NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
• Y gallu i berthnasu’n dda â phlant ac oedolion.
• Parodrwydd i dderbyn cyfrifoldebau a chyfrannu syniadau
• Personoliaeth ddigynnwrf, amyneddgar a hyblyg.
• Parodrwydd i ddysgu’n barhaus
• Person taclus a threfnus sy’n gallu blaenoriaethu gwaith fel bo’r angen ac yn dangos blaengaredd
• Person hunanysgogol gyda’r gallu i weithio’n annibynnol.
• Sgiliau cyfathrebu da a chadarn
• Person brwdfrydig
• Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
• Gallu arddangos arfer effeithiol a pharhaus yn y disgrifyddion perthnasol o fewn ‘safonau proffesiynol ar gyfer cynorthwyo addysgu’.
• NVQ lefel 3 ar gyfer Cymorthyddion addysg neu gymhwyster cyfwerth
• Sgiliau rhifedd/llythrennedd, cyfwerth a lefel 2 o’r fframwaith cymwysterau cenedlaethol.
• Hyfforddiant cymorth cyntaf priodol.
• Hyfforddiant Amddiffyn Plant
DYMUNOL
• Hyfforddiant Llwybr Dysgu i Gymorthyddion Dysgu - ‘Darpar CALU’
• Llwybr Dysgu i Gymorthyddion Dysgu- ‘Staws CALU’
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
• Profiad helaeth o weithio mewn amgylchedd dysgu gyda phlant o’r oedran priodol.
• Profiad o arwain a chynllunio gwaith grŵp a gwaith dosbarth cyfan
• Profiad o weithio’n annibynnol a gwneud penderfyniadau
• Profiad o reoli gweithgareddau dosbarth a’r lle dysgu ffisegol yn ddiogel.
DYMUNOL
• Profiad o reolaeth llinell staff
• Profiad o weithio gyda theuluoedd
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
• Yn gallu defnyddio TGaCh yn effeithlon i gefnogi dysgu.
• Gwybodaeth weithio lawn o bolisïau /côd ymarfer perthnasol a deddfwriaeth berthnasol.
• Dealltwriaeth dda o ddatblygiad a phrosesau dysg plentyn.
• Gwybodaeth a dealltwriaeth dda o Anghenion Dysgu Ychwanegol
• Deall fframweithiau statudol perthnasol i addysg
• Bod â’r sgiliau angenrheidiol i reoli gweithgareddau dosbarth a’r lle dysgu ffisegol yn ddiogel.
• Deall a gallu defnyddio ystod o strategaethau i ddelio gydag ymddygiad dosbarth yn ei gyfanrwydd a hefyd anghenion ymddygiad unigol.
• Y gallu i hunanwerthuso anghenion dysgu a cheisio cyfleoedd dysgu yn weithredol.
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad – Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall – Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd
Ysgrifennu – Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)