’r cofnodion i’r Cadeirydd a’r Pennaeth cyn creu fersiwn derfynol i’w
ddosbarthu i bob aelod o’r Corff Llywodraethu a ALl.
•Cofnodi presenoldeb llywodraethwyr mewn cyfarfodydd a rhagrybuddio unrhyw lywodraethwr sydd mewn
perygl o’i ddatgymhwyso oherwydd diffyg presenoldeb.
•Cadw cofnod o dymor gwasanaeth pob llywodraethwr gan gysylltu â’r Awdurdod Lleol ar achlysuron pan fo
cyfnod gwasanaeth yn dod i ben, neu pan fo ymddiswyddiadau.
•Gohebu ar ran y Corff Llywodraethu, yn ôl yr angen.
•Cadw trefn ar gofnodion, gohebiaeth a dogfennau eraill yng nghyswllt gwaith y corff llywodraethu.
•Cynorthwyo’r Pennaeth a’r Corff Llywodraethu i baratoi Adroddiad Blynyddol i Rieni.
•Mynychu a chadw cofnodion o Gyfarfod Llywodraethwyr a Rhieni wedi dilyn cais gan y Rhieni.
•Cynorthwyo’r Corff Llywodraethol i ddarparu tystiolaeth ar gyfer Gwobrau Ansawdd i’r Corff Llywodraethol.
•Mynychu’r cyrsiau a drefnir ar gyfer Clercod Llywodraethol, a chwblhau’r cwrs mandadol i glercod newydd. Dosbarthu gwybodaeth am hyfforddiant i’r Corff Llywodraethol, cadw cofnod o’r llywodraethwyr fynychodd.
•Cadw cofnod fanwl o’r llywodraethwyr sydd angen mynychu cyrsiau mandadol . Rhagrybuddio unrhyw lywodraethwr sydd mewn perygl o’i ddatgymhwyso oherwydd diffyg mynychu cwrs mandadol.
•Disgwylir i’r Clerc gadw cofnod a gofalu fod Dadleniad Datganiad Troseddol a Datganiad Buddiant pob llywodraethwr yn gyfredol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Angen i weithio oriau anghymdeithasol - fin nos fel rheol y cynhelir cyfarfodydd y Cyrff Llywodraethol.
•Angen bod ar gael i gofnodi mewn 6 cyfarfod mewn blwyddyn
•Angen bod ar gael i gofnodi mewn is-baneli statudol yn ol y gofyn am dal ychwanegol
•Angen bod ar gael i gofnodi mewn cyfarfod ffurfiol ar gais Rhieni gyda Llywodraethwyr
ORIAU CLERCIO LLYWODRAETHOL (GS4) CYNRADD
Paratoi ymlaenllaw cyn cyfarfod3 awr bob cyfarfod
Cofnodion a gohebu wedi cyfarfod7.5awr bob cyfarfod
Cyfarfod 2 awr
Cyfanswm oriau fesul cyfarfod12.5awr
12.5awr x 6 cyfarfod = 75 awr
Gweinyddiaeth - DBS,buddiannau, Cyrsiau Llywodraethwyr, Etholiadau, Aelodaeth, Rhestr Polisiau
7.5 awr mewn blwyddyn
Gweinyddu =7.5 awr
Yn ychwanegol i hyn telir 2 awr ar gyfer hyfforddiant
Cyfanswm oriau = 84.5awr
NODYN
•6 cyfarfod Corff Llywodraethol mewn blwyddyn.
•Pe byddai’r cyfarfod yn mynd dros 2 awr gall y Clerc hawlio gor-amser.
•Pe byddai’r corff angen gwasanaeth y Clerc mewn is-banel neu mwy na 6 cyfarfod gall y Clerc hawlio’r amser hwn yn ychwanegol.