Swyddi ar lein
Rheolwr Busnes a Chyllid - Ysgol Brynrefail, Llanrug
£39,186 - £41,418 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 24-27197
- Teitl swydd:
- Rheolwr Busnes a Chyllid - Ysgol Brynrefail, Llanrug
- Adran:
- Addysg
- Gwasanaeth:
- Ysgolion
- Dyddiad cau:
- 16/05/2024 12:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol
- Cyflog:
- £39,186 - £41,418 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS2
- Lleoliad(au):
- Ysgol Brynrefail, Llanrug
Manylion
Hysbyseb Swydd
ADDYSG - YSGOLION UWCHRADD
YSGOL BRYNREFAIL, LLANRUG
(Ysgol Gyfun 11 - 18: 789 o ddisgyblion)
Yn eisiau: Cyn gynted a phosib
RHEOLWR BUSNES A CHYLLID
Mae’r Llywodraethwyr yn chwilio am berson brwdfrydig a blaengar i gymryd cyfrifoldeb am weinyddiad effeithiol yr ysgol, i reoli cyllideb ddirprwyedig yr ysgol ac i weithio’n rhagweithiol mewn partneriaeth â’r Uwch Dim Rheoli i sicrhau gwasanaethau cymorth effeithiol ac effeithlon i gyflawni blaenoriaethau’r ysgol. Disgwylir i’r ymgeisydd fod â sgiliau cyfrifiadurol a gweinyddol o safon uchel, sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar, wrth drin pobl, ac ar bapur ynghyd â phrofiad/dealltwriaeth o reoli cyllideb.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa PS2 pwyntiau 31-33 (£39,186 - £41,418 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol hefo’r Pennaeth Mr Arwyn Williams, Rhif ffôn: 01286 672381
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i’w cael gan y Pennaeth, Mr Arwyn Williams, Ysgol Brynrefail, Ffordd Crawia, Llanrug, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4AD. Rhif ffôn: 01286 672381;
e-bost: pennaeth@brynrefail.ysgoliongwynedd.cymru Os dymunir dychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o’r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD IAU, 16 MAI 2024
(This is an advertisement for the post of a School Business and Finance Leader at Ysgol Brynrefail, Llanrug for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential).
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.
The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate for the successful applicant before they can start at the school.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOLY gallu i:
• Arwain, cynnal, datblygu a gweithredu fel aelod o dim
• Weithio o dan bwysau yn hyblyg ac ymatebol fel bo gofyn
• Ddelio’n briodol a gwybodaeth sensitif neu gyfrinachol
• flaenoriaethu a chymryd cyfrifoldeb, gan ddirprwyo’n effeithiol yn ol yr angen
• ddangos blaengaredd
• meddwl, cynllunio a gweithtredu ar lefel strategol
DYMUNOL
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
• Parodrwydd i fod yn rhagweithiol i ddatblygu’n broffesiynol barhaus er mwyn ymateb i ofynion newidiol y swydd
DYMUNOL
• Gradd neu gymhwyster cyfatebol
• Profiad helaeth o reoli swyddfa a chymhwyster proffesiynol Lefel 4 neu uwch mewn un o’r meysydd isod:Gweinyddiaeth/ Rheolaeth / Arweinyddiaeth / Busnes / Cyllidol/ Ysgrifenyddol / Technoleg Gwybodaeth
Diploma Uwch Ysgrifenyddol
Profiad o weithio ar systemau SIMSPROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
• Profiad o reoli a chynghori ar faterion cyllid a / neu adnoddau dynol
• Profiad o weinyddu ar lefel uwch
• Profiad o arwain tim llwyddiannus
• Profiad o reoli newid yn llwyddiannus
• Ymwybyddiaeth o waith Ysgolion ac yr Adran Addysg
• Ymwybyddiaeth o reoliadau llywodraethu Ysgolion
• Ymwybyddiaeth o ofynion diogelu mewn ysgolionDYMUNOL
• Profiad o weithio ym maes addysg
• Profiad o sefydlu systemau gweinyddol
• Profiad o weithio ym maes ADY a chynhwysiad
• Profiad o weithio ar systemau SIMSSGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
• Sgiliau cyfathrebu cryf yn y Gymraeg a’r Saesneg gyda’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol gydag ystod o gynulleidfaoedd.
• Sgiliau trefnu a blaenoriaethu
• Arddangos lefel uchel o sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol
• Ymwybyddiaeth o drefniadau Cyllidol ac Adnoddau Dynol ym maes Addysg
• Sgilau TG o ansawdd uchel. Gwybodaeth helaeth o systemau Office, TG a thechnoleg gyfrifiadurol gan gynnwys Gwybodaeth eang o ddatblygu a chynhyrchu taenlenni
• Gallu i weithio o dan bwysau ac i derfynnau amser
• Gweithio mewn amgylchedd prysur lle mae gofynion cyson yn amharu ar lif y gwaith
• Gallu a pharodrwydd i fod yn hyblyg
• Gallu i ddadansoddi sefyllfaoedd, llunio adroddiadau a gwneud argymhellion clir o fewn meysydd o gyfrifoldebDYMUNOL
• Gwybodaeth am drefniadau Cyllidol ac Adnoddau Dynol ym maes addysg ynghyd a’r gallu i ddehongli data cyllidol Ysgolion ac adrodd arnynt
• Profiad o ddefnyddio systemau SIMS
• Profiad o greu safle we effeithiol ac i bwrpasANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad
Gallu cyflwyno pob agwedd o’r swydd ar lafar yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gystal a’i gilydd.Darllen a Deall
Gallu defnyddio a dehongli’n gywir unrhyw wybodaeth o amrywiol ffynonellau drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar gyfer cyflawni holl agweddau’r swydd.Ysgrifennu
Gallu cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg mewn modd gwbl hyderus gan ddefnyddio’r dull a’r iaith fwyaf priodol ar gyfer y pwnc a’r gynulleidfa
Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir
rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.
Swydd Ddisgrifiad
Teitl y Swydd: Rheolwr Busnes | ||||
Gwasanaeth: Ysgolion | ||||
Yn gyfrifol i: Pennaeth Oriau Gweithio: 37 awr yr wythnos (Llawn amser, gwyliau i’w cymryd yn ystod gwyliau ysgol.) | ||||
Pwrpas y Swydd | ||||
| ||||
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau _______________________________________________________________________________ Arweinyddiaeth Strategol
Cyllid
| ||||
Llywodraethwyr
Rheoli Adnoddau Dynol
Yr hawl i amrywio
Nid yw’n fwriad i’r swydd ddisgrifiad hon fod yn restr cyflawn o’r ddyletswyddau. Mae Ysgol Brynrefail yn cadw’r hawl, wedi ymgynghoriad priodol gyda deilydd y swydd i amrywio’r cyfrifoldebau a dyletswyddau er mwyn ymateb i newid yn ngofynion yr ysgol.
|