Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cynorthwyo er sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o beryglon gan sicrhau fod mesuriadau diogelwch priodol mewn lle.
•Goruchwylio a rheoli’r traeth yn ddyddiol gan sicrhau fod defnyddwyr yn cydymffurfio a’r holl is-ddeddfau a rheolau.
•Cynghori’r cyhoedd ar faterion diogelwch, a’u hysbysu a gwybodaeth llanw a thywydd.
•Cofrestru badau pŵer a chyflwyno tocynnau lansio a pharcio.
•Casglu a bancio’r ffioedd a chwblhau'r holl waith gweinyddol cysylltiedig.
•Darparu cymorth cyntaf sylfaenol a galw cymorth y gwasanaethau brys yn unol â'r gofyn.
•Cwblhau unrhyw dasgau cynnal a chadw o fewn amserlen benodol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb am holl offer diogelwch y traeth a'r blaendraeth gan hysbysu'r Uwch Swyddog Traeth neu’r Harbwrfeistr ar unwaith o unrhyw ddiffygion. Cyfrifoldeb am ddiogelwch y trwyddedau cofrestru a lansio ac am drosglwyddiad y ffioedd cysylltiol i'r person enwebedig. Hefyd cyfrifoldeb am offer a chelfi a ddefnyddir i gwblhau tasgau dyddiol a’r iwnifform a ddarperir. Cynorthwyo drwy sicrhau bod holl offer gwaith a cherbydau y gwasanaeth wedi eu cynnal i safon ddisgwyliedig.
Prif ddyletswyddau
•Cynghori'r cyhoedd ar faterion diogelwch.
•Cynghori’r cyhoedd ar faterion llanw a thywydd
•Goruchwylio a rheoli'r arfordir o ddydd i ddydd.
•Sicrhau fod pob bad pŵer wedi cofrestru gyda Chyngor Gwynedd cyn caniateir lansio.
•Casglu ffioedd cofrestru a lansio fel y cyhoeddwyd gan y Cyngor gan fancio’r holl arian a chwblhau’r holl waith gweinyddol cysylltiedig.
•Cyflwyno taflenni diogelwch i ddefnyddwyr y traeth.
•Sicrhau fod y traeth yn rhydd o unrhyw beryglon a sbwriel gan sicrhau fod rheolwr yn ymwybodol o unrhyw beryglon ar unwaith.
•Archwilio holl offer diogelwch arfordirol yn unol â’r drefn a chwblhau’r ffurflenni priodol.
•Cynghori'r cyhoedd ar bolisïau, deddfau ac is-ddeddfau lleol.
•Sicrhau fod y ffurflenni gwybodaeth briodol yn cael eu cwblhau yn unol ar drefn.
•Cynorthwyo'r gwasanaethau brys a darparu cymorth cyntaf sylfaenol yn ôl y galw.
•Cynorthwyo swyddogion yr harbwr gyda gwaith cynnal a chadw fel bo angen.
•Sicrhau fod cychod ar y môr yn cydymffurfio a IRPCS/ is-ddeddfau a pholisïau gan hysbysu rheolwyr o unrhyw ddigwyddiadau.
•Sicrhau glendid y traeth a thiroedd cyfagos yn ddyddiol.
•Glanhau cerbydau'r gwasanaeth yn ddyddiol.
•Sicrhau bod gofynion gwobrau traeth yn cael eu cyrraedd.
•Sicrhau bod y cyhoedd yn cydymffurfio ac is-ddeddfau a gorchmynion cŵn.
•Gwaredu a chyrff anifeiliaid o’r arfordir yn unol ar ofyn
•Diweddaru gwybodaeth yn yr hysbysfyrddau fel y bydd angen.
•Cwblhau unrhyw dasgau cynnal a chadw yn unol â’r gofyn gan sicrhau fod unrhyw waith yn cael ei wneud drwy gydymffurfio yn llawn gydag asesiadau risg.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Pob penwythnos, Gwyliau Banc, a rhai nosweithiau.
•Rhaid hefyd fod yn barod i’w galw allan ar unrhyw adeg mewn achosion brys neu mewn argyfwng.
•Fe fydd diwrnodau seibiant neu wyliau yn cael eu trefnu drwy'r rheolwr llinell.
•Bydd oriau gwaith yn 37 awr ar gyfartaledd.