Nodweddion personol
Hanfodol
•Brwdfrydedd, egni, dyfalbarhad a'r ewyllys i ddatrys problemau.
•Gonestrwydd, hunan hyder, pendant a hyblyg.
•Yn meddu ar hunan-ysgogiad.
•Gallu i dderbyn cyfrifoldebau ac i gyfathrebu'n effeithiol.
•Gallu i dynnu grwpiau ac unigolion i gydweithio.
•Personoliaeth ddiplomataidd a chroesawgar.
•Gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dim.
•Defnydd o Gar .
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
•Cymhwyster sydd yn cyfateb i NVQ lefel 4 neu’n uwch
Dymunol
•Gradd neu gymhwyster cyfwerth mewn pwnc sy’n berthnasol i anghenion y swydd
•Cymhwyster ECDL neu gynhwyster cyfwerth yn nefnydd cyfrifiaduron
Profiad perthnasol
Hanfodol
•Profiad o gyfathrebu gydag unigolion a grwpiau ar lefel eang.
•Cefndir o weithio fel aelod o dîm, ac hefyd fel unigolyn heb oruchwyliaeth.
Dymunol
•Profiad o ddatblygu a rheoli prosiectau.
•Profiad o dargedu grantiau o ffynonellau ariannol amrywiol.
•Profiad o waith a phrosesau datblygu cymuned neu economaidd.
•Profiad o gynllunio strategaethau adfywio ac economaidd.
•Profiad o ddatblygu a gweithredu prosiectau adfywio.
•Profiad o drefnu digwyddiad cymunedol.
•Profiad o weithio mewn Llywodraeth Leol
•Profiad o redeg menter, busnes neu o reoli mudiad gwirfoddol.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
•Sgiliau ysgogi eraill.
•Sgiliau arwain.
•Sgiliau cyhoeddus.
•Sgiliau cyfathrebu - yn llafar ac ysgrifenedig, yn y Gymraeg a'r Saesneg.
•Sgiliau perthnasol i allu delio gyda chwsmeriaid /pobl o bob oedran a chefndir.
•Sgiliau perthnasol ar gyfer paratoi strategaethau ac achosion am grantiau.
•Sgiliau rheoli prosiect, gan gynnwys rheolaeth ariannol.
•Dealltwriaeth o'r her sydd yn wynebu pentrefi gwledig Gwynedd a
•gwybodaeth eang am y maes adfywio, yn cynnwys yr agweddau economaidd, cymunedol ac amgylcheddol.
•Sgiliau gweinyddol a chyfrifiadurol.
Dymunol
•Gwybodaeth am yr ardal ac amcanion Cyngor Gwynedd.
•Gwybodaeth am fethodoleg datblygu cymuned.
•Gwybodaeth am ganllawiau rhaglenni ariannol.
•Dealltwriaeth am becynnau meddalwedd cyfrifiadurol Windows.
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)