ADDYSG - ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD
Yn eisiau: Cyn gynted â phosib
Uwch Athro/awes Cynhwysiad Gwynedd a Môn.
Swydd dros dro hyd at flwyddyn o’r penodiad, yn y lle cyntaf (Gellir ystyried Secondiad)
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sy’n frwdfrydig i weithio gyda disgyblion ag anawsterau yn y maes Cynhwysiad. Mi fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gyda disgyblion ar draws Gwynedd ac Ynys Mon mewn ysgolion a chanolfannau. Byddai profiad o gefnogi disgyblion yn y maes cynhwysiad yn fanteisiol. Bydd hyfforddiant yn cael ei gynnig i’r ymgeiswyr llwyddiannus.
Mae lleoliadu'r swydd yn amrywio oddi fewn Gwynedd ac Ynys Mon a bydd gofyn i'r ymgeisydd deithio i ardaloedd eraill yn achlysurol. Cyngor Gwynedd fydd y cyflogwr ar gyfer y Gwasanaeth.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg ar Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£30,742 - £47,340) ynghyd a lwfans anghenion addysgol arbennig (£2,585 - £5,098) a Lwfans CAD 2b (£5,447) y flwyddyn yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg ar Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon. Mae’r adran yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Am sgwrs anffurfiol a manylion pellach am y swydd gellir cysylltu â Ellen Rowlands, Rheolwr Cynhwysiad ar rif ffôn 01286 679007.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd.
DYDDIAD CAU: 10:00y.b. Dydd Llun, 13 o Fai 2024
Cyfweliadau i’w gynnal 21.05.2024.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallant gychwyn yn y swydd.
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
(This is an advertisement for a Temporary Senior Inclusion Teacher Gwynedd and Môn, for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.
The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start in the role).
This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.